Stopio a Chwilio

  • Mae gennych hawl i dreulio amser gyda’ch ffrindiau a mynd allan ar yr amod nad ydych yn torri’r gyfraith nac yn ei gwneud yn anodd i bobl eraill fwynhau eu hawliau
  • Os yw’r heddlu yn meddwl eich bod yn rhan o rywbeth neu’n meddwl eich bod yn cario rhywbeth na ddylech chi, fe allen nhw eich stopio chi a’ch chwilio chi.
  • Mae eich hawliau dynol yno i’ch diogelu rhag cael eich trin yn wael os byddwch chi’n cael eich stopio gan yr heddlu.

Mae gennych chi hawliau a rhyddid i wneud llawer o bethau, ond mae’r rhain yn cael eu cydbwyso â’r hawliau a’r rhyddid sydd gan bobl eraill.

Os ydych yn ymddwyn mewn ffordd sy’n rhwystro pobl eraill rhag mwynhau eu hawliau, neu mewn ffordd a allai dorri’r gyfraith, efallai y byddwch mewn trafferth gyda’r heddlu. Hyd yn oed os ydych chi mewn trafferth gyda’r heddlu, nid ydych yn colli eich hawliau. Ni ddylech gael eich trin yn wahanol nac yn annheg o gymharu â phobl eraill sydd yn yr un sefyllfa, ac fe ddylech chi gael eich trin yn unol â’r gyfraith. Fe ddylech gael digon o wybodaeth i ddeall yr hyn sy’n digwydd ichi. Ddylech chi ddim cael eich trin yn greulon nac yn amharchus.

Mae’r heddlu’n cael eich stopio yn y stryd i'ch holi chi ynglŷn â’r hyn rydych chi’n ei wneud mewn rhai amgylchiadau (mae hyn yn cael ei alw’n ‘stopio a darparu manylion), neu i'ch chwilio chi am bethau penodol (‘stopio a chwilio’).A yw’r heddlu’n cael fy chwilio?

Mae’n rhaid i'r heddlu gael rheswm dros eich stopio chi. Does dim rhaid i'r rheswm fod yn berthnasol i chi’n benodol, ond mae’n rhaid iddyn nhw gael rheswm dros eich stopio chi.

Os yw’r heddlu’n meddwl bod gennych rywbeth sydd wedi’i ddwyn neu nad ydych i fod i’w gael – fel tân gwyllt, neu gyllell – maen nhw’n cael eich stopio a’ch chwilio. Mae’n rhaid i’r heddlu feddwl eu bod yn mynd i ddod o hyd i’r hyn maen nhw’n chwilio amdano – dydyn nhw ddim yn cael eich chwilio ‘rhag ofn’.

Mae’r heddlu hefyd yn cael eich chwilio os ydyn nhw’n meddwl bod gennych gyffuriau – ond unwaith eto, mae’n rhaid bod ganddyn nhw reswm i feddwl bod gennych gyffuriau arnoch.

‘Stopio a darparu manylion’ yw pan fo’r heddlu yn eich stopio chi ac yn eich holi chi ynglŷn â phwy ydych chi a beth rydych chi’n ei wneud.

Efallai bod yr heddlu yn bryderus am eich diogelwch, neu efallai eu bod yn bryderus eich bod yn debygol o wneud trafferth (neu eich bod eisoes wedi bod yn rhan o ryw drafferth).

Yn ystod y broses ‘stopio a darparu manylion’ fe allai’r heddlu ofyn pwy ydych chi, faint yw eich oed ac i ble rydych yn mynd.

Does dim rhaid i chi ateb y cwestiynau y bydd yr heddlu yn eu gofyn i chi oni bai bod yr heddlu’n meddwl eich bod wedi bod yn rhan o ymddygiad gwrthgymdeithasol (neu am fod yn rhan o ymddygiad o’r fath). Os mai dyma’r rheswm dros eich stopio, ac nad ydych yn ateb eu cwestiynau, fe all yr heddlu eich arestio chi a mynd â chi i orsaf yr heddlu.

Os yw’r heddlu yn eich stopio chi am eu bod yn meddwl eich bod wedi bod yn rhan o ymddygiad gwrthgymdeithasol (neu eich bod yn debygol o fod yn rhan o ymddygiad o’r fath) ac nad ydych chi’n ateb eu cwestiynau, fe allai’r heddlu eich arestio chi.

Os yw'r heddlu'n meddwl eich bod chi'n dweud celwydd wrthyn nhw, gallant eich arestio am eu rhwystro nhw rhag gwneud eu gwaith - hyd yn oed os nad ydych chi wedi gwneud yr hyn y gwnaethon nhw eich stopio i’ch holi amdano.

Fyddwch chi ddim yn cael eich arestio am beidio â stopio neu am beidio ag ateb cwestiynau – oni bai eich bod wedi cael eich stopio oherwydd ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Cewch wybod mwy ynglŷn â chael eich arestio yma.

Os nad yw'r heddlu sy’n eich stopio chi’n gwisgo eu lifrai, mae’n rhaid iddyn nhw ddangos eu cerdyn gwarant (eu cerdyn adnabod yr heddlu sy’n rhoi gwybodaeth i chi ynglŷn â phwy ydyn nhw).

Does dim rhaid i chi ateb cwestiynau’r heddlu oni bai eich bod wedi cael eich stopio oherwydd ymddygiad gwrthgymdeithasol, a does dim modd i chi gael eich arestio am beidio stopio’n unig pan fo’r heddlu’n gofyn i chi.

Ddylai’r heddlu ddim ceisio gwneud i chi aros gyda nhw am gyfnod hirach na’r hyn sy’n rhesymol er mwyn ateb eu cwestiynau.

‘Stopio a chwilio’ yw pan fo’r heddlu, neu Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu, yn eich stopio chi yn y stryd ac yn eich chwilio chi am rywbeth maen nhw’n meddwl rydych chi’n ei gario.

Mae'n rhaid i'r heddlu feddwl eu bod yn mynd i ddod o hyd i'r hyn maen nhw’n chwilio amdano – dydyn nhw ddim yn cael eich chwilio ‘rhag ofn’.

Mae'r heddlu’n gallu eich chwilio os ydyn nhw’n meddwl bod gennych rywbeth sydd wedi’i ddwyn neu nad ydych i fod i'w gael. Gall hyn gynnwys tân gwyllt, cyllell, arfau eraill, neu gyffuriau anghyfreithlon. Mae'n rhaid bod gan yr heddlu reswm i feddwl bod gennych un o’r pethau hyn.

Gall yr heddlu ofyn i chi dynnu eich 'haenau uchaf’ (fel cot neu siaced a menig) yn ystod proses stopio a chwilio ar y stryd. Mae hyn yn cael ei alw’n chwiliad ‘nad yw o natur bersonol’.

Os yw’r heddlu eisiau i chi dynnu mwy na'r haenau uchaf mae’n rhaid iddyn nhw wneud hynny mewn lle preifat. Yn arferol fe wneir hyn yng ngorsaf yr heddlu agosaf. Mae hyn yn cael ei alw’n ‘chwiliad o natur bersonol’ Os yw’r heddlu eisiau cynnal chwiliad o natur bersonol, mae’n rhaid cael dau swyddog heddlu o’r un rhyw â chi (dau wryw os ydych chi’n wryw, dwy fenyw os ydych chi’n fenyw).

Cyn i'r heddlu eich chwilio, raid iddynt:

  • Dangos eucerdyn adnabid ('cerdyn gwarant') i chi os nad ydyn nhw mewn iwnifform;
  • Dweud enw'r heddwas sy'n eich chwilio ac o ba orsaf heddlu y mae ef neu hi yn dod;
  • Esbonio am beth maent yn chwilio;
  • Esbonio pam y maent yn meddwl y byddant yn darganfod yr eitemau hynny;
  • Dweud wrthych y gallwch gael cofnod o'r chwiliad.

Gellir anfon cofnod o’r broses stopio a chwilio drwy neges destun neu e-bost. Os nad ydych chi eisiau rhoi eich rhif ffôn symudol na’ch cyfeiriad e-bost i'r heddlu, fe allwch chi ofyn am rif cyfeirnod y chwiliad. Dylai'r heddlu roi’r rhif hwn i chi ar bapur, ac yna fe allwch chi fynd â’r rhif cyfeirnod i'r orsaf heddlu  a chael cofnod o’r stopio a chwilio.

Os bydd yr heddwas sy'n eich chwilio yn dod o hyd i eitemau gwaharddedig (cyllel, gwn, tân gwyllt ac ati) neu nwyddau wedi'u dwyn, gallant eu hatafaelu (mynd â nhw a chadw gafael arnyn nhw). Os bydd yr heddlu'n dod o hyd i'r mathau hyn o bethau yn ystod y chwiliad mae'n debyg y byddant yn eich arestio yn eich cyhuddo o drosedd.

Mae’ch hawliau pan fyddwch chi yng ngorsaf yr heddlu yn deillio o gyfreithiau'r DU. Mae'r hawliau hyn yn cynnwys pethau fel cael gwybod y gallwch gael cyngor cyfreithiol am ddim ac oedolyn priodol. Mae gennych hefyd hawliau yng Nghymru o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (UNCRC).

Os ydych chi o dan 18 oed yng Nghymru, mae gennych chi’r holl hawliau i blant sydd wedi'u cynnwys yn yr UNCRC.

Nid yw’r UNCRC yn siarad yn benodol am ‘bwerau’r heddlu’ ond mae’n siarad am hawliau plant a phobl ifanc, a sut y dylid eu trin. Rhaid i’r heddlu yng Nghymru barchu eich hawliau ‘fel plentyn’ o hyd, hyd yn oed os ydyn nhw’n credu eich bod chi wedi torri’r gyfraith. Nid yw hyn yn golygu na fyddwch yn cael eich stopio na’ch chwilio, na’ch arestio, ond mae’n golygu y dylid eich trin ‘fel plentyn’ gan yr heddlu ac y dylid eich trin yn unol â’ch hawliau UNCRC.

Mae’r UNCRC yn dweud

  • Na ddylid eich trin yn greulon,
  • Os ydych chi'n torri'r gyfraith, ni ddylech gael eich cadw mewn carchar gydag oedolion,
  • Fe ddylech chi allu cael cyswllt â'ch teulu,
  • Os cewch eich cyhuddo o dorri'r gyfraith, dylid eich trin fel pe na baech wedi torri'r gyfraith nes ei bod yn amlwg eich bod wedi torri'r gyfraith,
  • Os cewch eich cyhuddo, dylid dweud wrthych am hyn yn gyflym ac yn uniongyrchol,
  • Dylid parchu eich preifatrwydd bob amser.

Gallai'r rheolau y mae'r heddlu'n eu dilyn ynglŷn â sut y dylent eich trin olygu nad ydych yn cael eich trin yn unol â’r UNCRC.

Os credwch nad yw'r heddlu wedi parchu'ch hawliau UNCRC yn y ffordd y maent wedi'ch trin, dylech siarad â'ch cyfreithiwr.

Os credwch eich bod wedi cael eich trin yn wael gan yr heddlu, gallwch wneud cwyn. Gallwch gwyno'n uniongyrchol i'r heddlu sy'n gysylltiedig. Bydd angen i chi wybod heddlu pa ardal sydd wedi eich trin yn wael:

Os byddai'n well gennych beidio â chwyno'n uniongyrchol i'r heddlu, gallwch gwyno trwy wefan y Swyddfa Annibynnol ar Ymddygiad yr Heddlu (IOPC). Os oes angen i chi ddarllen y wefan mewn unrhyw iaith arall, gallwch newid yr iaith gan ddefnyddio'r gwymplen yng nghornel chwith isaf y sgrin.

Os ydych chi'n defnyddio’r wefan IOPC i wneud eich cwyn, mae'n debyg y bydd yr heddlu'n parhau i edrych arno i ddechrau.

Bydd yr IOPC yn ymchwilio i rai mathau o gwynion.

Nid oes terfyn amser ar gyfer gwneud cwyn, ond os byddwch yn ei gadael yn hwy na 12 mis, bydd angen i chi egluro pam na wnaethoch gŵyn yn gynt. Bydd yn ei gwneud yn anoddach i'r heddlu ymchwilio i'ch cwyn po hiraf y byddwch yn ei gadael.

Ystyr ymddygiad gwrthgymdeithasol yw unrhyw ymddygiad a allai achosi niwsans neu aflonyddwch. Does dim rhaid i rywun fod yn anhapus neu’n flin er mwyn i'ch ymddygiad fod yn un gwrthgymdeithasol ac i chi gael Gwaharddeb i Atal Niwsans ac Aflonyddwch (IPNA). Os ydych o dan 18, y Llys Ieuenctid fydd yn ymdrin â chais am IPNA. Dim ond am 12 mis y gall IPNA bara os ydych o dan 18.

Gall llawer o wahanol sefydliadau wneud cais am IPNA yn eich erbyn, nid dim ond yr heddlu.

Gallwch hefyd gael IPNA i’ch atal rhag ymddwyn mewn ffordd benodol gartref, nid dim ond mewn mannau cyhoeddus.

Os yw eich ymddygiad yn wrthgymdeithasol, fe allai gwaharddeb gael ei rhoi yn eich erbyn a fydd yn dweud wrthych am roi’r gorau i ymddwyn mewn ffordd benodol, ac efallai’n dweud bod yn rhaid i chi wneud rhai pethau penodol. Gwaharddeb i Atal Niwsans ac Aflonyddwch (IPNA) fydd hon. Ei enw o’r blaen oedd Gorchymyn Ymddygiad Gwrthgymdeithasol (ASBO).

Os yw’r heddlu’n meddwl eich bod yn achosi trafferth i bobl mewn lle penodol, mae ganddyn nhw hawl i ddweud wrthych am adael a pheidio â dod yn ôl i’r lle hwnnw am hyd at 48 awr. Os ydych o dan 16 (neu os yw’r heddlu’n meddwl eich bod o dan 16), maen nhw’n cael mynd â chi adref, neu i le diogel arall.

Diolch i'r Gwasanaeth yr Amddiffynnydd Cyhoeddus swyddfa Abertawe am eu cymorth wrth ddatblygu’r wybodaeth hon.