Nantymoel 2017-18
Addysg / gweithgareddau hamdden / diwylliannol (gan gynnwys ysgol, hyfforddiant, sgiliau a chyflogadwyedd) · Chwarae, hamdden, adloniant, diwylliant a chelf · Cymuned ( yn cynnwys pynciau'n ymwneud â llesiant cyhoeddus cyffredinol, tlodi, allgáu cymdeithasol sy'n effeithio ar eraill, diogelwch y cyhoedd a gwasanaethau cyhoeddus) · Themâu CCUHP · Yr amgylchedd ac amwynderau (yn cynnwys gweithredu yn yr hinsawdd, llygredd, cadwraeth, economi gylchol)
PY: Beth all helpu i leihau unigrwydd ymysg pobl hŷn?
Dulliau: Grwpiau ffocws gyda phobl hŷn yn y gymuned
Canfyddiadau:
- Dywedodd bron i hanner y bobl a gymerodd ran yn ein hymchwil eu bod yn teimlo’n unig
- Pethau sy’n gwneud i bobl deimlo’n unig: Anabledd, Ymddeoliad, Ddim yn mynd allan, Ddim yn gweld neb, Colli anwyliaid
- Er bod pobl yn gweld teulu, ffrindiau a chymdogion yn ‘aml iawn’ neu ‘weithiau’ maent yn dal i deimlo’n unig. Byddai ‘dod at ein gilydd’ yn helpu pobl i deimlo’n llai unig.
- Syniadau: Mwy o gyfarfodydd cymunedol, dosbarthiadau fel gwau / gwnïo, caffi cymunedol, nosweithiau cymdeithasol, côr cymunedol, adrodd straeon.
- ‘Byddai mwy o weithgareddau yn gwella hyder’. Dywedodd pobl y byddai’r gweithgareddau hyn yn cynyddu hyder: ymuno â chlybiau, clybiau llyfrau, ymweliadau cartref, colli pwysau, cael swydd, cwrdd â phobl, boreau coffi a mwy o help a chefnogaeth
Canlyniadau / Effaith
Cyflwynodd y disgyblion eu canlyniadau i’r grŵp crefftau a chymryd rhan mewn sesiwn grefft wedyn.
2018-2019 Prosiect dilynol:
Yn dilyn yr ymchwil sylfaenol ar unigrwydd, blaenoriaethodd y disgyblion weithio ar ddatblygu gardd gymunedol i fynd i’r afael â’r materion a wynebwyd ac i ddod â’r gymuned ynghyd. O’u ymgysylltiadau ymchwil, cysylltodd y cydlynydd cymunedol ar gyfer Cwm Ogwr Pen-y-bont ar Ogwr, ymchwilwyr disgyblion Lleisiau Bach gyda Datblygu Gwledig Reach a’r Clwb Bechgyn a Merched, i fod yn rhan o ddatblygiad Gardd Gymunedol Berwyn y tu allan i’w hysgol. Fe wnaethant gymryd rhan mewn ymgynghoriadau cymunedol i gyflwyno eu syniadau ac mae eu hargymhellion wedi’u cynnwys yn yr adroddiad datblygu. Maent yn cynnwys:
Datblygu gardd gymunedol ar y tir y tu allan i’r ysgol, sy’n cynnwys:
- Ardal Picnic
- ‘Ardal naid hir Lynn the Leap’ mewn rwber gwyrdd gyda mesur metel pres wedi’i osod i’r ddaear yn nodi ei naid hiraf ynghyd â mainc er mwyn eistedd a gwylio
- Lloches – gwesty pryfed (rhan o’r ffin), to gweirglodd (blodau gwyllt, glaswellt)
- Hygyrch i gadeiriau olwyn
- Cynhwysydd Storio Dur, wedi’i addasu, to gweirglodd, cladin pren, tŷ pryfed, cysgodfan
- Ardal anifeiliaid anwes – rhoi cŵn ar dennyn, bin baw ci
- Gweithio gyda Cadwch Gymru’n Daclus
- Plac Lleisiau Bach gyda logo ac enwau’r plant
- Raciau beic ar gyfer llwybr beicio
- Meinciau arferol
- Ardal Llwyfan
- Ardal blannu wedi’i chodi / coed bach / crug dŵr
- Giât fynedfa fwaog ‘Croeso i Ardd Gymunedol Berwyn’
- Ffensys galfanedig pen bwa
Derbyniwyd cymorth gan Chwaraeon Cymru i ddod a’r prosiect mewn cysylltiad gyda Lynn Davies, yr athletwr Olympaidd a arferai hyfforddi yn yr ardal ac mae hefyd wedi nodi ei ddiddordeb i ddod i agor Gardd Gymunedol Berwyn a’r ‘naid hir’.
Mae cynlluniau ar gyfer safle Berwyn yn parhau gyda cheisiadau am arian i ddatblygu’r cam cyntaf.
Tra yn siarad am hawliau, cydweithiodd y disgyblion ag Amnest Rhyngwladol a’r Brifysgol Agored i leisio eu barn ar lyfr Hawliau Plant ar gyfer plant.