Blaenavon 2018-19
PY: Beth yw diabetes a beth all helpu pobl â diabetes?
Dulliau: Ymgysylltu ag arbenigwyr: Uned Ymchwil Diabetes Cymru; Diabetes UK, gweithwyr iechyd proffesiynol ac ymchwilwyr.
Canfyddiadau:
- Mae yna ddau fath o ddiabetes, math 1 a math 2
- Y pedwar T; Tŷ Bach, Teimlo’n Sychedig, Teimlo’n Flinedig, Teneuach!
- Gellir rheoli diabetes, ond nid ei wella.
- Mae profion yn cael eu datblygu y gall pobl eu gwneud adref – prawf glwcos ymprydio
- Mae angen i chi newid eich ffordd o fyw os oes gennych ddiabetes
- Mae ymarfer corff a chynhyrfu yn newid siwgr gwaed pobl – felly hefyd y tywydd!
Canlyniadau / Effaith:
Wedi creu iMovie – ‘Diabetes a chi’… am blentyn sy’n byw gyda diabetes er mwyn codi ymwybyddiaeth yn yr ysgol a’r gymuned https://www.youtube.com/watch?v=LgnsZhZJu70
Rhannwyd y fideo hon:
- Mewn gwasanaeth ysgol gyda’r holl staff, disgyblion a rhieni disgyblion Lleisiau Bach
- Ar wefan yr ysgol ar gyfer rhieni a’r gymuned ehangach http://bhvcprimary.com/little-voices/
- Digwyddiad dathlu hanner canmlwyddiant CCUHP Plant yng Nghymru lle roedd sefydliadau ac ysgolion o bob rhan o Gymru yn bresennol.
- Mae’r Cyngor Tref lleol wedi cytuno i helpu i’r fideo fod ar gael mewn meddygfeydd.
Tra yn siarad am hawliau, cydweithiodd y disgyblion ag Amnest Rhyngwladol a’r Brifysgol Agored i leisio eu barn ar lyfr Hawliau Plant ar gyfer plant.
Mae’r ysgol yn parhau i fod a grŵp ymchwil Lleisiau Bach fydd yn rhedeg law yn llaw â’n prosiectau eco, ein cyngor ysgol a’n prosiectau Heddlu Bach. Cynhaliodd grŵp ymchwil Lleisiau Bach brosiect pontio’r cenedlaethau gyda’n cartref gofal lleol, hefo cyfranogwyr rhwng 8 a 102 oed, yn rhannu gwybodaeth a myfyrdodau am ein cymuned leol gydol eu hoes.