Cyngor a Chynrychiolaeth Gyfreithiol
Galwad allweddol: Sicrhau bod mynediad i gyngor a chynrychiolaeth gyfreithiol annibynnol sy’n addas i blant ar gael i blant sy’n ceisio lloches yng Nghymru
Mae plant sy’n ceisio lloches yng Nghymru, yn enwedig y rhai sydd ar eu pen eu hunain, yn wynebu rhwystrau difrifol wrth gael mynediad at gyngor a chynrychiolaeth gyfreithiol. Er gwaethaf eu hawl i gael cymorth cyfreithiol am hawliadau lloches o dan gyfraith y DU, mae nifer yn ei chael hi’n anodd cael mynediad at y cymorth hwn oherwydd bylchau systemig a dirywiad sylweddol mewn gwasanaethau cyfreithiol mewnfudo ar draws Cymru. Mae’r heriau hyn yn tanseilio argymhelliad 2023 gan Bwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn, a oedd yn annog llywodraethau’r DU a’r llywodraethau datganoledig i sicrhau bod plant sy’n ceisio lloches yn derbyn cyngor cyfreithiol sy’n addas i’w hoedran a mynediad at gyfiawnder.
Yng Nghymru, mae darparwyr cymorth cyfreithiol sy’n arbenigo mewn mewnfudo yn brin ac wedi’u dosbarthu’n anwastad. Mae ymchwil a wnaed gan Sefydliad Bevan wedi tynnu sylw at y gostyngiad cyflym yng ngwasanaethau cyfreithiol mewnfudo.
Mae gan y cwymp yn y ddarpariaeth gwasanaethau ganlyniadau pellgyrhaeddol, gydag oedi a gwrthod mynediad at gymorth cyfreithiol yn aml yn arwain at golli hawliau allweddol, statws mewnfudo, tai ac addysg, camddosbarthu oedran drwy asesiadau oedran annibynadwy a gall, o bosib, wthio plant tuag at gamfanteisio, amddifadedd neu allgludiad.
Mae’r diffyg cynrychiolaeth gyfreithiol hefyd yn tanlinellu’r angen brys am Wasanaeth Gwarcheidiaeth statudol yng Nghymru. Byddai gwarcheidwaid yn cefnogi plant sydd ar eu pen eu hunain drwy’r prosesau cyfreithiol cymhleth, ac yn gweithredu fel eiriolwyr cyson er mwyn helpu’r plant i gael mynediad at gyngor a chynrychiolaeth gyfreithiol hanfodol mewn system sydd heb ddigon o adnoddau. Tra bod Llywodraeth Cymru wedi mynegi ymrwymiad i archwilio’r gwasanaeth hwn, rydyn ni’n dal i aros am weithredu. I gael mwy o wybodaeth am ein galwadau am Wasanaeth Gwarcheidiaeth, ewch fan hyn.
Am sesiwn friffio ar y cyd gyda Dr Rhian Croke, Canolfan Gyfreithiol y Plant Cymru ac Isata Kanneh o Sefydliad Bevan ar ‘Rwystrau i Gyngor a Chynrychiolaeth Gyfreithiol i Blant sy’n Ceisio Lloches yng Nghymru.’
NODYN BRIFFIO
Barriers to Legal Advice and Representation for Asylum Seeking Children in Wales
October 2025
