Dyffryn Ogwen 2018-19
PY: A allwn ni ddileu poteli dŵr untro o’r ysgol?
Dulliau: ymchwil ar-lein, cyfarfod ag arbenigwyr, ysgrifennu llythyrau, gwirio corfforol yn yr ysgol
Canfyddiadau:
- Mae’r ysgol yn defnyddio 65000 o boteli dŵr yn flynyddol
- •Daw poteli am ddim gyda chinio – nid oes cwpanau ar gael, contract yr AALl gyda’r cwmni arlwyo
- Nid yw pob potel yn cael ei hailgylchu’n gywir
- Dim digon o ffynhonnau dŵr
Canlyniadau / Effaith:
Daeth y Lab Cynaliadwyedd o Brifysgol Bangor atom i egluro cefndir plastig untro a beth oedd yn digwydd yn y brifysgol o ran ailgylchu ac ati. Fe wnaethant helpu’r grŵp i hel tystiolaeth o’r hyn yr oeddent wedi’i ddarganfod – gan ddefnyddio’r rhifau i ddangos y gwastraff. Cafodd y ffreutur ei lobïo i roi’r gorau i ddefnyddio’r poteli untro, yn ogystal a dwyn pwysau ar Uwch Reolwyr yr ysgol i ychwanegu mwy o ffynhonnau dŵr. Fe wnaethant benderfynu darparu potel yr un i bob disgybl i’w defnyddio yn yr ysgol yn ogystal â system ‘trade-in’/ disgownt ar gyfer cyfnewid poteli sydd wedi treulio.