- Mae eich hawliau yn rhoi rheolaeth i chi a’ch rhieni dros triniaeth feddygol yn y synnwyr ehangach, yn cynnwys brechlynnau achlysurol a pigiadau
- Cyn gwneud penderfyniad dros gael brechlyn neu beidio, mae’r hawl gennych i dderbyn gwybodaeth ynglŷn â’r brechlyn, a pham ei fod yn cael ei argymell
- Mae eich hawl i gyfrinachedd yn ymestyn i drafodaethau yr ydych yn ei gael gyda’r nyrs ysgol
Mae pigiadau’n eich diogelu rhag rhai afiechydon a heintiau a fyddai fel arall yn beryglus i’ch iechyd. Argymhellir eich bod yn cael pigiadau pan ydych yn fabi, a mwy o bigiadau wedyn wrth i chi fynd yn hŷn. Mae llawer o’r rhain yn digwydd yn yr ysgol oherwydd ei bod yn gyfleus i lawer o bobl gael yr un pigiad yno. Os oes gennych chi gyflwr iechyd penodol, efallai y bydd yn rhaid i chi gael mwy o bigiadau i sicrhau eich bod chi wedi eich diogelu’n iawn.
Pan fyddwch yn fabi, bydd pwy bynnag sy’n gyfrifol amdanoch – eich rhieni neu rywun arall sydd â chyfrifoldeb rhiant amdanoch – yn penderfynu a ddylech gael y pigiad sy’n cael ei gynnig ai peidio. Wrth i chi fynd yn hŷn, byddwch chi’n cael penderfynu a ydych eisiau cael y pigiad ai peidio. Dylech gael gwybodaeth am y pigiad ymlaen llaw fel bod modd i chi allu trafod â’ch rhieni neu rywun sydd â chyfrifoldeb rhiant arnoch os ydych chi eisiau.
Yng Nghymru, does ddim modd i chi gael eich gorfodi i gael pigiad. Mae’r pigiadau sy’n cael eu cynnig yno i’ch diogelu chi a’ch iechyd. Maen nhw hefyd yn diogelu pawb o’ch cwmpas ac yn atal rhai afiechydon a heintiau rhag lledu. Mae angen i chi ddeall, os na chewch y pigiadau, na fyddwch wedi’ch diogelu rhag yr afiechydon hyn, ond does dim cyfraith sy’n dweud bod yn rhaid i chi gael y pigiadau arferol sy’n cael eu cynnig.
Os nad ydych eisiau cael y pigiad yn yr ysgol ar yr un pryd â phawb arall, cewch ofyn i’w gael yn y feddygfa.
Mae gennych hawliau er mwyn i chi allu datblygu’n iach, a chael gofal iechyd da. Yng Nghymru, gwasanaeth y nyrs ysgol yw un o’r ffyrdd mae’r llywodraeth yn eu defnyddio i geisio gwneud yn siŵr bod hynny’n digwydd. Mae gwasanaeth y nyrs ysgol yn helpu gydag iechyd yn gyffredinol mewn ysgolion, ond mae hefyd yn gallu helpu gydag anghenion neu broblemau penodol. Mae’n rhaid i’r nyrs ysgol gadw popeth rydych yn ei drafod yn gyfrinachol yn union fel y meddyg yn eich meddygfa neu yn yr ysbyty. Cewch wybod mwy am hyn yma.
Bydd y nyrs ysgol yn cynnig gwasanaethau gwahanol yn yr ysgol uwchradd a’r ysgol gynradd.
Fe ddylech allu siarad â’r nyrs ysgol yn Gymraeg os mai Cymraeg yw eich iaith gyntaf. Os nad ydych yn siarad Cymraeg na Saesneg a bod angen i chi siarad â’r nyrs ysgol am rywbeth, fe ddylech allu cael rhywun i gyfieithu i chi er mwyn i chi gael trafod eich problem.
Rydym yn ddiolchgar iawn i gwmni Cyfreithwyr Irwin Mitchell am fod mor garedig â rhoi o’u hamser a’u harbenigedd i wirio cynnwys yr adran hon o’r wefan. Hydref 2018.