Mae No More Knives, gan Christina Gabbitas yn llyfr newydd sy’n edrych ar bump o ffrindiau a sut maent yn cael eu denu at linellau cyffuriau a throseddau cyllyll.

Mae’r stori’n ymdrin â realiti anodd hynt pobl ifanc sy’n ymwneud â llinellau cyffuriau, gan gynnwys yr hyn roedd disgwyl iddynt ei wneud i ennill arian i’r gang, a sut y cafodd un ffrind ei anafu’n ddifrifol o ganlyniad i droseddau cyllyll.

Profodd y pum ffrind sefyllfaoedd nad oeddent wedi dod ar eu traws o’r blaen, ac roedd yn brofiad dychrynllyd iddynt, fel y byddai i unrhyw berson ifanc. Ond… gan fod arweinyddion y gangiau’n portreadu’r ffordd o fyw fel un gyffrous a deniadol, gyda digon o arian i’w ennill, a heb lawer o ganlyniadau pe baent yn cael eu dal gan yr heddlu, neidiodd y ffrindiau ar y cyfle i ennill ychydig o arian ychwanegol.

Fodd bynnag, roedd yr hyn a ddywedodd yr arweinyddion wrthynt yn wahanol iawn i’r gwirionedd. Mae llinellau cyffuriau’n treiddio i fyd tanddaearol peryglus, ac mae llawer o bobl ifanc yn cael eu perswadio i ymuno â gangiau drwy addewidion ffug.

Mae llinellau cyffuriau a throseddau cyllyll yn cyd-fynd â’i gilydd, a gallant arwain at erlyniadau troseddol difrifol, ac anafiadau i bawb sy’n rhan ohonynt. Mae’r stori’n cloi’n drychinebus gydag un o’r ffrindiau mewn ysbyty ar ôl dioddef trosedd cyllyll, ac mae gweddill y ffrindiau’n cael eu hebrwng i orsaf yr heddlu i gael eu holi.

Mae No More Knifes yn disgrifio rhywbeth mae llawer o blant a phobl ifanc yng Nghymru’n ei brofi. Mae’n dangos y peryglon a all ddigwydd drwy fod yn rhan o linellau cyffuriau, a’r trais a brofir drwy ymuno â gangiau o’r fath.

Y gyfraith yng Nghymru

Nid yw cyfreithiau sy’n ymwneud â throseddu wedi’u datganoli i Gymru. Felly, mae’r cyfreithiau sy’n delio â llinellau cyffuriau’n cael eu gwneud ar lefel y DU.

Mae diffiniad Llywodraeth y DU o Linellau Cyffuriau i’w gael yn y Strategaeth Trais Difrifol (2018): “…term a ddefnyddir i ddisgrifio gangiau a rhwydweithiau troseddol cyfundrefnol sy’n allforio cyffuriau anghyfreithlon i un neu fwy o ardaloedd mewnforio (o fewn y DU), gan ddefnyddio llinellau ffôn symudol pwrpasol neu fath arall o ‘linell delio’. Maent yn debygol o gamfanteisio ar blant ac oedolion agored i niwed i symud (a storio) y cyffuriau ac arian a byddant yn aml yn defnyddio gorfodaeth, bygythiadau, trais (gan gynnwys trais rhywiol) neu arfau.”

Yn y DU mae’r ‘oedran cyfrifoldeb troseddol’ (h.y. yr oedran pan ellir eich cyhuddo o drosedd) mor ifanc â 10 oed. Mae hyn yn golygu pan fyddwch yn 10 oed tybir eich bod yn ddigon hen i dderbyn cyfrifoldeb am eich gweithredoedd.

Mae Llinellau Cyffuriau’n cynnwys ystod eang o droseddau, gan gynnwys:

  • Arfau Ymosodol.
  • Trais.
  • Troseddau Rhywiol.
  • Caethwasiaeth Fodern.
  • Troseddau Cychwynnol (Annog neu gynorthwyo trosedd)

Mae rhai o’r prif gyfreithiau a all fod yn gymwys os bydd person ifanc yn ymwneud â gweithgarwch llinellau cyffuriau’n cynnwys:

  • Deddf Camddefnyddio Cyffuriau 1971
  • Adran 170 o Ddeddf Rheoli Tollau Tramor a Chartref 1979
  • Deddf Caethwasiaeth Fodern 2015

 

Eich hawliau yng Nghymru

Llofnododd Llywodraeth y DU Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (UNCRC) yn 1991, ac felly fel deiliaid hawliau, dylai plant allu disgwyl i Lywodraeth y DU gefnogi’r canlynol;

  • Yr hawl i gael eu gwarchod rhag camfanteisio a chael eu gorfodi i ymuno â gangiau (Erthygl 36).
  • Yr hawl i gael help meddygol os ydych wedi’ch anafu drwy drais a throseddau cyllyll (Erthygl 39).
  • Yr hawl i garchar fod yn opsiwn olaf ac fel canlyniad, i gael eich rhoi mewn carchar ar gyfer plant a phobl ifanc yn unig, ac i gael cysylltiad â’ch teulu os byddwch yn mynd i garchar (Erthygl 37).
  • Yr hawl i gael help cyfreithiol a thriniaeth deg. Dylech hefyd gael cynnig datrysiadau fel y gallwch gefnu ar fywyd mewn gang, a throseddau cyllyll fel y gallwch fyw’n ddiogel (Erthygl 40).

Yng Nghymru, mae Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011 yn mynd gam ymhellach i sicrhau bod hawliau plant yn cael eu gwarchod o dan gyfraith Cymru, ac mae’n mabwysiadu’r UNCRC.

Mae hyn yn golygu bod gan bob plentyn a pherson ifanc yng Nghymru hawliau penodol, a elwir yn Erthyglau. Mae Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am wneud yn siŵr bod hawliau pob plentyn a pherson ifanc yng Nghymru’n cael eu cynnal. I wneud yn siŵr bod yr hawliau’n cael eu cynnal, mae’r Llywodraeth wedi datblygu’r Asesiad o Effaith ar Hawliau Plant i sicrhau eu bod yn ystyried hawliau plant wrth ddatblygu deddfwriaeth.

 

Os ydych chi’n berson ifanc sydd mewn trafferth â’r heddlu, mi gewch ragor o wybodaeth am eich hawliau yma

Os hoffech wybod mwy am eich hawliau UNCRC yng Nghymru, cliciwch ar y ddolen isod.

https://www.savethechildren.org.uk/content/dam/global/reports/uncrc-child-friendly-version1.pdf

Os hoffech wybod mwy am brosiect yr Awduron ar droseddau cyllyll a llinellau cyffuriau, cliciwch ar y ddolen isod.www.nomoreknifecrime.com