Ysgol Gynradd Penyrenglyn 2017-18
Addysg / gweithgareddau hamdden / diwylliannol (gan gynnwys ysgol, hyfforddiant, sgiliau a chyflogadwyedd) · Amddiffyniad arbennig · Anabledd, iechyd a llesiant sylfaenol (yn cynnwys iechyd, hybu iechyd, llesiant) · Chwarae, hamdden, adloniant, diwylliant a chelf · Cymuned ( yn cynnwys pynciau'n ymwneud â llesiant cyhoeddus cyffredinol, tlodi, allgáu cymdeithasol sy'n effeithio ar eraill, diogelwch y cyhoedd a gwasanaethau cyhoeddus) · Themâu CCUHP · Yr amgylchedd ac amwynderau (yn cynnwys gweithredu yn yr hinsawdd, llygredd, cadwraeth, economi gylchol)
PY: Beth sy’n poeni plant, gan gyfeirio’n benodol at y newyddion, ysmygu / defnyddio e-sigaréts a’r cyfryngau cymdeithasol?
Dulliau: Arolwg ar-lein ar gyfer disgyblion Blwyddyn 5
Canfyddiadau:
Pryderon plant:
- Roedd plant yn blaenoriaethu cyffuriau a therfysgaeth fel materion sy’n eu poeni.
- Hefyd, bwlio, ysmygu / defnyddio e-sigaréts ac oedolion yn tecstio wrth yrru.
- Mae dros hanner y dosbarth yn gwylio’r newyddion yng nghwmni oedolyn, gyda 32% yn nodi nad ydyn nhw’n gwylio’r newyddion.
Ysmygu:
- Roedd ysmygu yn cael effaith ar ¾ o ddisgyblion y dosbarth..
- Mae disgyblion am i ysmygu gael ei wahardd – mewn parciau 68%, wrth gatiau ysgolion 88%, a gartref 53%.
- Mae 82% yn cytuno y dylid gwahardd defnydd o e-sigaréts yn yr un mannau.
- Mae 15% wedi bod mewn car gydag oedolyn oedd yn ysmygu wrth yrru.
Cyfryngau cymdeithasol:
- Mae 91% o’r disgyblion yn teimlo’n ddiogel wrth ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol
- Mae gan bron pob plentyn un neu fwy o gyfrifon cymdeithasol ar y platfformau cyfryngau cymdeithasol canlynol; Facebook 18%, Instagram 82%, Snapchat 76%, Twitter 12% a Music.ly 47%
- Dim ond 3 disgybl a nododd nad oes ganddynt gyfrifon cyfryngau cymdeithasol.
- Mae 68% yn teimlo bod oedolion yn treulio gormod o amser ar y cyfryngau cymdeithasol
- Mae bron i hanner y disgyblion yn y dosbarth wedi bod mewn car gydag oedolyn sy’n tecstio wrth yrru.
Canlyniadau / Effaith:
- Rhannu canlyniadau ymchwil gyda’r pennaeth a gofyn iddi weithredu ar ein hargymhellion a’n syniadau ar gyfer gweithredu.
- Wedi cynnal gwasanaeth ar gyfer yr ysgol gyfan, noson athrawon a rhieni er mwyn rhannu yr ymchwil.
- Creu arddangosfa yn yr ysgol o’r gwaith Lleisiau Bach ac arddangos canlyniadau yr ymchwil.
- Wedi gwneud ffilm 60 eiliad ar gyfer Cystadleuaeth ChildNET 2018 ‘CONNECT WITH RESPECT’.
- Gobeithio gweithio gyda’r Swyddog Ymgysylltu â Theuluoedd yn yr ysgol i fwrw ymlaen ag argymhellion a syniadau ar gyfer gweithredu.