Nantymoel 2015 – 16
7 Nod Llesiant Cymru · Addysg o Ansawdd · Cymru Cydnerth · Cymru Iachach · Dinasoedd a Chymunedau Cynaliadwy · Gweithio mewn Partneriaeth i Gyflawni Nodau · Gwybodaeth am hawliau / CCUHP · Hawliau sifil a rhyddid (yn cynnwys hunaniaeth, gwybodaeth, preifatrwydd / delwedd, rhyddid i ymgysylltu, cyfarfod, meddwl, cydwybod a chrefydd, peidio â gwahaniaethu a rhwymedïau) · Iechyd a Llesiant Da · SDGS · Themâu CCUHP · Yr amgylchedd ac amwynderau (yn cynnwys gweithredu yn yr hinsawdd, llygredd, cadwraeth, economi gylchol)
PY: Sut allwn ni wella gwybodaeth a dealltwriaeth o hawliau plant?
Dulliau: Arolwg ar-lein trwy @lleisiaubach Twitter
Canfyddiadau: Roedd 83% yn dymuno gwybod mwy; dywedodd 53% y dylid dysgu am hawliau o 5 oed neu iau, yn ogystal ag oedrannau hŷn; 96% y dylid dysgu hawliau mewn ysgolion; roedd plant yn teimlo iddynt gael mwy o wrandawiad ac iddynt gymryd mwy o ran mewn gwneud penderfyniadau gartref ac yn yr ysgol nag yn y gymuned; dylai athrawon, rhieni, arbenigwyr a llywodraethau i gyd chwarae rhan; roedd 70% yn ffafrio cynnal grwpiau y tu allan i’r ysgol i blant cael gwrdd a siarad am bethau sy’n bwysig iddynt.
Canlyniadau: Rhannwyd ymchwil ac argymhellion gyda’r ysgol, cynhaliwyd gweithdy yn yr ysgol gyda thîm ymgysylltu ag ieuenctid Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Cerdd hyrwyddo wedi’i chreu i’w harddangos yn yr ysgol.