Ysgol Pontrobert 2014 – 15

7 Nod Llesiant Cymru · Cymru Cydnerth · Gweithredu ar y Newid ar yr Hinsawdd · SDGS · Themâu CCUHP · Ynni Fforddiadwy a Glân · Yr amgylchedd ac amwynderau (yn cynnwys gweithredu yn yr hinsawdd, llygredd, cadwraeth, economi gylchol)

PY: Sut allwn ni leihau ein hôl troed carbon?

Dull: Arolwg o ddisgyblion ac athrawon

Canfyddiadau: 100% o’r ymatebwyr yn poeni am eu hamgylchedd. Roedd yr ysgol eisoes yn monitro’i defnydd o ddŵr, yn cau cyfrifiaduron lawr ac yn ail-gylchu cymaint â phosibl. Roedd gan 25% o’r ymatebwyr baneli solar gartref ac roedd 88% yn ei chael hi’n hawdd i ail-gylchu.

Canlyniadau: rhestr o argymhellion gan gynnwys cymeriant bwyd, teithio llesol ac arferion arbed ynni.