Pant y Rhedyn 2018-19
PY: A yw’r ysgol eisiau siop ffrwythau?
Dulliau Ymchwil: SurveyMonkey i rieni, Plickers i ddisgyblion
Canfyddiadau:
- Mae 86% o’r disgyblion, 90% o’r rhieni a arolygwyd am weld siop ffrwythau yn yr ysgol
- Roedd 95% o rieni yn barod i dalu am y ffrwythau
- Mefus oedd y ffrwythau mwyaf poblogaidd
Canlyniadau / Effaith:
- Cyflwynodd y grŵp eu canfyddiadau i’r Pennaeth a’r ysgol. Fe wnaethant gynnal cyfarfod effaith gyda’r pennaeth lle gofynnodd lawer o gwestiynau ymarferol gan dynnu sylw at pam fod y siop ffrwythau flaenorol wedi methu flynyddoedd lawer ynghynt.
- Dangosodd y grŵp eu prosiect i aelodau Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc y Senedd mewn ymgynghoriad ar Hawliau Plant. Roedd eu hatebion yn rhan o Adroddiad y Pwyllgor.
- Mynychodd rhai disgyblion yr Uwchgynhadledd Newid Hinsawdd 1af ym Mhrifysgol Bangor
- Ysgrifennwyd 2 draethawd israddedig gan fyfyrwyr o Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid, Prifysgol Bangor a fynychodd y sesiynau; nodwyd ar wefan Prifysgol Bangor i un o’r traethodau ennill y marc uchaf ar y cwrs.
- Treialodd y disgyblion stondin yn niwrnod chwaraeon yr haf. Cynhaliwyd trafodaethau gyda’r pennaeth am ymarferoldeb rhedeg siop ffrwythau yn yr ysgol a phwy fyddai’n ei rhedeg. Roedd y disgyblion yn gobeithio cychwyn y siop yn y tymor newydd a chael cefnogaeth gan eu Aelod Cynulliad lleol.