Diwygio Cyfiawnder Ieuenctid yng Nghymru

Ein prif alwad: 

  • Datganoli pwerau cyfiawnder ieuenctid a phlismona yn llawn er mwyn galluogi system gydlynol sy’n seiliedig ar drawma ac ar hawliau plant, ac sy’n cyd-fynd â gofynion Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn. 

Er ein bod wedi croesawu cynigion y Llywodraeth Flaenorol yng Nghymru i ddiwygio cyfiawnder ieuenctid, ac yn benodol, i symud tuag at roi rôl ehangach sydd wedi’i diffinio’n gliriach i Lywodraeth Cymru, rydym ni’n credu bod y newidiadau hyn wedi cymryd gormod o amser o lawer i’w rhoi ar waith. Mae darpariaeth gwasanaethau cyfiawnder ieuenctid yng Nghymru wedi esblygu’n sylweddol ers 1998, ac erbyn hyn mae’r rhan fwyaf o weithgarwch, staffio a chyllido yn rhan o systemau datganoledig.  Ar ben hynny, er ein bod yn croesawu datganoli cyllid ar gyfer rhaglenni lleihau remand a rhaglenni ymyriadau cynnar o fis Ebrill 2027 ymlaen, dydyn ni ddim yn credu y dylid treulio mwy o amser yn datganoli’r Grant Craidd Cyfiawnder Ieuenctid.

Mae galwadau wedi’u gwneud droeon dros y ddegawd ddiwethaf i ddatganoli cyllid er mwyn galluogi i wasanaethau yng Nghymru gyd-fynd yn well â blaenoriaethau cenedlaethol, lleihau biwrocratiaeth ddiangen a chefnogi ymyriadau mwy ymatebol ac arloesol sydd wedi’u teilwra’n lleol i blant.

Ers tro byd, mae Cymru wedi arwain ym maes cyfiawnder ieuenctid. Ers blynyddoedd cynnar datganoli, mae cryn lwyddiant wedi bod o ran dargyfeirio plant oddi wrth y system cyfiawnder ieuenctid ffurfiol. Cymru, er enghraifft, oedd yn gyfrifol am gyflwyno’r cysyniad o roi’r ‘Plentyn yn Gyntaf a’r Troseddwr yn Ail’, ac mae’r holl weithgarwch yng Nghymru yn seiliedig ar ymrwymiad cynnar i ddull sy’n rhoi’r plentyn yn gyntaf, yn ogystal â model sydd wedi’i seilio ar hawliau plant ac ymarfer sy’n ystyriol o drawma.

Byddai system fwy cydlynol ac integredig yn cefnogi plant, teuluoedd a chymunedau’n well, gan wella canlyniadau ledled Cymru. Rydym ni wedi bod yn aros am amser maith i weld y diwygiadau hyn yn cael eu rhoi ar waith, ac mae eu hangen nhw arnom ni i adeiladu ar y sylfaen gref honno ac i wreiddio’r egwyddorion hyn ymhellach ar draws y system.

Rydym ni hefyd yn credu bod angen gwneud rhagor o gynnydd i sicrhau bod y system yn cyd-fynd yn llawn â safonau hawliau plant rhyngwladol ac yn bodloni gofynion deddfwriaeth sy’n benodol i Gymru, gan gynnwys Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011 . Mae galwadau penodol wedi’u gwneud dro ar ôl tro yng Nghymru i godi oedran cyfrifoldeb troseddol yn unol â’r safonau hyn.

Rydym ni hefyd yn poeni bod diffyg datganoli pwerau plismona yn parhau i greu anghysondebau a heriau. Mae arferion plismona yn cael effaith sylweddol ar hawliau plant, ac rydym ni’n dal yn bryderus am faterion fel cynnal noeth chwiliadau ar blant, cadw plant yn nalfa’r heddlu dros nos, defnyddio teserâu ar blant,  a chyflwyno technolegau adnabod wynebau sy’n cynnwys plant ac ati.

Rydym ni felly’n croesawu’r ffaith fod Plaid Cymru wedi ymrwymo’n glir yn eu Maniffesto i ddatganoli pwerau plismona a chyfiawnder yn ehangach yng Nghymru – gan godi oedran cyfrifoldeb troseddol, rhoi’r gorau i garcharu troseddwyr yn ganolog a’u hadsefydlu’n lleol yn lle, a gwreiddio cyfiawnder adferol ac ymarfer sy’n ystyriol o drawma – gan roi dull mwy cyson sy’n seiliedig ar hawliau ar waith ar draws y system cyfiawnder ieuenctid. Byddai hyn yn sicrhau bod arferion yn cyd-fynd yn well â safonau hawliau plant yr  CCUHP yn ogystal â’r safonau rhyngwladol y mae Cymru wedi ymrwymo i’w cynnal.

Mewn papur briffio newydd, mae Dr Rhian Croke (Canolfan Gyfreithiol y Plant Cymru) a’r Athro Anthony Charles (Prifysgol Abertawe) yn tynnu sylw at y ffaith, er bod Papur Gwyn Llywodraeth y DU ar Gyfiawnder Ieuenctid, Lleihau Troseddau Ieuenctid, Newid Bywydau Ifanc a gyhoeddwyd ym mis Mai 2026, yn nodi newid i’w groesawu tuag at atal, dargyfeirio a llai o gadw dan glo, nid yw’n cynnwys system cyfiawnder ieuenctid sy’n gydlynol ac sy’n seiliedig ar hawliau o’i mesur yn erbyn y safonau a sefydlwyd gan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn. Mae’n anwybyddu i raddau helaeth gyd-destun penodol Cymru sy’n seiliedig ar hawliau, gan gynnwys deddfwriaeth sy’n benodol i Gymru ar hawliau plant. Mae’r papur briffio ar gael yma.

Ym mis Mehefin 2026, cyflwynodd Dr Rhian Croke dystiolaeth i Ymchwiliad Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig Senedd y DU i Ddyfodol Plismona, gan gyflwyno achos cryf bod ymrwymiad Cymru i hawliau plant yn gynyddol yn groes i system blismona a chyfiawnder nad oes ganddi fawr o reolaeth drosti. Gweler y ddolen i’r dystiolaeth yma: https://committees.parliament.uk/writtenevidence/167595/html/ 

ATEB PAPUR GWYN

Ymateb Canolfan Gyfreithiol y Plant Cymru i Bapur Gwyn Llywodraeth y DU ar Gyfiawnder Ieuenctid

Myfyrdodau ar y cyd-destun Cymreig

Dr Rhian Croke (Canolfan Gyfreithiol Plant Cymru)
& Professor Anthony Charles (Prifysgol Abertawe)

Gorffennaf 2026

 

TYSTIOLAETH

Tystiolaeth i Senedd y DU, Pwyllgor Dethol Materion Cymru ar Ddyfodol Plismona yng Nghymru

Dr Rhian Croke, Canolfan Gyfreithiol Plant Cymru

Mehefin 2026