Narberth 2017 – 18 (Gwaith dilynol)

Addysg / gweithgareddau hamdden / diwylliannol (gan gynnwys ysgol, hyfforddiant, sgiliau a chyflogadwyedd) · Hawliau sifil a rhyddid (yn cynnwys hunaniaeth, gwybodaeth, preifatrwydd / delwedd, rhyddid i ymgysylltu, cyfarfod, meddwl, cydwybod a chrefydd, peidio â gwahaniaethu a rhwymedïau) · Themâu CCUHP

Dewiswyd Arberth fel prosiect ‘Dilyn Ymlaen’ Lleisiau Bach yn Cael eu Clywed; i gynnal ymchwil bellach, yn seiliedig ar dystiolaeth eu hargymhellion ac effaith y prosiect Lleisiau Bach yn Gweiddi Allan a ariannwyd yn flaenorol, ‘Addysg, Gwleidyddiaeth a Gwneud Penderfyniadau’ (2014-2017). Cynhaliodd bwrdd rheoli’r disgyblion adolygiad o argymhellion a chamau gweithredu blaenorol a phenderfynu yr hoffent ymchwilio ymhellach i’r addysg a dderbyniant ar y pethau yr oeddent yn teimlo oedd yn bwysig iddynt ac a fyddai’n eu helpu i gymryd mwy o ran wrth wneud penderfyniadau.

PY: Beth sydd yn bwysig i ddisgyblion yn ein hysgol ddysgu, fydd o gymorth iddynt gymryd mwy o ran wrth wneud penderfyniadau?

Dulliau: Cyfrif siart wal gyda disgyblion yn yr ysgol; pleidleisio dot

Canfyddiadau: Prif flaenoriaethau dysgu: (dim mewn trefn blaenoriaeth)

  • Terfysgaeth
  • Hawliau Dynol
  • Ymwybyddiaeth o Gyffuriau
  • Digartrefedd
  • Chwaraeon a Hamdden
  • Byw yn iach
  • Perthynas Iach
  • Hawliau Anifeiliaid
  • Hiliaeth
  • Hawliau Anabledd
  • Sut i gadw’n ddiogel rhag cam-drin
  • Sut i reoli arian

Er mwyn cyd-greu eu cwricwlwm, bu’r plant yn trafod yr hyn yr hoffent ei ddysgu o’r pynciau dderbyniodd fwyaf o bleidleisiau a’r dulliau addysgu y byddai orau ganddynt i athrawon eu defnyddio i’w haddysgu. Dewiswyd Terfysgaeth fel pwnc er mwyn datblygu cynllun gwers manwl.

Gweithiodd prosiect Seiberderfysgaeth Prifysgol Abertawe (cynorthwyydd ymchwil Amy-Louise Watkins) a Dr. Orla Lehane (Prifysgol Dinas Dulyn) gyda Helen Dale (Lleisiau Bach) i greu cynllun gwers ar Derfysgaeth gan ddefnyddio cwestiynau ymchwil y disgyblion. Treialwyd hyn gyda rhieni, bwrdd rheoli’r disgyblion a’r pennaeth a’i gyflwyno ymhellach gan Amy-Louise Watkins a Helen Dale mewn digwyddiad hyfforddi ar gyfer athrawon ym Mhrifysgol Abertawe: ‘Sut i greu cynlluniau gwersi ar gyfer meysydd pwnc sensitif’.

Rhannwyd adroddiad y prosiect a’r cynllun gwers mewn digwyddiad yn y Senedd ar gyfer Plant, Pobl Ifanc a Democratiaeth yng Nghymru a gynhaliwyd gan Brifysgol Abertawe, a fynychwyd gan y cyhoedd a’r rhai hynny sy’n gwneud penderfyniadau.