• Mae gennych hawl i breifatrwydd sy’n golygu y dylech allu cadw eich gwybodaeth yn ddiogel ar-lein
  • Pan fyddwch ar-lein, rydych yn creu llawer o wybodaeth am ble rydych chi a’r hyn rydych yn ei wneud
  • Os yw sefydliadau’n cadw gwybodaeth amdanoch, mae’n rhaid iddynt ei chadw’n ddiogel

Gan fod y we’n cynnig cymaint o gyfleoedd, dydyn ni ddim bob amser yn meddwl am beryglon bod ar-lein nac am yr anfanteision. Efallai na fyddwch wedi meddwl bod y bobl a’r sefydliadau sydd biau’r gwefannau rydych yn eu defnyddio’n casglu gwybodaeth amdanoch bob tro rydych ar-lein. Dyw eich hawl i breifatrwydd ddim yn atal y bobl hyn rhag casglu’r wybodaeth hon, a fydd y gyfraith ddim ond yn eich diogelu os bydd rhywun yn defnyddio’r wybodaeth honno mewn ffordd nad ydych wedi cytuno iddi, neu i’ch niweidio.

O wybod pa fath o wybodaeth sy’n cael ei chasglu amdanoch, beth sy’n digwydd iddi a’r hyn y gallwch ei wneud, byddwch yn gallu gwneud penderfyniadau gwell am yr hyn rydych yn ei wneud ar-lein a pha wybodaeth rydych yn ei rhannu. Byddwch hefyd yn gwybod beth i’w wneud os oes rhywun yn defnyddio eich gwybodaeth mewn ffordd nad ydych wedi cytuno iddi, neu sy’n eich niweidio.