Bod yn ddiogel wrth chwarae
- Mae gennych hawl i orffwys ac i chwarae, ac i gael eich diogelu rhag pethau a allai eich niweidio
- Fe ddylech deimlo’n ddiogel wrth fwynhau eich amser hamdden pan fyddwch yn chwarae’r tu allan neu mewn gweithgaredd wedi’i drefnu
- Os oes rhywbeth wedi digwydd i wneud i rywle rydych yn mynd iddo deimlo’n anniogel, gallwch gymryd camau i newid pethau
Gall pethau fel sbwriel, cŵn, plant a phobl ifanc eraill, offer wedi torri neu sy’n anaddas, a rhai oedolion hefyd wneud i chi deimlo nad yw’r lleoedd lle rydych yn treulio eich amser hamdden yn ddiogel. Os ydych yn teimlo’n anghyfforddus neu dan fygythiad efallai na fyddwch yn gallu ymlacio’n iawn a mwynhau’r amser sydd gennych i chwarae neu i fod gyda’ch ffrindiau.
Bod yn ddiogel wrth chwarae
Beth os oes llawer o sbwriel yn y lleoedd rydym yn mynd iddynt?

Gall sbwriel wneud i rywle deimlo’n annifyr neu’n anniogel. Gall sbwriel weithiau fod yn beryglus hefyd: gall gwydr wedi torri neu nodwyddau wedi eu defnyddio eich torri a’ch gwneud yn sâl. Mae angen i sbwriel, yn enwedig sbwriel peryglus, gael ei lanhau gan arbenigwyr sydd â’r offer iawn i wneud hynny’n ddiogel.

Gall cynghorau lleol roi dirwy i bobl sy’n gadael sbwriel mewn mannau cyhoeddus, felly os oes problem yn rhywle rydych yn mynd iddo i chwarae, fe allech roi gwybod i’r cyngor.

Cewch wybod sut i gysylltu â’ch cyngor lleol yma.

A yw pobl yn cael mynd â’u cŵn i’r lleoedd lle rydym yn chwarae?

Yn dibynnu ble rydych yn byw yng Nghymru ac i ble rydych yn mynd i chwarae, efallai y bydd Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus mewn grym sy’n dweud nad yw pobl yn cael mynd â’u cŵn yno. Gall cynghorau lleol osod Gorchymyn o’r fath ar gyfer ardal benodol a allai gynnwys parc rydych yn mynd iddo. Hyd yn oed os yw cŵn yn cael mynd yno, efallai y bydd yn rhaid iddynt fod ar dennyn ac efallai na fyddant yn cael rhedeg yn rhydd. Os oes Gorchymyn mewn grym i atal pobl rhag mynd â’u cŵn i’r parc neu i fannau cyhoeddus lle rydych yn chwarae, fe ddylai fod arwydd yno’n esbonio hyn. Os bydd pobl yn mynd â’u cŵn yno heb ddilyn y rheolau, fe allen nhw gael dirwy. Os bydd pobl yn mynd â’u cŵn i rywle lle nad ydynt yn cael bod, dylech gysylltu â’r cyngor lleol a wnaeth y Gorchymyn i roi gwybod am y mater.

Cewch wybod sut i gysylltu â’ch cyngor lleol yma.

Mae’n rhaid i bobl sy’n cerdded eu cŵn godi baw eu cŵn. Gall pobl nad ydynt yn codi baw cŵn gael dirwy.

Oes rhywbeth y gallaf ei wneud os nad yw plant neu bobl ifanc eraill eisiau i mi chwarae yn rhywle?

Os ydych chi mewn man cyhoeddus, mae gennych yr un hawl â phawb arall i chwarae ac ymlacio yno. Os yw plant neu bobl ifanc eraill yn gwneud i chi deimlo’n anghyfforddus ac yn ceisio gwneud i chi fynd i rywle arall, cewch chi benderfynu beth i’w wneud i geisio datrys y mater. Gallech ddod o hyd i rywle arall i fynd neu gallech geisio dod o hyd i ffordd o aros fel bod pawb yn cael mwynhau’r un lle. Os oes rhywun yn eich bygwth neu’n eich brifo, dylech ddweud wrth oedolyn rydych yn ymddiried ynddo, neu siarad â’r heddlu.

Beth os oes pobl eraill yn difrodi’r lleoedd lle rydym yn chwarae?

Os oes rhywun wedi torri offer yn rhywle lle rydych yn mynd i chwarae, neu wedi chwistrellu paent a gadael graffiti annymunol, maen nhw wedi torri’r gyfraith. Os ydych yn gwybod pwy sydd wedi gwneud hyn, gallech ddweud wrth oedolyn neu wrth yr heddlu beth sydd wedi digwydd. Gallai hynny atal yr unigolyn dan sylw rhag gwneud rhywbeth tebyg eto, ond ni fydd o reidrwydd yn newid y difrod sydd wedi digwydd, felly gallech gysylltu â’r unigolyn neu’r sefydliad sy’n gyfrifol am y parc er mwyn iddynt drefnu i drwsio’r offer neu gael gwared ar y graffiti. Fe ddylai fod arwydd yn y parc yn dweud wrthych gyda phwy i gysylltu os oes offer wedi’u difrodi.

Beth os ydw i’n chwarae yn rhywle ac yn brifo?

Os ydych mewn parc chwarae gydag offer i chi gael chwarae arno a’ch bod yn brifo oherwydd bod rhywbeth wedi torri, fe ddylech chi neu eich rhieni gysylltu â’r sefydliad sy’n gyfrifol am y parc chwarae i roi gwybod am y ddamwain, yn enwedig os yw’n fwy na chrafiad neu glais bach neu os oes rhywbeth mwy difrifol yn digwydd i chi. Fe fyddan nhw eisiau gwneud yn siŵr bod yr offer yn ddiogel i chi ac i blant eraill chwarae arnynt.

Weithiau, bydd arwydd ar offer chwarae’n dweud mai dim ond i blant dros ryw oed, neu o dan ryw oed, y maent yn addas. ‘Canllaw’ fydd hynny fel arfer, a gan amlaf chi fydd yn penderfynu a ydych yn meddwl y gallwch chwarae ar yr offer heb frifo. Os oes oedolyn sy’n gyfrifol amdanoch gyda chi, efallai y bydd yr oedolyn hwnnw’n penderfynu a ydych yn cael mynd ar rywbeth ai peidio.

Os yw darn o offer chwarae wedi’i gynllunio ar gyfer plant iau, mae’n werth cofio y gallech ei dorri neu ei ddifetha i blant iau drwy chwarae arno a chithau’n rhy fawr!

Sut fyddaf i’n gwybod na fydd oedolion yn fy mrifo?

Mae’n rhaid i bob oedolyn sy’n gweithio gyda phlant gael eu gwirio i wneud yn siŵr nad ydynt wedi gwneud dim byd yn y gorffennol a fyddai’n golygu eu bod yn beryglus i blant a phobl ifanc. Os ydych yn poeni am rywun sy’n trefnu gweithgaredd rydych yn cymryd rhan ynddo, dylech ddweud wrth oedolyn rydych yn ymddiried ynddo.

Os oes oedolion yn y lleoedd lle rydych yn chwarae nad ydynt yn gysylltiedig yn unrhyw ffordd swyddogol â threfnu eich gweithgareddau (hynny yw, aelodau o’r cyhoedd, nid gweithwyr neu arweinwyr ieuenctid ac yn y blaen), ac os ydych mewn man cyhoeddus, fydd y bobl hynny ddim wedi cael eu gwirio o ran pwy ydyn nhw ac a ydyn nhw’n ddiogel i fod o gwmpas plant a phobl ifanc. Os ydych yn poeni am rywbeth, dywedwch wrth oedolyn rydych yn ymddiried ynddo beth sy’n digwydd. Dyw hi ddim fel arfer yn syniad da siarad ag oedolion os nad ydych yn eu hadnabod (heblaw pobl fel swyddogion yr heddlu), yn enwedig os nad oes oedolyn gyda chi.

Os oes oedolion neu blant neu bobl ifanc yn defnyddio’r parc lle rydych yn chwarae i yfed neu i gymryd cyffuriau, gallai’r cyngor osod Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus i atal hyn rhag digwydd. Os ydych yn poeni am y ffordd mae oedolion yn defnyddio rhywle lle rydych yn chwarae, gallech siarad â’ch cyngor lleol neu efallai gysylltu â’r heddlu.