Southdown 2017-18 (Gwaith dilynol)
PY: Sut allwn ni helpu plant sy’n llwgu?
Dulliau: Plickers; Ymweliad arbenigol
Canfyddiadau: Mae 7 banc bwyd yn Sir y Fflint. Bu banciau bwyd yn bodoli yng Nghymru ers 10 mlynedd. Dim ond 3-4 gwaith y gallwch chi ymweld â nhw mewn 6 mis. Oedran cyfartalog y defnyddiwr oedd 20 – 40. Byddai angen i rywun gael taleb i dderbyn bwyd o’r banc bwyd. Maen nhw’n cael gwerth 4 diwrnod o fwyd. Mae disgyblion yr ysgol eisiau helpu. Roedd mwy o ddisgyblion yn poeni am blant dramor yn hytrach na phlant yng Nghymru.
Darganfu’r grŵp y gall y pennaeth rannu talebau os yw eu hangen ar deuluoedd.
Canlyniadau / Effaith:Dangosodd y grŵp eu canfyddiadau i’r ysgol ac anfon llythyr adref i ddweud wrth rieni am y fasged fwyd newydd yn yr ysgol ar gyfer y banc bwyd. Basged fwyd wedi’i rhoi yn y dderbynfa. Banc bwyd yn cael ei hyrwyddo o fewn gwasanaeth ysgol a phosteri wedi’u gosod o amgylch y tu allan i’r ysgol i godi ymwybyddiaeth rhieni. Dosbarthwyd bwyd i’r Banc Bwyd pan ddaeth y fasged yn llawn.