- Fe ddylech deimlo’n ddiogel yn y gwaith
- Ddylech chi ddim cael eich trin yn wahanol i bobl eraill yn y gwaith
- Ddylech chi ddim cael eich bygwth na’ch bwlio i wneud gwaith yn y lle cyntaf, na tra byddwch chi yn y gwaith
P’un a oes gennych swydd ran amser ar benwythnosau, neu eich bod wedi gadael yr ysgol ac yn gwneud prentisiaeth neu wedi dechrau gweithio’n llawn amser, fe ddylech deimlo’n ddiogel yn y gwaith. Ddylai neb ofyn i chi wneud pethau sy’n beryglus i chi, a ddylech chi ddim gorfod derbyn cael eich trin yn wael gan y bobl rydych chi’n gweithio gyda nhw, neu gan gwsmeriaid/cleientiaid. A chithau’n blentyn neu’n berson ifanc o dan 18, mae eich prif hawliau’n ymwneud â chael addysg, a thyfu a datblygu’n iach, felly dyna gefndir unrhyw waith a wnewch, boed yn llawn amser neu’n rhan amser.
‘Iechyd a Diogelwch’ yw’r rheolau yn y gwaith i amddiffyn gweithwyr rhag risg (gorfforol gan amlaf). Mae’r rheolau’n golygu y dylai pwy bynnag rydych yn gweithio iddo neu iddi fod wedi edrych ar y swydd rydych yn ei gwneud, wedi nodi a oes unrhyw risgiau, ac wedi gwneud yn siŵr eich bod yn cael eich diogelu rhag y risgiau hynny. Gallai hynny gynnwys gwisgo dillad diogelwch, gwneud yn siŵr eich bod wedi cael yr hyfforddiant iawn i wneud swydd benodol, gwneud yn siŵr eich bod yn cael eich goruchwylio’n briodol, neu eich bod yn gweithio gyda phobl eraill. Bydd hyn yn wahanol i bob swydd.
Mae rheolau iechyd a diogelwch hyd yn oed ar gyfer gweithio mewn swyddfa, sy’n gallu ymddangos yn waith ‘diogel’ iawn, er mwyn gwneud yn siŵr bod gennych le diogel i weithio ynddo. Bydd pethau fel yr offer a ddefnyddiwch, glendid y lle rydych yn gweithio ynddo, a phethau fel diogelwch tân yn dod o dan y rheolau hyn.
Os nad ydych yn teimlo’n ddiogel yn y gwaith oherwydd y math yma o risg, fe ddylai fod system yn y gwaith ar gyfer rhoi gwybod i rywun – efallai eich rheolwr neu’r adran Adnoddau Dynol. Bydd pob sefydliad yn wahanol, felly bydd angen i chi holi pa drefniadau sydd gan eich cyflogwr. Os rhoddwch wybod am broblem ond bod dim byd yn cael ei wneud, gallech ystyried cael gair â rhywun sy’n uwch yn y sefydliad, neu drafod y mater â’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch sy’n gyfrifol am Iechyd a Diogelwch yn y gwaith. Os cewch ddamwain yn y gwaith, fe ddylech allu nodi hynny mewn llyfr damweiniau.
Ystyr gwahaniaethu yw trin rhywun yn wahanol – yn annheg – oherwydd nodwedd benodol. Gall hyn gynnwys eich rhywedd, neu eich hil neu grefydd, yr iaith rydych yn ei siarad, anabledd rydych yn byw gydag ef, neu os ydych yn feichiog neu’n cymryd amser i ffwrdd o’r gwaith i ofalu am blentyn. Os cewch eich trin yn annheg oherwydd eich oedran, gall hynny hefyd fod yn wahaniaethu anghyfreithlon.
Gall gwahaniaethu yn y gwaith ddigwydd mewn sawl ffordd. Gall fod yn wahaniaethu ‘uniongyrchol’ – pan gewch eich trin yn wahanol yn uniongyrchol oherwydd nodwedd benodol e.e. os yw dyn a menyw’n ymgeisio am yr un swydd a’r dyn yn cael y swydd oherwydd ei fod yn ddyn, ac nid am mai ef oedd yr unigolyn gorau ar gyfer y swydd. Gall gwahaniaethu hefyd fod yn ‘anuniongyrchol’ – pan fydd rhywbeth sy’n berthnasol i bawb yn cael mwy o effaith ar grŵp penodol o bobl sy’n rhannu’r un nodwedd e.e. os oes rheol yn y gwaith sy’n dweud na chaiff neb wisgo het na phenwisg o unrhyw fath yn y gwaith, bydd hynny’n fwy anodd i bobl sy’n perthyn i grefyddau sy’n mynnu bod eu dilynwyr yn gwisgo rhywbeth ar eu pen.
Efallai y gwelwch eich bod yn cael eich trin yn wahanol am eich bod yn ifanc. Mae hynny yr un mor anghywir â thrin rhywun yn annheg oherwydd eu rhywedd neu eu hil.
Os ydych chi’n cael eich trin yn wahanol neu’n annheg yn y gwaith am ryw reswm, cewch fynd yn y pen draw at y Tribiwnlys Cyflogaeth i ddatrys y broblem. Cyn i chi fynd at y Tribiwnlys Cyflogaeth, bydd angen i chi geisio datrys pethau yn y gwaith. Fe ddylai fod gan y busnes neu’r sefydliad rydych yn gweithio iddo drefn gwyno i’ch helpu i ddatrys y mater. Os nad yw hynny’n gweithio, a bod angen i chi ystyried cymryd camau cyfreithiol, bydd angen ‘cyfaill cyfreitha’ i’ch helpu os ydych chi o dan 18.
Cofiwch fod terfyn amser o 3 mis fel arfer ar gyfer dwyn achos i Dribiwnlys Cyflogaeth.
Ystyr aflonyddu yw pan fo rhywun yn ymddwyn tuag atoch mewn ffordd sy’n eich bychanu ac sy’n annerbyniol i chi. Gall hyn ddigwydd mewn sawl ffordd, a gall fod yn gysylltiedig â rhywbeth fel eich hil neu eich rhywedd. Gall hefyd fod yn rhywbeth sy’n digwydd unwaith neu’n rhywbeth sy’n digwydd dro ar ôl tro. Mae bwlio, sef pan fo rhywun sydd â mwy o rym na chi (neu rydych chi’n meddwl sydd â mwy o rym na chi) yn ymddwyn yn fygythiol neu’n ymosodol tuag atoch, weithiau’n cael ei ystyried fel math o aflonyddu.
Gall bwlio a/neu aflonyddu hefyd fod yn fater iechyd a diogelwch os yw’n gwneud i chi deimlo’n anniogel yn y gwaith ac yn achosi i chi ddioddef o straen, neu os oes rhywun yn eich brifo’n gorfforol.
Efallai y byddwch yn amharod i gwyno am rywbeth sy’n digwydd i chi yn y gwaith. Efallai eich bod yn gweithio i sefydliad bach iawn, neu eich bod eisiau cwyno am rywun sy’n uwch na chi – efallai mai dyna pwy rydych chi i fod i fynd i’w weld i drafod eich problemau. Gall hynny wneud i bethau deimlo’n anodd iawn, ond mae yna bobl a fydd yn gallu eich helpu. Gallech siarad â Cyngor ar Bopeth, ACAS neu’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch i gael cyngor a chymorth.