Canllawiau i blant sy’n ceisio lloches, sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol.

Os ydych chi o dan 18 oed ac wedi dod i Gymru heb eich teulu, byddwch yn cael gofal gan yr awdurdod lleol, neu’r cyngor fel mae’n cael ei alw weithiau.

Fy hawliau pan fyddaf yn cael gofal

Mae gan bob plentyn yng Nghymru hawliau o dan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn. Mae’r hawliau hyn yn gymwys i chi os ydych ‘yn cael gofal’ gan awdurdod lleol (y sefydliad sy’n gofalu am yr ardal o Gymru lle’r ydych yn byw).

► Dylai penderfyniadau sy’n cael eu gwneud ar eich rhan gan oedolion fod er eich ‘lles gorau’ bob amser

► Dylai eich barn cael ei chlywed a’i hystyried pan fydd penderfyniadau’n cael eu gwneud

► Dylai eich iaith, eich diwylliant a’ch crefydd gael eu parchu

► Dylech gael eich cadw’n ddiogel rhag niwed

Mae penderfyniad sydd ‘er eich lles gorau’ yn benderfyniad a wneir gan oedolion sy’n ystyried eich holl amgylchiadau perthnasol, gan gynnwys eich barn chi. Efallai nad dyna fydd y penderfyniad y byddwch yn ei ddymuno bob amser.

Derbyn gofal’ – beth mae hynny’n ei olygu?

Rydych yn ‘derbyn gofal’ os ydych chi o dan 18 oed a bod yr awdurdod lleol yn trefnu lle i chi fyw a chael gofal.

Pan fyddwch yn ‘derbyn gofal’, bydd yr awdurdod lleol yn trefnu eich bod yn cael gweithiwr cymdeithasol. Mae gweithwyr cymdeithasol yn cael eu cyflogi gan yr awdurdod lleol ac maent yno i’ch cefnogi tra byddwch yn derbyn gofal, ac i wneud yn siŵr eich bod yn ddiogel a bod eich llesiant yn cael sylw. Fydd eich gweithiwr cymdeithasol ddim yn gallu penderfynu a gewch chi aros yn y DU, ond bydd yn gallu’ch helpu gyda phethau fel cael triniaeth feddygol, trefnu addysg neu hyfforddiant, neu ddod o hyd i gymorth cymunedol i chi tra byddwch yn byw yng Nghymru.

Rhaid i’r awdurdod lleol:

► Wneud yn siŵr eich bod yn cael bwyd i’w fwyta a dillad i’w gwisgo

► Canfod beth arall sydd ei angen arnoch ar gyfer eich iechyd, eich addysg a’ch gofal

Os ydych o dan 18, mae rhai penderfyniadau y mae’n rhaid i bwy bynnag sydd â chyfrifoldeb rhiant amdanoch eu gwneud. Ond fe ddylech fod yn rhan o unrhyw benderfyniadau sy’n cael eu gwneud amdanoch.

Byddwch yn derbyn gofal nes byddwch yn 18 oed. Os byddwch yn cael aros yn y DU a’ch bod wedi ‘derbyn gofal’ am 13 wythnos neu fwy, gallwch barhau i gael cymorth ar ôl i chi gael eich pen blwydd yn 18 oed.

Eich lle i fyw

Gallwch fyw mewn amgylchedd ‘teuluol’ gyda gofalwr maeth, neu mewn cartref plant gyda phobl ifanc eraill. Os ydych chi’n 16 neu 17 oed, efallai y cewch rywle i fyw sy’n fwy annibynnol.

► Ble bynnag y byddwch yn byw, rhaid iddo fod yn ddiogel i chi

► Bydd disgwyl i chi barchu a dilyn y rheolau ym mhle bynnag y byddwch yn byw i gadw pawb yn ddiogel

► Byddwch yn cael help gan oedolion ym mha bynnag fath o lety fydd yn cael ei drefnu ar eich cyfer

Eich Cynllun Gofal a Chymorth

Bydd y gwasanaethau y bydd yr awdurdod lleol yn eu trefnu ar eich cyfer yn cael eu cynnwys mewn Cynllun Gofal a Chymorth. Bydd y ddogfen hon yn cynnwys:

► Y cymorth sydd ei angen arnoch i wneud cais am loches neu i ddelio â materion mewnfudo eraill

► Manylion am eich addysg a sut yr hoffech wneud cynnydd a datblygu

► Unrhyw broblemau iechyd lle bydd angen meddyg neu ddeintydd neu weithiwr iechyd arall

► Unrhyw anghenion sydd gennych chi o ran eich hunaniaeth a’ch diwylliant

► Y canlyniadau y dylid eu cyflawni

► Help a all fod ei angen arnoch i ddatblygu sgiliau byw’n annibynnol i’ch paratoi i fod yn oedolyn

► Pwy sy’n gyfrifol am wneud yn siŵr bod eichanghenion yn cael eu diwallu, a’ch helpu i gyflawni eich canlyniadau

Meddwl am fywyd fel oedolyn

Os ydych chi wedi bod yn cael gofal am 13 wythnos cyn eich bod yn 18 oed, gall yr awdurdod lleol barhau i’ch helpu wrth i chi ddod yn oedolyn, os mai dyna fydd eich dewis.

Bydd eich gweithiwr cymdeithasol yn gweithio gyda chi i baratoi Cynllun Llwybr, ac yn esbonio beth yw’r Cynllun a sut y bydd yn eich helpu.

Os na fydd gennych chi hawl i gael cymorth ar ôl i chi gyrraedd 18 oed, neu os nad ydych chi ei eisiau, gallwch barhau i gael peth cymorth ond bydd hyn yn dibynnu ar eich hawl i aros yn y DU.

Sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed

Pan fyddwch yn dechrau derbyn gofal, dylech gael gwybod am eich hawl i ‘eiriolaeth’. Mae hwn yn wasanaeth annibynnol a all helpu i egluro eich problemau gyda help gweithiwr proffesiynol sydd yno i gynrychioli eich safbwyntiau chi.

► Pan fyddwch yn derbyn gofal, dylech gael mynediad at wasanaethau eiriolaeth ar unrhyw adeg

► Gall eiriolaeth helpu os oes gennych unrhyw broblem, a’ch helpu i’w datrys.

Os na fydd pethau’n mynd yn dda

Os nad ydych chi’n cytuno â’r ffordd rydych yn cael gofal neu os nad yw rhywbeth yn mynd yn dda, gallwch gwyno. Gall eiriolaeth eich helpu â’ch cwyn.

► Mae gan bob awdurdod lleol broses gwyno. Holwch eich gweithiwr cymdeithasol neu ofalwr maeth am hyn.

► Os na fydd eich awdurdod lleol yn delio’n briodol â’ch problem, efallai y gallwch gwyno i’r Ombwdsmon Llywodraeth Leol. Holwch eich gweithiwr cymdeithasol am hyn.

 

Mae’r daflen ffeithiau hon ar gael i’w lawrlwytho fel dogfen pdf yn Gymraeg ac yn Saesneg. Mae hefyd ar gael yn yr ieithoedd canlynol:

Albanieg: albanian-guide-to-being-looked-after_0

Amhareg: amharic-guide-to-being-looked-after_0

Arabeg: arabic-guide-to-being-looked-after

Ffarsi: farsi-guide-to-being-looked-after

Gwrmanjeg: kurmanji-guide-to-being-looked-after

Oromo: oromo-guide-to-being-looked-after

Bwnjabeg: punjabi-guide-to-being-looked-after

Soraneg: sorani-guide-to-being-looked-after

Tigrinya: tigrinya-guide-to-being-looked-after

Last updated on: May 28, 2019