- Mae llawer o bethau’n digwydd ar y stryd sydd y tu hwnt i’ch rheolaeth chi
- Gallwch gymryd camau i sicrhau eich bod yn ddiogel pan fyddwch allan
- Os cewch eich brifo neu eich bygwth neu os bydd rhywun yn dwyn rhywbeth oddi arnoch pan fyddwch allan, gallwch ddweud wrth yr heddlu
Mae bod yn ddiogel pan fyddwch allan ac oddi cartref, hyd yn oed os mai dim ond mynd i’r siop neu i’r parc ydych chi, yn ymwneud i raddau helaeth â’r ffordd mae pobl eraill yn ymddwyn. Mae llawer o gyfreithiau a rheolau yng Nghymru sy’n dweud sut mae pobl yn cael neu ddim yn cael ymddwyn. Diben y cyfreithiau a’r rheolau hyn yw sicrhau bod pawb yn ddiogel mewn mannau cyhoeddus. Os bydd pobl yn ymddwyn mewn ffordd beryglus neu sy’n codi ofn arnoch, fe allent fod yn torri’r gyfraith, ac fe allent gael eu cosbi.
Os oes gennych wybodaeth am unrhyw fath o drosedd, boed hynny'n rhywbeth sy'n effeithio arnoch chi, neu rywbeth rydych chi wedi'i weld yn effeithio ar rywun arall, gallwch ei hysbysu'n ddienw i fearless.org.
Mae rhai siopau a busnesau’n defnyddio dyfeisiau sy’n gwneud sŵn uchel, main i atal plant a phobl ifanc rhag ymgasglu yno. Dim ond ar bobl ifanc mae’r rhain yn gweithio oherwydd wrth i bobl fynd yn hŷn dydyn nhw ddim yn gallu clywed y sŵn mae’r dyfeisiau’n ei wneud. Ar hyn o bryd, does dim cyfraith yng Nghymru sy’n dweud nad ydyn nhw’n cael defnyddio’r dyfeisiau yma, er bod rhai pobl yn dadlau y dylid eu gwahardd.
Ddylech chi ddim cael eich bygwth na’ch brifo gan oedolion rydych yn byw gyda nhw, ac yn yr un modd ddylech chi ddim cael eich bygwth na’ch brifo gan oedolyn mewn man cyhoeddus. Does dim ots a ydych yn adnabod yr oedolyn ai peidio. Cofiwch hefyd nad oes neb yn cael eich taro heblaw eich rhieni (ac yng Nghymru efallai y bydd hynny’n newid cyn hir fel na fydd neb yn cael eich taro). Os bydd oedolyn yn eich brifo neu’n eich bygwth, fe ddylech ddweud wrth yr heddlu. Os ydych yn poeni am fynd at yr heddlu neu os nad ydych yn gwybod sut i wneud hynny, gallech ofyn i oedolyn rydych yn ymddiried ynddo eich helpu.
Fe ddylech bob amser fod yn ofalus os oes rhywun dydych chi ddim yn ei adnabod, yn enwedig oedolyn, yn ceisio siarad â chi. Efallai y byddant yn ceisio’ch perswadio i fynd i rywle arall neu adael eich ffrindiau. Efallai y byddant yn dweud bod ganddynt neges i chi. Er y gallai popeth fod yn iawn, dylech bob amser fod yn ofalus a gwneud yn siŵr eich bod yn ddiogel – felly peidiwch â mynd i unman ar eich pen eich hun gyda rhywun dydych chi ddim yn ei adnabod yn dda iawn a gwnewch yn siŵr bob amser fod rhywun yn gwybod i ble rydych chi’n mynd.
Mae rhai oedolion eisiau brifo plant, ac efallai y byddant yn ceisio eich cipio. Rydym yn galw hyn yn ‘herwgipio’ ac fe allai oedolyn geisio manteisio ar y cyfle i gipio plentyn oddi ar y stryd. Mae hyn yn drosedd ac mae oedolyn sy’n cipio plentyn yn torri’r gyfraith. Mae hynny’n golygu, os cewch eich herwgipio, y bydd yn rhaid i’r heddlu ymchwilio a chwilio amdanoch er mwyn eich cadw’n ddiogel.
Os yw’r heddlu’n meddwl eich bod wedi torri’r gyfraith, efallai y byddant yn eich arestio ac yn mynd â chi i swyddfa’r heddlu. Mae’n rhaid iddyn nhw ddweud wrthych beth yw eich hawliau, a rhoi gwybod i’ch rhieni neu ofalwr cyn gynted â phosib. Cewch wybod mwy am yr hyn fydd yn digwydd a beth yw eich hawliau yn swyddfa’r heddlu yma.
Mae’r heddlu yno i’ch diogelu, ond hefyd i wneud yn siŵr nad yw cyfreithiau’n cael eu torri ac nad yw troseddau’n cael eu cyflawni. Os yw’r heddlu’n meddwl eich bod wedi torri’r gyfraith, maen nhw’n cael eich stopio a’ch holi. Efallai y cewch eich chwilio, ac efallai y bydd yr heddlu’n eich arestio ac yn mynd â chi i swyddfa’r heddlu. Mae’n rhaid iddyn nhw hefyd ufuddhau i’r gyfraith, felly dydyn nhw ddim yn cael eich taro na gwneud niwed i chi ac fe ddylent bob amser eich parchu chi a’ch hawliau.
Os ydych yn cael eich bwlio gan rywun neu gan grŵp o bobl, neu os ydyn nhw’n codi ofn arnoch neu’n eich brifo, maen nhw’n torri’r gyfraith. Os ydyn nhw o dan 10, dydyn nhw ddim yn ddigon hen i gael eu harestio a’u cyhuddo o gyflawni trosedd, ond dyw hynny ddim yn golygu na fydd dim byd yn digwydd iddyn nhw. Os yw’r plant neu’r bobl ifanc eraill sy’n eich brifo yn 10 oed neu’n hŷn, fe allai eu hymddygiad gyfrif fel trosedd. Gallwch ddweud wrth yr heddlu, dim ots faint rydych chi’n meddwl yw oed pwy bynnag sy’n eich brifo. Os ydych yn byw mewn tai cymdeithasol, a bod y plentyn yn byw yn yr un ardal â chi, fe allech ddweud wrth eich landlord beth sy’n digwydd.
Chi sydd i benderfynu beth i’w wneud. Mae’n anghyfreithlon yfed alcohol mewn mannau cyhoeddus os ydych chi o dan 18, ac mae’n anghyfreithlon defnyddio cyffuriau faint bynnag yw eich oedran. Os cewch eich dal yn yfed neu’n cymryd cyffuriau mewn man cyhoeddus, efallai y bydd yr heddlu’n eich arestio. Hyd yn oed os na chewch eich arestio, efallai y byddwch yn gwneud pethau dydych chi ddim eisiau eu gwneud neu bethau na fyddech chi wedi’u gwneud pe na byddech wedi yfed alcohol neu gymryd cyffuriau.
Os bydd rhywun yn dwyn rhywbeth oddi arnoch, mae hynny’n drosedd, felly fe ddylech ddweud wrth yr heddlu.
Dim ond os oes ganddynt reswm da y mae pobl yn cael cario cyllell yng Nghymru. Efallai eu bod yn defnyddio cyllell wrth eu gwaith, a’u bod ar eu ffordd i’r gwaith – cogydd, er enghraifft.
Dim ond cyllyll â llafn sy’n plygu mae pobl yn cael eu cario, mae’n rhaid i’r ymyl torri fod yn llai na 3 modfedd o hyd, a chawn nhw ddim cario cyllyll sydd wedi’u gwahardd. Fydd gan y rhan fwyaf o bobl ddim rheswm da dros gario cyllell. Os yw’r heddlu’n meddwl bod gan rywun gyllell, maen nhw’n cael stopio a chwilio’r person hwnnw.
Mae’n rhaid bod gennych drwydded arfau tanio er mwyn cadw dryll. Mae’n rhaid i chi fod yn 18 neu’n hŷn i gael trwydded fel hyn, felly ddylai plentyn byth fod â gwn yn ei feddiant.
Mae llawer o arfau wedi’u gwahardd, gan gynnwys chwythbibau, pastynau telesgopig, a phethau fel sêr taflu a dyrnau haearn.
Os ydych yn poeni bod rhywun rydych yn ei adnabod yn cario cyllell, dryll neu arf arall, dylech ddweud wrth yr heddlu neu oedolyn rydych yn ymddiried ynddo a gofyn iddyn nhw ddweud wrth yr heddlu.
Chewch chi ddim cario dim byd sydd wedi’i greu er mwyn brifo rhywun. Gallai hyd yn oed rhywbeth fel chwistrellydd frifo rhywun pe byddai’n mynd i lygaid rhywun.
Mae’r rheolau ynglŷn â drylliau, cyllyll neu arfau o unrhyw fath yn berthnasol waeth pam rydych chi eisiau’r arf. Os ydych o dan 18, chewch chi ddim cael dryll (na dryll ffug) beth bynnag. Chewch chi ddim ond cario cyllell o fath penodol os oes gennych reswm da – yng Nghymru, dyw meddwl y gallai rhywun ymosod arnoch ddim yn rheswm da dros gario cyllell.
Cewch gario larwm ymosod sy’n gwneud sŵn pan gaiff ei seinio. Gall hyn godi ofn ar bwy bynnag sy’n ymosod arnoch a rhoi gwybod i bobl eraill eich bod mewn trafferth.
Mae cyfreithiau sydd i fod i’ch diogelu rhag ceir a thraffig pan fyddwch ar y stryd. Mae’n rhaid i yrwyr ddilyn Rheolau’r Ffordd Fawr, ac mae’n anghyfreithlon gyrru os ydych chi wedi yfed gormod neu wedi cymryd cyffuriau anghyfreithlon. Dyw pobl ddim yn cael gyrru’n beryglus, a ddylen nhw ddim defnyddio’u ffôn symudol wrth yrru heblaw bod ganddynt offer ‘dim dwylo’ priodol. Gall gyrwyr sy’n cael eu dal yn gyrru mewn ffordd sy’n torri’r gyfraith gael eu cosbi. Weithiau maent yn cael eu gwahardd rhag gyrru ac fe allent fynd i’r carchar.