Arsyllfa ar Hawliau Dynol Plant a Chanolfan Gyfreithiol y Plant Cymru: Ymateb i Ymchwiliad Covid-19 y DU

Mae pandemig Covid-19 wedi cael effaith enfawr, yng Nghymru, yn y DU, yn Ewrop ac yn fyd-eang. Er nad yw cyfradd y plant a fu farw o ganlyniad i’r feirws mor uchel a chyfradd yr oedolion, mae plant wedi gorfod dioddef llawer o gyfyngiadau ar eu hawliau dynol gan fod llywodraethau ledled y DU ac Ewrop wedi cyflwyno cyfreithiau a pholisïau mewn ymateb i’r pandemig.

Cynhaliwyd ymchwil gan yr Arsyllfa i effaith Mesurau Brys Covid-19 ar hawliau plant ar gyfer Rhwydwaith Ewropeaidd Ombwdsmyn Plant (ENOC) gan nodi’r canfyddiadau mewn adroddiad o‘r enw: ‘Mapping the Impact of the Emergency Measures introduced in Response to the Covid-19 Pandemic on Children’s Rights in ENOC Member States’.

Mae ein hadroddiad yn trafod y dystiolaeth a ddarparwyd gan aelodau ENOC (gan gynnwys barn pedwar Comisiynydd Plant y DU) ac mae’n tynnu sylw at sut mae Mesurau Brys Covid-19 wedi cael effaith negyddol ar hawliau plant ledled y DU ac Ewrop. Atgyfnerthwyd hyn gan  ymchwil a gynhaliwyd gan blant a phobl ifanc ar gyfer ENOC.

Yn gyffredinol, mae ein hymchwil yn dangos bod Mesurau Brys wedi cael eu cyflwyno heb roi ystyriaeth briodol i blant na hawliau plant.Yn bennaf, bu effaith negyddol ar hawliau plant o ganlyniad i ymateb y Llywodraethau i’r pandemig, ac nid oeddent wedi ystyried hawliau plant wrth gyflwyno Mesurau Brys. Nid oedd hawliau plant yn cael eu defnyddio fel ffon fesur ar gyfer gwneud penderfyniadau: ac roedd plant a/neu gynghorwyr arbenigol i blant yn cael eu heithrio i raddau helaeth o benderfyniadau ynghylch Mesurau Brys.

Fodd bynnag, yng Nghymru (ac mewn rhai awdurdodaethau eraill), wrth i’r pandemig fynd rhagddo, bu Comisiynydd Plant Cymru, Llywodraeth Cymru, Senedd Ieuenctid Cymru a Phlant yng Nghymru (Cyrff Anllywodraethol) yn ymgynghori â phlant ledled Cymru i gael eu barn am effaith y pandemig, yn ogystal â chynnal Asesiadau o’r Effaith ar Hawliau Plant. Cadarnhaodd ymatebwyr i’n hymchwilydd ENOC fod y camau gweithredu hyn wedi cael effaith gadarnhaol ar rai elfennau o bolisi ar gyfer plant yn ystod y pandemig. (I gael rhagor o wybodaeth am yr ymateb yng Nghymru, cliciwch yma:)

Fodd bynnag, nid oedd Llywodraeth y DU wedi cynnal Asesiadau o’r Effaith ar Hawliau Plant ar y Mesurau Brys, sy’n broses a argymhellwyd gan Bwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn i sicrhau bod cyfreithiau a pholisïau yn parchu ac yn gwarchod hawliau plant. Ni wnaeth Llywodraeth y DU ymgynghori â phlant ychwaith.

O ystyried yr effaith negyddol ar hawliau plant, y ffaith nad oedd plant yn cael eu hystyried yn llawn wrth ddatblygu Mesurau Brys ac na ymgynghorwyd yn briodol â phlant a’u cynrychiolwyr…

Rydym yn argymell bod Ymchwiliad Covid y DU yn ymestyn ei gylch gwaith i sicrhau ei fod yn:

  • Gweithredu dull sy’n seiliedig ar hawliau plant. Bod yr ymchwiliad yn ystyried yn llawn effaith Mesurau Brys Covid-19 y DU ar yr ystod lawn o hawliau plant ac os ydi Llywodraeth y DU, gweinyddiaethau datganoledig ac awdurdodau cyhoeddus wedi parchu, gwarchod a chyflawni eu rhwymedigaethau rhyngwladol o ran hawliau dynol. Yn benodol, ei fod yn ystyried a oedd y mesurau a gyflwynwyd yn seiliedig ar dystiolaeth gadarn, yn angenrheidiol, yn gymesur, yn anwahaniaethol ac yn cael eu gweithredu am y cyfnod priodol?
  • Cyflwyno gwybodaeth hygyrch sy’n addas i blant am yr Ymchwiliad i blant ledled y DU.
  • Ymgynghori â phlant ac yn gwrando ar eu safbwyntiau (a phlant o grwpiau amrywiol) ledled y DU ac yn rhoi sylw dyledus iddynt.
  • Cael tystiolaeth gan y rhai sy’n eirioli dros fuddiannau a hawliau plant ledled y DU ac yn eu cynrychioli, e.e. Comisiynwyr Plant y DU a Chyrff Anllywodraethol sy’n cynrychioli plant, gweithwyr proffesiynol ar draws pob sector sy’n gweithio gyda phlant.
  • Rhoi gwybodaeth ac argymhellion ar gyfer pandemigau ac argyfyngau cyhoeddus fel na wahaniaethir yn erbyn plant, ac nad oes effaith andwyol ar eu hawliau yn y dyfodol.
  • Defnyddio’r holl wybodaeth hon i wneud argymhellion clir sy’n seiliedig ar hawliau plant i Lywodraeth y DU, gweinyddiaethau datganoledig a phob awdurdod cyhoeddus, fel eu bod yn gwneud yn well wrth ymateb i argyfyngau cyhoeddus yn y dyfodol ac fel rhan o’r adferiad presennol gan ystyried datganiad sefyllfa’r Rhwydwaith Ewropeaidd Ombwdsmyn Plant ar ‘Dull Gweithredu Seiliedig ar Hawliau Plant mewn Argyfyngau Cyhoeddus’. Gallwch ddarllen y ‘Datganiad Sefyllfa ar Ddull Gweithredu Seiliedig ar Hawliau Plant mewn Argyfyngau Cyhoeddus 2021’ yma.

 

 

Awduron:

 

Dr Rhian Croke, Ymgynghorydd Annibynnol ar Hawliau Plant ac aelod cyswllt ag Arsyllfa ar Hawliau Dynol Plant

 

Simon Hoffman, arbenigwr ar hawliau dynol a Chyd-drefnydd yr Arsyllfa ar Hawliau Dynol Plant

Last updated on: May 27, 2022