Chwilog 2015 – 16

7 Nod Llesiant Cymru · Addysg / gweithgareddau hamdden / diwylliannol (gan gynnwys ysgol, hyfforddiant, sgiliau a chyflogadwyedd) · Addysg o Ansawdd · Anabledd, iechyd a llesiant sylfaenol (yn cynnwys iechyd, hybu iechyd, llesiant) · Chwarae, hamdden, adloniant, diwylliant a chelf · Cydweithio · Cymru Iachach · Cymru o Gymunedau Cydlynus · Cymuned ( yn cynnwys pynciau'n ymwneud â llesiant cyhoeddus cyffredinol, tlodi, allgáu cymdeithasol sy'n effeithio ar eraill, diogelwch y cyhoedd a gwasanaethau cyhoeddus) · Cynnwys · Dinasoedd a Chymunedau Cynaliadwy · Gweithio mewn Partneriaeth i Gyflawni Nodau · Hawliau sifil a rhyddid (yn cynnwys hunaniaeth, gwybodaeth, preifatrwydd / delwedd, rhyddid i ymgysylltu, cyfarfod, meddwl, cydwybod a chrefydd, peidio â gwahaniaethu a rhwymedïau) · Iechyd a Llesiant Da · SDGS · Themâu CCUHP · Y 5 ‘Dull o Weithio’ tuag at nodau Llesiant Cymru

PY: Pa fath o glybiau ar ôl ysgol y mae plant eu heisiau yn ein hysgol?

Dulliau: holiadur i rieni; holiadur i ddisgyblion ysgol.

Canfyddiadau: Byddai 100% o rieni yn barod i’w plentyn fynd i glwb ar ôl ysgol, a byddai 64% yn barod i helpu. Roedd 94% o’r disgyblion eisiau mwy o glybiau yn yr ysgol; roedd 65% eisiau gwahanol glybiau ar gyfer plant hŷn ac iau; hoffai hanner gael clwb awr o hyd gyda’r gweddill wedi’i rannu rhwng cyfnod byrrach a hirach; roedd hanner yn ffafrio cynnal tri chlwb yr wythnos gyda’r gweddill wedi’i rannu rhwng cynnal un a dau.

Canlyniadau: Cynllun y grŵp prosiect wedi’i rannu â’r ysgol: gwahanol glybiau ar gyfer plant llai a hŷn; treialu gwahanol fathau, 1 yr wythnos ar y dechrau, cynnwys yr Urdd ac eraill fel gwesteion i amrywio gweithgareddau, rhannu’r trefnu.

Mynychodd y grŵp prosiect a’r athrawon gynhadledd ym Mhrifysgol Bangor i rannu eu hymchwil ym mis Mehefin 2016 a chymryd rhan mewn gwerthusiad o’r prosiect.