Ydych chi wedi graddio mewn Cwrs Ymarfer Cyfreithiol, a gyda diddordeb mewn hawliau plant? Ymhen ychydig, byddwn yn recriwtio cyfreithiwr o dan hyfforddiant bydd yn arbenigo mewn hawliau plant, ar gyfer rôl sy’n dechrau yn Ionawr 2021.  Mae’r swydd ddisgrifiad ar gyfer y rôl islaw. Bydd manylion o sut i ymgeisio yn cael eu rhannu ar y 17eg o Awst.

 

Coleg/Ysgol:Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton
Teitl Swydd:Cymrawd Hawliau’r Plentyn
Adran/Pwnc:Canolfan Gyfreithiol y Plant
Cyflog:Gradd 6, £25,941 – £29,176 y flwyddyn
Oriau gwaith:35 awr yr wythnos, dydd Llun i ddydd Gwener, oriau hyblyg rhwng 8am a 6pm. Gellir gofyn i chi weithio ar benwythnosau o bryd i’w gilydd i gynorthwyo mewn digwyddiadau etc. Rhoddir amser yn lle tâl am weithio ar y penwythnos.
Contract:Swydd am gyfnod penodol o 24 mis yw hon.
Lleoliad:Lleolir y swydd hon ar Gampws Singleton

Bydd deiliad y Gymrodoriaeth yn treulio rhywfaint o’i amser ar leoliad gwaith gyda chwmnïau cyfreithiol partner (tua 50%), felly disgwylir i’r Cymrawd weithio yn swyddfa’r partner am gyfnod y lleoliad gwaith.

Bydd lwfansau priodol ar gael i dalu am gostau teithio rhesymol i leoliadau gwaith ac i ymgymryd â rôl y Cymrawd Hawliau’r Plentyn.

 

CyflwyniadEr mwyn cyflawni ei huchelgais o fod ymysg y 30 o brifysgolion gorau, mae angen gweithlu gwasanaethau proffesiynol ar Brifysgol Abertawe. Rhaid i’r gweithlu hwnnw feddu ar y sgiliau amrywiol i sicrhau y gall gyflawni rhagoriaeth drwy systemau a phrosesau effeithlon ac effeithiol sy’n manteisio ar ddatblygiadau technolegol.

 

Gwybodaeth gefndirolLleolir y Cymrawd Hawliau’r Plentyn yn Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton, Canolfan Gyfreithiol y Plant. Sefydlwyd Canolfan Gyfreithiol y Plant i ddarparu cyngor a gwybodaeth gyfreithiol i blant (dan 18 oed) ar-lein (<https://childrenslegalcentre.wales/>) yn ogystal â thrwy ymgysylltu â’r cyhoedd a darparu Addysg Gyfreithiol Gyhoeddus.

Bydd y Cymrawd Hawliau’r Plentyn yn gwneud cyfraniad cryf at gyflawni uchelgais Canolfan Gyfreithiol y Plant i ddatblygu ei gwasanaeth cyngor cyfreithiol ac eirioli i blant a’u teuluoedd, yn ogystal â gwella proffil ei Haddysg Gyfreithiol Gyhoeddus.

Prif Ddiben y Swydd

 

Rheolwr Clinig y Gyfraith Abertawe fydd rheolwr llinell y Cymrawd.

 

[1] Gyda goruchwyliaeth briodol gan Brif Ymarferydd Hyfforddiant penodol, bydd y Cymrawd yn ymgymryd â gwaith gwasanaethau cyfreithiol yng Nghanolfan Gyfreithiol y Plant ac ar leoliad gwaith gyda chwmnïau cyfreithiol partner, ar lefel sy’n gyson â gofynion hyfforddiant Awdurdod Rheoleiddio’r Cyfreithwyr (SRA), am gyfnod o hyfforddiant cydnabyddedig (24 mis). Bydd hyn yn cynnwys:

 

•            Cwblhau hyfforddiant gorfodol a bennir o bryd i’w gilydd gan yr SRA.

•            Gwaith achos cleientiaid, gan gynnwys paratoi achosion llys.

 

Ceir rhagor o fanylion dan ‘Dyletswyddau Cyffredinol’ 1-8.

 

[2] Gan ymgynghori â Rheolwr Clinig y Gyfraith Abertawe, bydd y Cymrawd yn cynllunio ac yn darparu gwasanaethau cyngor, gwybodaeth ac eiriolaeth i hyrwyddo gwaith Canolfan Gyfreithiol y Plant, gan gynnwys:

 

  • Cynllunio a darparu gwasanaethau allgymorth cyfreithiol
  • Nodi, cychwyn a chefnogi cyfreithia strategol
  • Dylanwadu ar bolisïau ac eirioli dros bolisïau, yn enwedig gyda’r llywodraeth (ar bob lefel) yng Nghymru
  • Cynllunio a darparu hyfforddiant, gan gynnwys Addysg Gyfreithiol Gyhoeddus.

 

Ceir rhagor o fanylion dan ‘Dyletswyddau Cyffredinol’ 1-7

 

[3] Bydd y Cymrawd yn datblygu ac yn gweithredu prosiect cytunedig a fydd yn gwella mynediad at gyfiawnder ar gyfer plant yng Nghymru, gan gynnwys cynllun prosiect y bydd y Cymrawd yn ei ddyfeisio ac yn ei weithredu dros gyfnod y Gymrodoriaeth.

 

Ceir rhagor o fanylion dan ‘Dyletswyddau Cyffredinol’ 18.

 

 

Dyletswyddau CyffredinolBydd y Cymrawd yn:

 

1.      Ymgymryd â gwaith achosion cyfreithiol ar ran Canolfan Gyfreithiol y Plant ac yn ystod lleoliad gwaith gyda chwmnïau cyfreithiol partner.

2.      Darparu cyngor cyfreithiol i gleientiaid a nodir gan Ganolfan Gyfreithiol y Plant a/neu gwmnïau cyfreithiol partner.

3.      Cynnal cofnodion priodol ar gyfer cleientiaid.

4.      Cynnal ymchwil gyfreithiol sy’n angenrheidiol i ymgymryd â gwaith achos cleientiaid.

5.      Ymgymryd â gwaith cyd-drafod a chynrychioli ar gyfer cleientiaid a nodir gan Ganolfan Gyfreithiol y Plant a/neu gwmnïau cyfreithiol partner.

6.      Drafftio a pharatoi dogfennau cyfreithiol neu gyflwyniadau mewn perthynas â gwaith achos yn ôl yr angen.

7.       Cynorthwyo wrth baratoi ceisiadau am gyllid cyhoeddus cymorth cyfreithiol a phrosesu ceisiadau am gymorth cyfreithiol yn unol â’r rheoliadau parthed Cymorth Cyfreithiol.

8.       Cyflawni dyletswyddau eraill yn unol â chyfarwyddiadau sefydliadau partner yn ystod lleoliad gwaith gyda nhw, ar yr amod bod y rhain yn gyson â gwaith y sefydliadau partner a’u bod yn rhesymol.

 

Sylwer: Bydd gwaith achos cleientiaid ar gyfer Canolfan Gyfreithiol y Plant yn ymwneud â’r gyfraith mewn perthynas â phlant a phobl ifanc (dan 18 oed) a’u teuluoedd yn unig. Bydd gwaith achos cleientiaid yn ystod y lleoliad gwaith yn ymwneud â’r gyfraith mewn perthynas â phlant a phobl ifanc a’u teuluoedd yn bennaf, ond bydd hefyd yn cynnwys gwaith achos sy’n gysylltiedig ag ymarfer cyfreithiol cyffredinol.

 

Bydd y Cymrawd yn:

 

  1. Cymryd rhan yng nghyfarfodydd gwaith achos Canolfan Gyfreithiol y Plant i nodi, cychwyn, cefnogi ac ymgymryd â chyfreithia strategol, gan gynnwys drwy gefnogi partneriaid allanol i gyfreithia ar faterion sy’n ymwneud â hawliau plant a phobl ifanc.
  2. Cymryd rhan yng nghyfarfodydd gwaith achos Clinig y Gyfraith Abertawe i nodi cyfleoedd i gydweithio ar achosion Clinig y Gyfraith er mwyn galluogi cyfreithia strategol, gan gynnwys drwy gefnogi partneriaid allanol Clinig y Gyfraith i gyfreithia ar faterion sy’n ymwneud â hawliau plant a phobl ifanc.
  3. Yn seiliedig ar waith achos cleientiaid a/neu waith gyda chwmnïau cyfreithiol partner a/neu waith gyda sefydliadau eraill sy’n gweithio ym maes hawliau plant, nodi’r angen am wasanaethau allgymorth cyfreithiol, eu cychwyn, eu cynllunio a’u darparu.
  4. Cynllunio a darparu Addysg Gyfreithiol Gyhoeddus ym maes hawliau plant a chodi ymwybyddiaeth o Ganolfan Gyfreithiol y Plant a hyrwyddo ei nodau.
  5. Cyfrannu a chynorthwyo wrth greu a diwygio adnoddau ar-lein ac argraffedig Canolfan Gyfreithiol y Plant i adlewyrchu newidiadau yn y gyfraith.
  6. Ymgymryd â hyfforddiant, goruchwyliaeth a datblygiad fel y bo’n berthnasol i waith y swydd, gan gynnwys cysgodi partneriaid Canolfan Gyfreithiol y Plant.
  7. Cyfrannu at weithrediad cyffredinol, hyrwyddo a datblygiad strategol Canolfan Gyfreithiol y Plant, yn unol â nodau ac amcanion y sefydliad.
  8. Cymryd rhan mewn rhwydweithiau, seminarau, gweminarau a fforymau eraill i hyrwyddo gwaith Canolfan Gyfreithiol y Plant, gan gynnwys eirioli dros bolisïau ar ran plant a phobl ifanc.
  9. Cynorthwyo staff a gwirfoddolwyr Canolfan Gyfreithiol y Plant yn ôl yr angen, yn enwedig mewn materion sy’n ymwneud â cheisiadau unigol am gyngor a gwybodaeth am y gyfraith mewn perthynas â phlant a phobl ifanc.
  10. Cychwyn, paratoi a chyflawni prosiect sy’n canolbwyntio ar ddatblygu agwedd ar hawliau dynol plant a phobl ifanc sy’n berthnasol i waith Canolfan Gyfreithiol y Plant a mynediad at gyfiawnder yng Nghymru, i gynnwys adroddiad prosiect ac argymhellion gweithredu.

 

Yn ogystal, bydd y Cymrawd yn sicrhau eu fod yn:

 

19.  Cyfrannu’n llawn at bolisïau Galluogi Perfformiad ac Iaith Gymraeg y Brifysgol

20.  Hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth mewn arferion gwaith a chynnal perthnasoedd gweithio cadarnhaol.

21.  Arwain wrth wella perfformiad iechyd a diogelwch yn barhaus drwy ddealltwriaeth dda o’r proffil risg a thrwy ddatblygu diwylliant cadarnhaol o ran iechyd a diogelwch

22.  Unrhyw ddyletswyddau eraill yn unol â chyfarwyddyd Pennaeth y Coleg/yr Adran neu ei gynrychiolydd a enwebwyd, y gellir eu disgwyl o fewn diffiniad y radd.

23.   Sicrhau bod rheoli risg yn rhan annatod o’ch gweithgareddau beunyddiol i sicrhau bod arferion gwaith yn cydymffurfio â Pholisi Rheoli Risg y Brifysgol.

Gwerthoedd Gwasanaethau ProffesiynolMae’r holl feysydd Gwasanaethau Proffesiynol ym Mhrifysgol Abertawe yn gweithredu yn ôl cyfres ddiffiniedig o Werthoedd Craidd – Gwerthoedd Gwasanaethau Proffesiynol – a disgwylir i’r holl aelodau staff ddangos ymrwymiad i’r gwerthoedd hyn o’r adeg gwneud cais am swydd i gyflawni eu rolau o ddydd i ddydd. Mae ymrwymiad i’n gwerthoedd ym Mhrifysgol Abertawe yn ein cefnogi wrth hyrwyddo cydraddoldeb ac wrth werthfawrogi amrywiaeth er mwyn defnyddio’r holl ddoniau sydd gennym.

Rydym yn Broffesiynol
Rydym yn ymfalchïo mewn defnyddio ein gwybodaeth, ein sgiliau, ein creadigrwydd, ein gonestrwydd a’n doethineb i ddarparu gwasanaethau arloesol, effeithiol ac effeithlon ynghyd ag atebion o safon ardderchog.


Rydym yn Cydweithio        

Rydym yn ymfalchïo mewn amgylchedd gweithio rhagweithiol a chydweithredol o gydraddoldeb, ymddiriedaeth, parch, cydweithio a her, i ddarparu gwasanaethau sy’n ceisio rhagori ar anghenion a disgwyliadau cwsmeriaid.

Rydym yn Ofalgar
Rydym yn derbyn cyfrifoldeb am wrando ar ein myfyrwyr, ein cydweithwyr, ein partneriaid allanol a’r cyhoedd, eu deall ac ymateb yn hyblyg iddynt, fel bod pob cysylltiad rhyngddynt a ni yn brofiad personol a chadarnhaol.

 

Mae ymrwymiad i’n gwerthoedd ym Mhrifysgol Abertawe yn ein cefnogi wrth hyrwyddo cydraddoldeb ac wrth werthfawrogi amrywiaeth er mwyn defnyddio’r holl ddoniau sydd gennym.

 

Manyleb Person

 

Meini Prawf Hanfodol:

Gwerthoedd:

·       Tystiolaeth o ymfalchïo mewn darparu atebion a gwasanaethau proffesiynol

·       Y gallu i gydweithio mewn amgylchedd o gydraddoldeb, ymddiriedaeth a pharch i ddarparu gwasanaethau sy’n ceisio rhagori ar anghenion a disgwyliadau cwsmeriaid.

·       Tystiolaeth o ymagwedd ofalgar at eich holl gwsmeriaid, gan sicrhau profiad personol a chadarnhaol.

·       Ymrwymiad i hawliau plant fel y’u hamlinellir yng Nghonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn.

 

Cymwysterau

·       Wedi cwblhau cwrs Ymarfer Cyfreithiol yn llwyddiannus.

 

Profiad

·       Profiad o ddefnyddio Microsoft Office, e-bost a’r rhyngrwyd a rhaglenni ymchwil gyfreithiol

Gwybodaeth a Sgiliau

·       Gwybodaeth am o leiaf un,  o’r meysydd canlynol, dau’n ddelfrydol: hawliau plant; hawliau dynol; cyfraith cydraddoldeb; cyfraith plant a theuluoedd; cyfraith addysg; anghenion addysgol arbennig; anabledd; cyfraith gyhoeddus; llesiant cymdeithasol; cyfraith iechyd meddwl; gofal cymunedol; plant mewn angen; cyfiawnder ieuenctid; mynediad at gyfiawnder. (Gall tystiolaeth gynnwys astudiaethau israddedig).

·       Gwybodaeth am Ddeddf Hawliau Dynol 1998, y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol a Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn.

·       Gwybodaeth ymarferol am systemau Microsoft Office, gan gynnwys Outlook a Word.

·       Y gallu i weithio’n fanwl gywir a chan roi sylw i fanylion, yn enwedig fframweithiau rheoleiddo a fframweithiau cyd-destunol eraill priodol.

·       Y gallu i weithio’n annibynnol i fodloni dyddiadau cau.

·       Y gallu i weithio ar eich menter eich hun a bod yn arloesol i ddiwallu anghenion.

·       Y gallu i gynllunio a chyflawni amcanion gwaith.

·       Sgiliau trefnu a rheoli amser personol rhagorol a’r gallu i flaenoriaethu tasgau.

·       Sgiliau cyfathrebu llafar ac ysgrifenedig effeithiol.

·       Sgiliau rhyngbersonol rhagorol i ymdrin â chyswllt dros y ffôn, drwy e-bost ac wyneb yn wyneb.

·       Y gallu weithio’n annibynnol ac fel rhan o dîm.

 

Meini Prawf Dymunol

·       Gradd 2:1 neu uwch yn y Gyfraith

·       Profiad o weithio gyda phlant a phobl ifanc (gan gynnwys gwaith gwirfoddol).

·       Profiad o ddarparu cyngor cyfreithiol (gan gynnwys yn wirfoddol).

·       Profiad o waith eirioli neu gynrychioli (gan gynnwys yn wirfoddol).

·       Profiad o greu deunyddiau gwybodaeth a/neu adnoddau hyfforddi.

·       Profiad o esbonio materion cyfreithiol cymhleth a rhinweddau achos yn glir, gan ystyried oedran a gallu datblygiadol cleient (gan gynnwys yn wirfoddol).

·       Profiad o ymateb i ymholiadau cyfreithiol (gan gynnwys yn wirfoddol).

·       Y gallu i gyfathrebu yn Gymraeg.

  • Y gallu i gyfathrebu mewn ieithoedd eraill, gan gynnwys Iaith Arwyddion Prydain
Gwybodaeth YchwanegolYmholiadau Anffurfiol: Hannah Bussicott, Rheolwr Canolfan y Gyfraith

H.Bussicott@abertawe.ac.uk

 

Dyddiad Llunio’r Rhestr Fer:

Dyddiad y Cyfweliadau:

 

Gall y gwaith hwn gynnwys cyswllt uniongyrchol â phlant, felly bydd rhaid darparu tystysgrif foddhaol gan y DBS cyn y gellir cadarnhau dyddiad dechrau.