Mae sefydliadau hawliau dynol a hawliau plant ledled y DU wedi mynegi eu pryderon  ynghylch cynigion Llywodraeth y DU i ddisodli Deddf Hawliau Dynol y DU 1998 (HRA 1998)[i] gyda Bil Hawliau. Cyhoeddwyd y Mesur Hawliau newydd yn swyddogol yn Araith y Frenhines ar 11 Mai.

Ysgrifennodd  30 o sefydliadau plant at yr Arglwydd Ganghellor a’r Ysgrifennydd Gwladol dros Gyfiawnder a’r Dirprwy Brif Weinidog Dominic Rabb cyn y cyhoeddiad hwn yn amlinellu eu pryderon. Mae Canolfan Gyfreithiol y Plant a’r Arsyllfa ar Hawliau Dynol Plant yn rhannu’r pryderon hyn.

Bydd cyflwyno Bil Hawliau fel y’i cynigiwyd gan Lywodraeth y DU yn gwanhau amddiffyniadau hawliau dynol plant yn ddifrifol. Ers 1998, mae’r HRA wedi chwarae rhan hanfodol yn y gwaith o ddiogelu a hyrwyddo hawliau’r plant mwyaf agored i niwed sy’n byw yn y DU.

Mae HRA 1998 yn ymgorffori nifer o hawliau dynol (ond nid pob un) yng nghyfraith y DU: dyma’r hawliau a nodir yn y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol (ECHR).  Mae HRA 1998 hefyd yn rhoi cyfle i unrhyw un sy’n ystyried bod achos o ymyrryd ar eu hawliau ddod â’u hachos gerbron llys barn. Mae hyn wedi arwain at nifer o achosion lle mae plant wedi dibynnu ar y llysoedd i ddarparu ateb pan fo achos o ymyrryd ar eu hawliau neu fygythiad i’w hawliau. Mae’r achosion hyn wedi cryfhau’r amddiffyniad y mae plant yn ei gael yn erbyn niwed a cham-drin yn y DU ac wedi gwella hawliau plant.

Ar hyn o bryd, mae Adran 6 o HRA 1998 yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus yn y DU weithredu’n unol â hawliau dynol a amlinellir yn yr ECHR. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i gyrff cyhoeddus fel sefydliadau gofal, ysgolion a ariennir yn gyhoeddus, awdurdodau lleol, yr heddlu a’r sefydliadau diogel i bobl ifanc weithredu’n unol â rhwymedigaethau hawliau dynol a amlinellir yn y ddeddfwriaeth.

Rhai o’r prif bryderon ynghylch cynigion Llywodraeth y DU yw y byddant yn creu rhwystrau o ran mynediad plant i’r llysoedd pan fydd cyrff cyhoeddus yn methu â chydymffurfio â hawliau dynol plant, wedi’u gwarantu gan yr ECHR. Y rheswm am hyn yw bod Llywodraeth y DU am gyflwyno cam caniatâd’ ar ddechrau achos cyfreithiol hawliau dynol. Mae hyn yn golygu y bydd yn rhaid i blant sydd wedi profi ymyriadau â’u hawliau dynol ddangos yn gyntaf eu bod wedi wynebu ‘anfantais sylweddol’ yn sgil cam-drin ei hawliau. Bydd hyn yn ychwanegu rhwystr newydd i blant sydd eisoes yn agored i niwed ac sy’n ei chael hi’n anodd ymdopi â phrosesau cyfreithiol, yn ogystal â gwneud achosion yn ddrutach ac yn fwy cymhleth.

Fel y mae’r sefydliad hawliau dynol Liberty wedi’i wneud yn glir, ‘mae unrhyw un sy’n gwneud hawliad hawliau dynol eisoes o dan anfantais sylweddol: maent yn cystadlu yn erbyn pŵer corff cyhoeddus’.  Mae hyn hyd yn oed yn fwy heriol i blentyn sy’n dymuno mynnu ei hawliau.[ii]

Mae Llywodraeth y DU hefyd yn ceisio newid y diffiniad o ‘awdurdodau cyhoeddus’ a bydd hyn yn golygu na fydd HRA 1998 bellach yn berthnasol i ddarparwyr gwasanaethau cyhoeddus preifat. Ar hyn o bryd, mae llawer o sefydliadau (e.e., cartrefi plant, canolfannau hyfforddi diogel) yn cael eu rhedeg gan ddarparwyr preifat, felly mae’n hanfodol bod hawliau dynol plant yn y sefydliadau hyn hefyd yn cael eu diogelu.

Yn ogystal â hyn, mae Llywodraeth y DU am atal llysoedd rhag gallu diystyru is-ddeddfwriaeth sy’n anghydnaws â’r ECHR. Mae hyn hefyd yn peri pryder mawr gan fod is-ddeddfwriaeth yn cynnwys rheoliadau sy’n cael effaith sylweddol ar nifer o elfennau o fywydau plant. e.e., diwygio lles.

 

Dywed Mudiadau Trydydd Sector Cymru y bydd diwygiadau yn arwain at sefyllfa lle bydd cyflawni hawliau dynol yn llithro

Ategir yr holl bryderon hyn gan sefydliadau cymunedol yng Nghymru.  Paratôdd CGGC ymateb manwl i lywodraethau’r DU sydd i’w weld yma.  Mae’r ddogfen hon yn dadlau nad oes angen newid HRA 1998 oherwydd ei bod yn gweithio’n dda ac y bydd diwygio’n arwain at lithro’n ôl wrth ddiogelu a chyflawni hawliau dynol yn y DU. Mae’r glymblaid hon o sefydliadau yn dadlau y bydd cynigion Llywodraeth y DU yn lleihau mynediad at gyfiawnder ac atebolrwydd Llywodraeth y DU ac awdurdodau cyhoeddus.  Maent hefyd yn esbonio bod cynigion Llywodraeth y DU ei hun yn seiliedig ar asesiad anghywir o sut mae HRA 1998 yn gweithredu’n ymarferol ac yn groes i ganfyddiadau eu Hadolygiad Annibynnol o’r Ddeddf Hawliau Dynol.

Mae CGGC yn tynnu sylw at gefnogaeth i’r ECHR a HRA 1998 yng Nghymru ac yn mynegi pryder bod gan gynigion Llywodraeth y DU y potensial i ymyrryd â chynnydd yng Nghymru.

 

Dylid cael ymagwedd unigryw tuag at hawliau dynol yng Nghymru

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi bod yn glir wrth fynegi eu pryderon ynghylch cynnig Llywodraeth y DU mewn datganiad ysgrifenedig ym mis Ionawr eleni, gan dynnu sylw hefyd at y ffaith bod HRA 1998 yn hanfodol i ddatganoli gan ei fod wedi’i grybwyll yn benodol yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 fel un sy’n  pennu safonau hawliau dynol ar gyfer Gweinidogion Cymru a’r Senedd.

Cynhaliwyd ymchwil fanwl i gryfhau a hyrwyddo hawliau dynol a chydraddoldeb gan brifysgolion Abertawe a Bangor ar gyfer Llywodraeth Cymru yn 2020-21. Mae’r adroddiad ymchwil i’w weld yma, mae’n nodi 40 o argymhellion ar gyfer hyrwyddo hawliau dynol yng Nghymru. Un o’r argymhellion yw cyflwyno Deddf Hawliau Dynol i Gymru, i ymgorffori hawliau dynol yn ogystal â’r ECHR yng Nghyfraith Cymru.

Mae’n ymddangos bod cyhoeddiad Llywodraeth y DU eu bod yn mynd i fwrw ymlaen â’u Bil Hawliau, wedi sbarduno Llywodraeth Cymru i weithredu. Mewn dadl yn y Senedd yn y Cyfarfod Llawn ar 3 Mai 2022, dywedodd y Cwnsler Cyffredinol Mick Antoniw: “mae gan Lywodraeth Cymru ymrwymiad clir a hirsefydlog i hyrwyddo a diogelu hawliau dynol. Mae hyn yn rhan annatod o ddeddfwriaeth sefydlu Llywodraeth Cymru, ac rydym yn cymryd camau newydd i gryfhau a hyrwyddo hawliau dynol yng Nghymru”.

Mewn datganiad ysgrifenedig gan Lywodraeth Cymru ar 3 Mai, dywedodd y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol fod Llywodraeth Cymru “wedi ymrwymo i gynllun gweithredu manwl a fydd yn ystyried ymgorffori Confensiynau’r Cenhedloedd Unedig yng nghyfraith Cymru, a allai arwain o bosibl at Fil Hawliau i Gymru”

Mae hyn yn gwrthgyferbynnu â chynnig Llywodraeth y DU sy’n golygu y bydd hawliau dynol yn llithro’n ôl.

 

Ymgorffori CCUHP yn llawn yng Nghymru

Beth mae hyn i gyd yn ei olygu i hawliau plant yng Nghymru? Mae gan Gymru eisoes Fesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011 sy’n gosod dyletswydd ar Weinidogion Llywodraeth Cymru i roi sylw dyledus i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn a’i brotocolau dewisol wrth arfer ei holl swyddogaethau. Erbyn hyn, mae awydd i fynd ymhellach na hyn i ymgorffori CCUHP yng Nghyfraith Cymru, fel y gellir dibynnu arno’n uniongyrchol yn y llys – yn yr un modd ag y mae HRA 1998 yn ei wneud ar gyfer yr ECHR.

Mae Llywodraeth y DU yn cynnig cymryd cam yn ôl i leihau’r amddiffyniad a roddir gan HRA 1998. Teimlwn na ddylai’r datblygiad annerbyniol hwn arafu cynnydd yng Nghymru, ond y realiti yw bod ganddo’r potensial i gael ‘effaith ddychrynllyd’ os bydd Gweinidogion Cymru yn penderfynu cymryd agwedd ofalus, rhag ofn i Lywodraeth y DU herio eu gweithredoedd.

Yn ffodus, nid oes unrhyw awgrym bod Gweinidogion Cymru yn camu oddi wrth eu hymrwymiad i hawliau dynol – mewn gwirionedd, fel y nodwn uchod, i’r gwrthwyneb. Mae’n dderbyniol iawn bod Llywodraeth Cymru yn sefyll yn gadarn yn ei hymrwymiad i gryfhau deddfwriaeth hawliau dynol yng Nghymru.

 

 

[i] Deddfwriaeth y DU sy’n ymgorffori’r hawliau sydd yn y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol yng nghyfraith y DU.

[ii] Simon Hoffman (2019), ‘The UN convention on the rights of the child, decentralisation and legislative integration: a case study from Wales’ The International Journal of Human Rights, 23:3, 374-391, gweler y drafodaeth a’r cyfeiriadau yn nhroednodyn 23, DOI: 10.1080/13642987.2018.1558978