Friars 2017-18
PY: Beth yw barn disgyblion am ein ‘prif 3’ pwnc ar gyfer newid yn ein hysgol?
Dulliau: Arolygon SurveyMonkey
Canfyddiadau:
Toiledau yn yr ysgol
- Roedd y disgyblion yn graddio’r toiledau yn 2.2 / 5 ar gyfartaledd
- Roedd 73% yn teimlo bod disgyblion yn gyfrifol am lendid y toiledau
- Roedd 65% yn teimlo nad oedd digon o doiledau yn yr ysgol
- Roedd 40% yn teimlo nad oedd digon o fynediad at ddŵr poeth a sebon
Ffynhonnau Dŵr
- Mae 67% yn defnyddio’r ffynhonnau dŵr yn yr ysgol, ond honnodd dros 60% mai prin iawn byddent yn eu defnyddio neu nad oeddynt yn gwybod fod un ar gael.
- Roedd 84% yn teimlo bod angen mwy ar yr ysgol.
- Roedd 84% yn eu cael yn ddefnyddiol
- Byddai’r mwyafrif yn eu defnyddio yn yr haf
Bwyta y Tu Allan
- Roedd tua hanner yn bwyta eu cinio y tu allan
- Dywedodd dros 50% fod angen lle i bobl fwyta y tu allan
- Pe bai mwy o finiau ar y cae byddai dros 70% yn bwyta y tu allan
- Dywedodd 94% nad ydyn nhw’n taflu sbwriel ar gae’r ysgol
- Dywedodd dros 60% fod y broblem sbwriel yn wael neu’n wael iawn
- Gwnaeth llawer sylwadau am y diffyg cyfleoedd ar gyfer ailgylchu
Canlyniadau / Effaith: Cafodd y canlyniadau eu bwydo’n ôl i uwch dîm yr ysgol. Roedd ysgol gynradd newydd i gael ei hadeiladau ar ran o iard yr ysgol ac felly rhan o’r effaith fyddai bwrw ymlaen a’r argymhellion yn y cyd-destun hwnnw ynghylch a faint o gyfleusterau toiled, gofod y tu allan a ffynhonnau dŵr fyddai angen.