Rydw i eisiau cadw fy manylion meddygol yn breifat

  • Pan fyddwch yn mynd i weld meddyg neu nyrs, neu’n mynd i’r ysbyty, bydd manylion yr ymweliad ac unrhyw gyngor neu driniaeth yn cael eu cofnodi yn eich cofnodion meddygol
  • Fe ddylai eich gwybodaeth feddygol gael ei chadw’n gyfrinachol
  • Cewch leisio barn am bwy sy’n cael gweld eich cofnodion meddygol

Mae preifatrwydd yn ymwneud â gallu rheoli faint o wybodaeth mae pobl eraill yn gallu ei gweld amdanoch. Mae iechyd yn un o’r meysydd yn eich bywyd lle byddwch efallai eisiau preifatrwydd. Efallai na fyddwch eisiau i bobl eraill, gan gynnwys eich rhieni neu ofalwyr, wybod eich bod wedi gweld meddyg. Chi ddylai benderfynu pwy sy’n gwybod eich bod wedi gweld meddyg a beth gafodd ei drafod. Mae eich hawl i breifatrwydd hefyd yn cynnwys eich cofnodion meddygol, sef cofnod o bob tro rydych wedi gweld meddyg a’r driniaeth a’r cyngor a gawsoch. Fe ddylech gael penderfynu pwy sy’n gweld eich cofnodion meddygol.

 

 

 

 

Rydym yn ddiolchgar iawn i gwmni Cyfreithwyr Irwin Mitchell am fod mor garedig â rhoi o’u hamser a’u harbenigedd i wirio cynnwys yr adran hon o’r wefan. Hydref 2018.