Y Drenewydd Plant yn Gyntaf, Grŵp Ymchwil Hafrhandir 2018 – 19

PY: A oes digon o swyddi ar gael yn y Drenewydd?

Dulliau: SurveyMonkey

Canfyddiadau:

  • Os nad oes gennych radd yna bydd yn anoddach cael swydd.
  • Mae’n anoddach cyfnewid swyddi yn y Drenewydd.
  • Rydyn ni wedi darganfod y bydd angen cyfweliad ar gyfer rhai swyddi tra bod eraill yn hawdd i’w cael!
  • Mae’r rhyngrwyd wedi cymryd lle’r ganolfan waith.
  • Mae llai o bobl na’r disgwyl eisiau cychwyn eu busnes eu hunain

Canlyniadau / Effaith:

Cynhaliwyd cyfarfod effaith yng Nghanolfan Adnoddau Teuluol y Drenewydd. Mynychodd aelodau o’r cyngor tref yn ogystal â Maer y Drenewydd. Copïau o’r canfyddiadau wedi eu hanfon at aelodau’r Cyngor Tref ac i’r Ganolfan Waith. Addawodd y Ganolfan Waith a Chyngor y Dref rannu’r canfyddiadau â’u cydweithwyr.