- Mae iechyd yn fwy na dim ond meddygon ac ysbytai – mae’n ymwneud â’r ffordd rydych yn byw, ble rydych yn byw a sut mae pobl yn gofalu amdanoch
- Mae gennych hawliau i wneud yn siŵry byddwch yn gallu tyfu a datblygu’n iach, a’r gobaith yw y byddwch yn gallu osgoi mynd at y meddyg neu dreulio amser yn yr ysbyty gan amlaf
- Mae gennych yr hawliau hyn hyd yn oed os ydych yn byw gydag anabledd neu gyflwr sy’n golygu nad yw eich iechyd cystal ag yr hoffech iddo fod
Pa hawliau sydd gennych chi i fod yn iach? Mae Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yn cynnwys yr hawl i dyfu a datblygu’n iach, i gael bwyd maethlon a dŵr glân, ac i ddeall sut i fod yn ddiogel.
Mae’r hyn rydym yn ei fwyta’n effeithio’n fawr ar ein hiechyd, ac mae gennych hawl i gael bwyd iach a dŵr glân. Weithiau gall fod yn anodd gwybod pa fwydydd sy’n iach a pha rai sydd ddim. Fe ddylai bwydydd fod wedi’u labelu’n iawn er mwyn i chi wybod beth sydd ynddo. Mae rhai cynhwysion sydd ddim yn addas i chi fel plentyn oherwydd eu heffeithiau posib, ac mae’n rhaid nodi hynny ar y label.
Mae rhai siopau ac archfarchnadoedd yn defnyddio system labelu bwyd sy’n nodi’n wyrdd, yn oren neu’n goch faint o siwgr, braster a halen sydd yn y bwyd. Mae hyn yn eich helpu i benderfynu a fydd rhywbeth yn well i chi, ond dyw hi ddim yn orfodol labelu bwyd fel hyn.
Mae hefyd yn bwysig labelu bwyd yn iawn er mwyn gwneud yn siŵr nad ydych yn bwyta rhywbeth y gallech fod ag alergedd iddo, neu a allai wneud niwed i chi fel arall.
Mae cael gwneud ymarfer corff yn rhan o’ch hawl i dyfu a datblygu’n iach. Os ydych yn mynd i’r ysgol, fe ddylech gael gwersi ymarfer corff a chwaraeon, a chyfle i wneud ymarfer corff amser egwyl ac amser cinio mewn clybiau chwaraeon. Fe ddylai fod lle yn ble bynnag rydych yn byw i chi gael chwarae. Dylai awdurdodau lleol yng Nghymru feddwl am wneud yn siŵr bod mannau agored fel parciau ar gael i chi wrth gynllunio adeiladau a datblygiadau yn eich ardal.
Mae gennych hawl i gael eich diogelu rhag unrhyw weithgareddau a allai niweidio eich datblygiad a’ch lles. Yn aml iawn, mae hyn yn digwydd drwy osod rheolau sy’n dweud na chewch chi ddim gwneud rhywbeth tan rhyw oed penodol. Chewch chi ddim yfed alcohol hyd nes eich bod yn 18. Chewch chi ddim prynu sigaréts hyd nes eich bod yn 18. Mae llawer o gyffuriau fel canabis yn anghyfreithlon – felly mae bob amser yn erbyn y gyfraith bod â’r pethau hyn yn eich meddiant, neu eu defnyddio.
Dyw oedolion ddim yn cael ysmygu mewn car os oes rhywun o dan 18 yno – ond efallai y bydd yn anodd i chi siarad ag oedolyn sy’n ysmygu a dweud wrthynt am roi’r gorau iddi.
Fe ddylech gael eich diogelu rhag cael eich cam-drin yn rhywiol, camfanteisio rhywiol a chael eich cam-drin a’ch esgeuluso gan eich rhieni. Mae’r pethau hyn i gyd yn gallu effeithio ar eich iechyd a’ch datblygiad. Os oes rhywbeth fel hyn yn digwydd i chi, efallai y byddwch yn poeni neu’n ofn dweud wrth rywun. Os gallwch ddod o hyd i rywun y gallwch ymddiried ynddynt i siarad a nhw, byddwch yn gallu cael help fel bod modd gwneud pethau i'ch cadw'n ddiogel a'ch diogelu rhag niwed yn y dyfodol. Fe ddylai’r bobl a fydd yn eich helpu – gweithwyr cymdeithasol, pobl yn y llys, yr heddlu – wrando ar yr hyn rydych chi ei eisiau.
Rydym yn siarad cryn dipyn am iechyd corfforol – beth sy’n digwydd i’n cyrff, ac a yw ein cyrff yn gweithio’n iawn. Rydym yn anghofio weithiau fod yr hyn sy’n digwydd yn y meddwl, ac i’n hiechyd meddwl, yr un mor bwysig.
Mae eich hawl i iechyd yr un mor berthnasol i’ch iechyd meddal ag i’ch iechyd corfforol. Os ydych yn teimlo’n anhapus neu’n hunan-niweidio, neu’n gwneud rhywbeth fel peidio â bwyta’n iawn, neu wneud eich hun yn sâl ar ôl bwyta, mae hynny’n arwydd efallai fod angen i chi weld meddyg ynglŷn â’ch iechyd meddwl.
Weithiau, mae problemau iechyd meddwl yn deillio o broblemau gartref neu yn yr ysgol, neu oherwydd ein bod yn cael problemau gyda’n hiechyd corfforol. Gall hyn fod am fod rhywun yn eich bwlio, neu am fod rhywun yn eich brifo gartref neu rywbeth arall. Mae gennych hawliau i’ch diogelu rhag y math hwn o ymddygiad.
Gall eich iechyd fod yn wael am sawl rheswm, neu efallai fod gennych broblem feddygol sy’n golygu bod yn rhaid i chi dreulio amser yn yr ysbyty, neu fynd i weld meddyg neu glinig arbenigol. Os oes gennych anabledd o ryw fath, fe ddylech gael cefnogaeth i gael yr help sydd ei angen arnoch i fyw’n dda a chymryd rhan yn eich cymuned, gan gynnwys cael addysg, mwynhau chwarae, a chael gofal iechyd da a hyfforddiant er mwyn i chi allu gweithio.
Rydym yn ddiolchgar iawn i gwmni Cyfreithwyr Irwin Mitchell am fod mor garedig â rhoi o’u hamser a’u harbenigedd i wirio cynnwys yr adran hon o’r wefan. Hydref 2018.