Defnyddio Gynnau Taser ar Blant
Arfau allyrru trydan yw gynnau Taser, a elwir hefyd yn Ddyfeisiau Ynni Dargludol (CEDs), ac maent yn cael eu defnyddio gan yr heddlu i analluogi unigolion drwy roi sioc drydanol iddynt. Maent yn gweithio drwy anfon ceryntau trydanol drwy brobiau pigog sy’n treiddio i’r croen, gan amharu ar system niwrogyhyrol y corff dros dro ac achosi poen dwys. Er bod y Coleg Plismona yn eu categoreiddio fel arfau “llai angheuol”, mae sefydliadau fel Amnesty International, Cynghrair Hawliau Plant Lloegr (sy’n rhan o Just for Kids Law) a Sefydliad Ymchwil Omega yn dadlau bod hyn yn gamarweiniol, oherwydd gall gynnau Taser achosi anaf difrifol neu farwolaeth, yn enwedig os cânt eu camddefnyddio neu eu defnyddio dro ar ôl tro.
Mae cyrff hawliau dynol, gan gynnwys Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn, wedi galw am waharddiad llwyr ar ddefnyddio gynnau Taser ar blant. Yn eu Sylwadau Terfynol yn 2023, argymhellodd y Pwyllgor yn benodol fod llywodraethau’r DU a llywodraethau datganoledig yn gwahardd defnyddio dyfeisiau niweidiol – gan gynnwys gynnau Taser – ar unrhyw un o dan 18 oed. Mae’r alwad hon yn adlewyrchu’r risgiau corfforol, seicolegol a datblygiadol difrifol sy’n gysylltiedig â defnyddio gynnau Taser ar blant.
Mae’r Pwyllgor o’r farn bod gynnau Taser yn anghydnaws â hawliau plant dan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn, yn enwedig Erthygl 19 (amddiffyn rhag trais), Erthygl 24 (hawl i iechyd), ac Erthygl 37(a) (amddiffyn rhag triniaeth greulon, annynol neu ddiraddiol). Mae tystiolaeth o’u defnydd anghymesur, yn enwedig yn erbyn plant Du a phlant wedi’u hymyleiddio, yn ychwanegu at bryderon ynghylch gwahaniaethu ac anghyfiawnder systemig (Erthygl 2 Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn). Am y rhesymau hyn, mae arbenigwyr hawliau dynol rhyngwladol yn gyffredinol yn ystyried gynnau Taser yn ddefnydd annerbyniol o rym yn erbyn plant, ac mae’n mynd yn groes i’n deddfwriaeth benodol i Gymru ar hawliau plant yng Nghymru.
Mae Canolfan Gyfreithiol y Plant Cymru, gan weithio gyda’i chwaer fudiad CRAE (sy’n rhan o Just for Kids Law), yn eiriol dros roi diwedd ar ddefnyddio gynnau Taser ar blant.
I gael rhagor o wybodaeth, gweler ein briff ar y cyd sy’n cyfleu pryderon brys ynghylch defnyddio gynnau Taser a bwriad Llywodraeth y DU i gyflwyno Taser 10, a’r effaith negyddol ar hawliau plant.
PAPUR BRIFFIO
Papur briffio: Pryderon brys ynghylch awdurdodiad posibl Taser 10 a’r effaith negyddol ar hawliau plant Dr Rhian Croke Canolfan Gyfreithiol y Plant Cymru a Louise King Children’s Rights Alliance for England (CRAE), rhan o Just for Kids Law.
Mehefin 2025
Image Source: CRAE, part of Just for Kids Law
DIWEDDARIAD
Diweddariad Awst 2025: Taser 10 a Hawliau Plant yng Nghymru
DIWEDDARIAD
Diweddariad Hydref 2025: Llywodraeth y DU yn awdurdodi Taser 10 heb gynnal Asesiad o’r Effaith ar Hawliau Plant


