- Wrth i chi fynd yn hŷn, efallai y byddwch eisiau teithio ymhellach o gartref, i fynd i’r dref neu hyd yn oed i dref arall
- Os na allwch deithio o gwmpas, fyddwch chi ddim yn gallu manteisio ar gyfleoedd i brofi pethau newydd
- Does gennych chi ddim hawl i gael pethau fel cludiant cyhoeddus – ond ddylech chi ddim cael eich trin yn wahanol nac yn annheg pan fo cludiant cyhoeddus ar gael
Mae teithio o gwmpas yn rhan o fod yn annibynnol. Os allwch chi fynd ar fws neu drên i ymweld â rhywun neu i fynd i rywle, mae’n rhoi mwy o ryddid a chyfleoedd i chi. Pan ydych yn iau, fyddwch chi ddim ond yn gallu mynd i rywle os allwch chi gerdded yno neu os oes oedolyn yn mynd â chi yno. Wrth i chi fynd yn hŷn, byddwch yn gallu cerdded yn bellach, neu efallai’n gallu mynd ar eich beic. Efallai y byddwch yn gallu defnyddio’r bws neu’r trên hefyd i fynd o le i le. Mae eich hawliau dynol yn golygu na ddylech gael eich trin yn wahanol nac yn annheg wrth ddefnyddio cludiant cyhoeddus. Fe ddylai fod cyfreithiau hefyd i’ch diogelu, fel plentyn, wrth deithio – naill ai wrth gerdded, mynd ar eich beic neu wrth ddefnyddio moped neu ddysgu gyrru.
Does dim isafswm oedran ar gyfer croesi’r ffordd ar eich pen eich hun. Mae’n rhaid i’ch rhieni neu pwy bynnag sydd â chyfrifoldeb rhiant amdanoch eich dysgu sut i groesi’r ffordd yn ddiogel (mae hyn yn Rheolau’r Groes Werdd sy’n rhan o Reolau’r Ffordd Fawr). Ddylen nhw ddim gadael i chi groesi’r ffordd ar eich pen eich hun hyd nes eu bod yn hyderus eich bod yn gwybod beth yw’r rheolau ac yn deall sut i groesi’r ffordd yn ddiogel.
Yn union fel croesi’r ffordd, does dim isafswm oedran ar gyfer mynd ar eich beic ar eich pen eich hun, ond mae’n rhaid i chi ddeall y rheolau a gwybod sut i fod yn ddiogel ar y ffordd.
Does neb yn cael beicio ar y palmant felly os ydych chi allan ar eich beic fe ddylech fod ar y ffordd.
Mae’n rhaid i chi wneud yn siŵr bod eich beic yn ddiogel i’w ddefnyddio. Bydd angen goleuadau os ydych chi allan ar ôl iddi dywyllu, ac mae angen i chi feddwl sut i wneud yn siŵr bod pobl eraill ar y ffordd yn gallu eich gweld, gan gynnwys gyrwyr ceir a lorïau, yn ogystal â cherddwyr.
Mae’n rhaid i chi fod yn 16 i ddefnyddio moped. Mae’n rhaid i chi gael trwydded moped dros dro a chwblhau Hyfforddiant Sylfaenol Gorfodol (CBT) cyn defnyddio moped ar y ffordd.
Cewch wneud cais am drwydded yrru dros dro pan fyddwch yn 15 oed a 9 mis. Mae’n rhaid i chi allu darllen plât rhif o 20 metr. Cewch ddechrau dysgu gyrru pan fyddwch yn 17, ond bydd angen trwydded dros dro arnoch.
Does dim rhaid i chi dalu am wersi gyrru – cewch ymarfer gydag oedolyn arall sydd dros 21 ac sydd â’r math iawn o drwydded yrru, ac sy’n fodlon bod yn y car gyda chi. Os ydych chi’n talu am wersi gyrru, dylech gael gwersi gyda hyfforddwr gyrru cymwys neu hyfforddwr gyrru dan hyfforddiant.
Mae’n rhaid i chi wneud yn siŵr bod gennych yr yswiriant iawn i yrru car pan fyddwch yn dysgu gyrru. Mae’n rhaid i chi gael plât ‘D’ neu ‘L’ ar y car os ydych yn dysgu gyrru yng Nghymru.
Mae’n rhaid i chi basio prawf theori cyn i chi allu gwneud prawf gyrru. Gall y rhan fwyaf o bobl wneud prawf theori o’u pen-blwydd yn 17 ymlaen.
Ar ôl i chi basio eich prawf, cewch yrru heb neb arall yn y car gyda chi.
Does dim oedran penodol pan gewch chi ddechrau defnyddio cludiant cyhoeddus ar eich pen eich hun. Os ydych chi’n ifanc iawn, neu os ydych yn gofidio neu’n anhapus am fod ar gludiant cyhoeddus, efallai y bydd rhywun fel gyrrwr bws neu rywun mewn gorsaf drenau’n holi i wneud yn siŵr eich bod yn iawn. Os ydych yn defnyddio’r trên a bod y staff yn meddwl eich bod yn rhy ifanc i fod allan ar eich pen eich hun, efallai y byddant yn cysylltu â Heddlu Trafnidiaeth Prydain i ofyn iddyn nhw wneud yn siŵr eich bod yn iawn. Fyddwch chi ddim mewn trafferth – fyddan nhw ddim ond eisiau gwybod nad oes dim byd yn bod.