Clybiau a gweithgareddau wedi’u trefnu
- Efallai y byddwch am dreulio rhywfaint o’ch amser hamdden yn cymryd rhan mewn gweithgareddau wedi’u trefnu naill ai yn yr ysgol neu’r tu allan i’r ysgol
- Os oes rhywbeth ar gael yn eich ardal chi, fe ddylech gael cyfle i gymryd rhan yn yr un ffordd â phawb arall
- Fe ddylech deimlo’n ddiogel wrth gymryd rhan mewn gweithgareddau wedi’u trefnu
Mae llawer o weithgareddau ar gael i blant a phobl ifanc yng Nghymru mewn clybiau ac mewn sefydliadau eraill. Mae gallu manteisio ar y gweithgareddau hyn yn gyfle i chi i arfer eich hawl i orffwys a hamddena, ac fe ddylech gael yr un cyfleoedd â phob plentyn arall yn eich ardal i gymryd rhan. Fe ddylech hefyd deimlo’n ddiogel wrth gymryd rhan mewn gweithgareddau sydd wedi’u trefnu gan glwb, a phan fyddwch yno, hyd yn oed os nad ydych yn gwneud dim byd.
Clybiau a gweithgareddau wedi’u trefnu
Oes modd fy atal rhag ymuno â chlwb neu weithgaredd am reswm fel fy rhyw neu fy hil neu fy nghrefydd?
Mae rheol arbennig sy’n golygu y gall clwb neu weithgaredd, mewn rhai achosion, fod ar gyfer un grŵp penodol o bobl yn unig. Mae gan glwb neu sefydliad hawl i osod cyfyngiadau o’r fath os yw’n helpu grŵp o bobl sydd dan ryw fath o anfantais.
Oes rhywbeth y gallaf ei wneud os ydw i’n cael ymuno â chlwb ond fy mod yn dal i gael fy nhrin yn wahanol?
Mae gwahaniaethu fel hyn yn anghywir ac yn erbyn y gyfraith, p’un a yw’n digwydd ar ddamwain neu’n fwriadol. Os ydych yn meddwl ei fod wedi digwydd ar ddamwain, efallai y gallech siarad â’r person neu’r bobl dan sylw ac esbonio beth yw’r broblem. Os ydych yn meddwl bod rhywun yn eich trin yn wahanol yn fwriadol, neu os nad ydych wedi gallu esbonio beth sydd wedi digwydd wrth rywun sydd wedi bod yn eich trin yn wahanol ar ddamwain, neu am nad ydynt yn deall, gallech ystyried gwneud cwyn i geisio datrys y mater.
Oes modd i mi gael fy ngadael allan o weithgaredd oherwydd fy mod yn anabl?
Beth os ydw i eisiau cymryd rhan mewn gweithgaredd sydd ddim ar gael yn fy ardal i?
A fyddaf yn cael cymryd rhan mewn gweithgaredd os nad ydw i’n siarad Cymraeg?
A allaf sicrhau bod gweithgaredd ar gael yn Gymraeg?
Sut fyddaf i’n gwybod a yw’r clwb gweithgareddau’n cael ei redeg yn ddiogel?
Os nad yw eich clwb yn rhan o glwb ar ôl ysgol sy’n gysylltiedig â’r ysgol, fydd Estyn ddim yn ei arolygu, ond mae’n rhaid i’r bobl sy’n ei gynnal wneud yn siŵr ei fod yn cael ei redeg yn ddiogel.
Beth os oes rhywbeth yn digwydd mewn clwb gweithgareddau sy’n fy mrifo neu’n gwneud i mi deimlo nad ydw i’n ddiogel?
Os bydd rhywbeth yn digwydd neu os ydych yn teimlo’n anghyfforddus ynglŷn ag ymddygiad oedolyn yn y clwb, dylech ddweud wrth oedolyn arall rydych yn ymddiried ynddo. Efallai y bydd hynny’n anodd i chi ond ddylech chi ddim cael niwed na chael eich cam-drin gan oedolyn, yn enwedig un sydd i fod i fod yn gofalu amdanoch. Os nad oes rhywun rydych yn teimlo’n gyfforddus yn trafod yr hyn sy’n digwydd gydag ef neu hi, gallwch gysylltu â llinellau cymorth fel Childline neu Meic. Fe fyddan nhw’n gallu gwrando arnoch a’ch helpu i benderfynu beth i’w wneud nesaf.