Lleoedd i Chwarae
- Er mwyn i chi gael mwynhau eich hawl i chwarae, gorffwys a mwynhau eich amser hamdden, mae angen lleoedd i chi gael mynd i wneud hynny
- Mae’r lleoedd a’r gweithgareddau sydd ar gael i chi’n dibynnu ar lawer o benderfyniadau sy’n cael eu gwneud gan oedolion
- Dylai oedolion wrando ar eich barn a’ch safbwyntiau pan fydd penderfyniadau’n cael eu gwneud am leoedd i chwarae
Mae cael rhywle i fynd yn rhan bwysig o’ch hawl i chwarae ac ymlacio. Ond mae’r hawl hon o dan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yn ymwneud â mwy na dim ond ‘chwarae’ – mae’n ymwneud â chymryd rhan mewn profiadau diwylliannol, sef pethau fel mynd i’r theatr neu i gyngherddau ac ymweld ag amgueddfeydd. Mae Llywodraeth Cymru wedi addo ystyried y Confensiwn hwn bob tro y mae’n gwneud penderfyniad. Mae Awdurdodau Lleol hefyd yn gwneud llawer o benderfyniadau am yr ardal lle rydych yn byw. Gall y penderfyniadau hyn effeithio ar bethau fel a oes gennych ddigon o leoedd i chwarae a sut y gallwch gyrraedd y lleoedd hynny. Gallant ymwneud â phethau fel ble i adeiladu tai, ble i wneud ffyrdd newydd a phenderfyniadau am gludiant cyhoeddus. Gallant hefyd fod yn benderfyniadau ynglŷn â’r ffordd y mae’r awdurdod lleol yn gwario arian ac a yw’n buddsoddi mewn adnoddau i bobl ifanc neu yn rhywbeth arall. Pan fydd awdurdod lleol yn gwneud y penderfyniadau hyn, fe ddylai feddwl am Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn ac am eich hawliau.