Prosiect Cloud 2017 -18

Addysg / gweithgareddau hamdden / diwylliannol (gan gynnwys ysgol, hyfforddiant, sgiliau a chyflogadwyedd) · Anabledd, iechyd a llesiant sylfaenol (yn cynnwys iechyd, hybu iechyd, llesiant) · Chwarae, hamdden, adloniant, diwylliant a chelf · Themâu CCUHP · Yr amgylchedd ac amwynderau (yn cynnwys gweithredu yn yr hinsawdd, llygredd, cadwraeth, economi gylchol)

PY: Beth allwn ni ei wneud i wella ardal awyr agored yr ysgol?

Dulliau: ymchwil ar-lein i syniadau, deunyddiau, dylunio, graffiti, artistiaid, prosiectau paled a phlannu. Gweithdy graffiti gyda ‘Peaceful Protest’, Caerdydd.

Canfyddiadau: Mynegodd y grŵp eu teimladau ynghylch a’u sefyllfa fel bechgyn ifanc yn byw ym Mhort Talbot ac yn mynychu’r UCD. Fe wnaethant fabwysiadu’r acronym ‘CLOUD’ ar gyfer eu prosiect. CLOUD: CASTAWAY, LOST, OUTLANDERS, UNKNOWN, DISCONNECTED. Hefyd FORGOTTEN.

Roedd yr ardal awyr agored yn bwysig iddyn nhw.

Canlyniadau / Effaith:

  • Gofod awyr agored wedi’i drawsnewid gan waith celf graffiti a phlannu.
  • Roedd y grŵp hefyd wedi bod yn gweithio gyda phrosiect arall ochr yn ochr â Lleisiau Bach: Fe wnaethant gyfrannu offer campfa awyr agored a oedd hefyd bellach yn yr ardal awyr agored ar ei newydd wedd.
  • Amlinellodd trafodaethau gyda’r gweithwyr yr angen am adolygiad i’r cwricwlwm o fewn yr UCD. Yn aml, nid oedd y cyrsiau na’r cynnwys o fudd i’r bobl ifanc pan adawsant yr uned. Naill ai mae cymwysterau diogelwch safleoedd adeiladu wedi dod i ben neu, oherwydd eu hoedran ifanc, mae cwmnïau’n amharod i gynnig cyflogaeth.
  • Ers diwedd y prosiect, mae’r ysgol bellach wedi cau.