Gwaun Gynfi 2017-18

PY: Gawn ni wisgo ‘hwdis’ o fewn yr ysgol / cael ‘hwdis’ ysgol?

Canfyddiadau: Mae disgyblion eisiau gwisgo ‘hwdis’ yn lle y siwmperi cyfredol. Does gan y rhieni a atebodd ddim problem gyda ‘hwdis’. Mae’r ysgol yn llai awyddus gan nad yw ‘hwdis’ mor drwsiadus â’r cyfuniad siwmper / crys polo cyfredol.

Canlyniadau / Effaith: Yn dilyn sgyrsiau gyda’r pennaeth cafwyd cyfaddawd – prynwyd hwdis i bawb ym Mlwyddyn 6 gan yr ysgol, wedi arolwg ymysg disgyblion Blwyddyn 6 ynglŷn â lliwiau a logos. Bydd hyn yn parhau bob blwyddyn, bydd Bl. 6 yn cael gwisgo hwdis trwy’r amser i ddangos mai nhw yw’r hynaf yn yr ysgol. Roedd y blynyddoedd eraill yn hapus â hyn cyn belled â bod pawb yn derbyn yr un driniaeth yn ystod eu blwyddyn olaf hwythau yn yr ysgol.