Stopio, Arestio, Cyfweld, Cyhuddo – Canllaw i Bobl Ifanc o dan 18 oed

Stopio, Arestio, Cyfweld, Cyhuddo – Canllaw i Bobl Ifanc o dan 18 oed

Mae’r daflen ffeithiau hon yn egluro rhai o’r gwahanol bethau y mae gan yr heddlu’r pŵer i’w gwneud. Mae’n canolbwyntio ar bwerau’r heddlu i ‘stopio a chwilio’, a beth sy’n digwydd pan gewch eich arestio. Er y gall yr heddlu ddefnyddio’r pwerau hyn gydag unrhyw un, mae yna bethau ychwanegol y mae’n rhaid iddyn nhw eu gwneud os ydych chi o dan 18 oed.

Pa bwerau sydd gan yr heddlu yng Nghymru?

Mae gan yr heddlu yng Nghymru yr un pwerau ag sydd ganddyn nhw yng ngweddill y DU. Rhoddir y pwerau hyn iddynt gan wahanol ddeddfau. Mae’r pwerau sydd gan yr heddlu yn cynnwys pwerau i’ch

  • Stopio chi yn y stryd, a gofyn cwestiynau i chi am yr hyn rydych chi’n ei wneud.
  • Stopio chi a’ch chwilio
  • Arestio chi a’ch cyfweld mewn gorsaf heddlu.
  • Cyhuddo chi o drosedd

Mae’r heddlu wedi derbyn y pwerau hyn i’w helpu yn eu swyddi: i atal troseddau ac i ddal pobl sydd wedi torri’r gyfraith. Nid yw’r ffaith bod y pwerau hyn gan yr heddlu yn golygu y gallant wneud yr hyn y maent ei eisiau neu eich trin heb barchu eich hawliau.

Rhaid i’r heddlu fod yn rhesymol bob amser pan maen nhw’n gwneud rhywbeth y mae ganddyn nhw’r pŵer i’w wneud. Rhaid i’r heddlu bob amser sicrhau nad ydyn nhw’n gwneud rhywbeth i chi sy’n deillio o ragfarn neu sy’n arwain at wahaniaethu.

Mae’r gyfraith hefyd yn amddiffyn eich rhyddid sifil a’ch hawliau dynol ac, os ydych chi o dan 18 oed, mae’r gyfraith yng Nghymru yn amddiffyn eich hawliau fel plentyn. Dylai’r heddlu bob amser ystyried eich hawliau sifil a’ch hawliau pan fyddant yn defnyddio eu pwerau.

Efallai y sylwch nad yw’r heddlu wedi gweithredu yn y ffordd y dylent wrth arfer eu pwerau, ond dim ond ar ôl iddo ddigwydd y byddwch yn gallu gwneud rhywbeth yn ei gylch gyda chyngor cyfreithiol gan gyfreithiwr.

Cael eich stopio

Gall yr heddlu eich stopio i ofyn i chi beth ydych chi’n ei wneud mewn rhai amgylchiadau, neu i’ch archwilio am rai pethau (fel eitemau gwaharddedig – sy’n cynnwys cyllyll ac arfau eraill – neu gyffuriau anghyfreithlon).

Rhaid bod gan yr heddlu reswm dros eich stopio chi. Nid oes rhaid i’r rheswm ymwneud yn benodol â chi. Efallai eu bod wedi cael cwyn neu wedi cael rhywfaint o wybodaeth am sut mae rhai pobl yn ymddwyn yn yr ardal lle rydych chi, neu am rywbeth rydych chi wedi’i wneud.

Os ydych yn edrych fel y gallech fod yn gysylltiedig â digwyddiad, yn seiliedig ar y wybodaeth a roddwyd, gallai hynny fod yn rheswm i’r heddlu eich stopio.

Beth fydd yn digwydd os byddaf yn cael fy stopio gan yr heddlu? A beth yw fy hawliau?

Mae’n bwysig gwybod beth yw eich hawliau rhag ofn y bydd yr heddlu’n eich stopio.

‘Stopio a Darparu Manylion’

‘Stopio a darparu manylion’ yw pan fydd yr heddlu yn eich stopio yn y stryd ac yn gofyn i chi am eich enw a beth ydych yn ei wneud yn yr ardal. Does dim rhaid i’r heddlu feddwl eich bod chi’n mynd i wneud unrhyw beth i dorri’r gyfraith, ond mae’n rhaid iddyn nhw weithredu’n rhesymol bob amser.

Rhaid i’r heddlu ddangos eu cerdyn gwarant i chi, os nad ydyn nhw mewn iwnifform.

Gyda ‘Stopio a darparu manylion’, does dim rhaid i chi ateb cwestiynau’r heddlu, oni bai bod yr heddlu’n meddwl eich bod yn rhan o ryw ymddygiad gwrthgymdeithasol, neu eich bod wedi bod yn rhan o ryw ymddygiad gwrthgymdeithasol. Os yw’r heddlu’n meddwl hyn, ac nad ydych chi’n ateb eu cwestiynau, efallai y cewch eich arestio.

Os dewch chi eich stopio, er efallai na fyddwch chi’n teimlo fel gwneud hyn, mae’n syniad da:

• I fod yn gwrtais,

• I ateb cwestiynau’r heddlu gyda chymaint o wybodaeth â phosib.

Os yw’r heddlu’n meddwl eich bod chi’n dweud celwydd wrthyn nhw, gallant eich arestio am eu rhwystro nhw rhag gwneud eu gwaith – hyd yn oed os nad ydych chi wedi gwneud yr hyn y gwnaethon nhw eich stopio i’ch holi amdano.

Os bydd yr heddweision yn ceisio gwneud i chi ‘aros’ gyda nhw a’i bod yn afresymol iddynt wneud hyn, gallai fod yn weithred o gamgarcharu.

‘Stopio a Chwilio’

Gall yr heddlu neu Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu (PCSO) ‘Stopio a Chwilio’ os oes ganddyn nhw reswm i feddwl bod gennych chi rywbeth yn eich meddiant na ddylai fod. Gall hyn gynnwys cyffuriau, cyllyll neu eitemau peryglus eraill gan gynnwys tân gwyllt a nwyddau wedi’u dwyn.

Cyn i’r heddlu eich chwilio, rhaid iddynt:

– Dangos eu cerdyn adnabod (cerdyn gwarant) i chi os nad ydyn nhw mewn iwnifform,

– Dweud enw’r heddwas sy’n eich chwilio ac o ba orsaf heddlu y mae ef neu hi yn dod,

– Esbonio am beth y maent yn chwilio,

– Esbonio pam y maent yn meddwl y byddant yn darganfod yr eitemau hynny,

– Dweud wrthych y gallwch gael cofnod o’r chwiliad1

Mae 2 fath o chwiliad – Amhersonol a Phersonol. Chwiliad Amhersonol

‘Chwiliad Amhersonol’ yw pan fydd yr heddlu’n gofyn i chi dynnu eich dillad allanol – cot, siaced neu fenig. Gallant ofyn i chi dynnu’r dillad hyn yn gyhoeddus yn ystod sesiwn ‘Stopio a Chwilio’.

‘Chwiliad Personol’  yw pan fydd yr heddlu eisiau i chi dynnu mwy na’ch dillad allanol, gan gynnwys eich esgidiau. Ni allant ofyn i chi dynnu mwy na’ch cot, siaced neu fenig yn gyhoeddus. Os yw’r heddlu am dynnu’ch esgidiau neu ddillad eraill, er mwyn cynnal chwiliad mwy trylwyr, rhaid iddynt wneud hyn yn breifat. Fel arfer, cynhelir chwiliad personol yn yr orsaf heddlu leol. Dylai 2 heddwas fod gyda chi pan fyddwch chi’n cael eich chwilio fel hyn. Rhaid i’r ddau ohonyn nhw fod o’r un rhyw â chi.

Dim ond cyhyd ag y mae’n ei gymryd i gynnal y chwiliad y gall yr heddlu eich cadw.

1 Deddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984 adran 1

Cymryd yr hyn maen nhw’n ei ddarganfod

Os bydd yr heddwas sy’n eich chwilio yn dod o hyd i eitemau gwaharddedig (cyllell, gwn, tân gwyllt ac ati) neu nwyddau wedi’u dwyn, gallant eu hatafaelu (mynd â nhw a chadw gafael arnyn nhw). Os bydd yr heddlu’n dod o hyd i’r mathau hyn o bethau yn ystod y chwiliad mae’n debyg y byddant yn eich arestio ac yn eich cyhuddo o drosedd.

Cael eich arestio

Os cewch eich ‘arestio’, ac nad ydych eisoes mewn gorsaf heddlu, yna bydd yn rhaid i chi fynd gyda’r heddlu i orsaf heddlu. Ni fyddwch yn rhydd i adael.

Rhaid bod gan yr heddlu reswm i feddwl eich bod wedi gwneud rhywbeth i dorri’r gyfraith cyn y gallant eich arestio.

Dim ond os ydych chi’n o leiaf 10 oed y gall yr heddlu eich arestio. Os ydych chi’n iau na 10 oed, ni allwch gael eich arestio.

Gall yr heddlu eich arestio yn unrhyw le – gan gynnwys yn yr ysgol. Os yw’r heddlu’n mynd i’ch arestio yn yr ysgol, rhaid iddyn nhw ddweud wrth y pennaeth yn gyntaf.

Gallwch gael eich arestio am fwy nag un peth. Gall yr heddlu hefyd eich arestio yng ngorsaf yr heddlu am reswm arall, gwahanol i’r rheswm yr ydych yno eisoes.

Os yw’r heddlu’n eich arestio, rhaid iddynt ddweud wrthych:

• mai nhw yw’r heddlu,

• eich bod yn cael eich arestio,

• beth maen nhw’n meddwl eich bod chi wedi’i wneud

• pam maen nhw angen eich arestio,

• bod yn rhaid i chi fynd gyda nhw.

Os nad ydych chi eisoes yng ngorsaf yr heddlu, fe’ch tywysir i orsaf heddlu fel y gall yr heddlu eich cyfweld (gofyn cwestiynau i chi) a gallant benderfynu a ddylid eich cyhuddo o drosedd.

Ar ôl cyrhaeddwch yr orsaf heddlu

Rhaid i heddwas (swyddog y ddalfa) ddweud wrthych beth yw eich hawliau, sef:

• cyngor cyfreithiol am ddim, ac i siarad yn breifat â’ch cyfreithiwr,

• i ddweud wrth rywun ble’r ydych,

• i gael help meddygol os ydych yn teimlo’n sâl,

• i weld y rheolau mae’n rhaid i’r heddlu eu dilyn tra byddwch chi yn yr orsaf heddlu,

• i weld rhybudd ysgrifenedig am eich hawliau eraill, fel mynd i’r toiled, i gael seibiannau,

• I gael cyfieithydd gyda chi, os oes angen un arnoch chi.

Os ydych chi o dan 18 oed, rhaid i’r heddlu geisio cysylltu â’r person sy’n gyfrifol am ofalu amdanoch chi – fel arfer eich rhiant, gofalwr neu warcheidwad. Rhaid i’r heddlu hefyd sicrhau bod ‘oedolyn priodol’ yng ngorsaf yr heddlu i chi.

‘Oedolion priodol

Oedolyn priodol yw rhywun sydd dros 18 oed. Mae ef neu hi yng ngorsaf yr heddlu i sicrhau bod gofal priodol i’ch lles cyffredinol. Gallant helpu i sicrhau bod gennych ddigon o fwyd a diod, y gallwch fynd i’r toiled, a gallant gamu i mewn os ydych chi’n cynhyrfu neu wedi blino.

Gall oedolyn priodol fod yn un o’ch rhieni neu’n ofalwr. Gallai hefyd fod yn weithiwr cymdeithasol, yn oedolyn arall, fel ffrind teulu, neu’n oedolyn priodol gwirfoddol.

Nid oes rhaid i chi gael eich rhieni yno os nad ydych chi eisiau.

‘Cyfreithwyr’

Mae cyfreithwyr yn bobl sydd wedi’u hyfforddi i ddeall y gyfraith ac sy’n gwybod sut mae’n gweithio. Pan fydd yr heddlu yn eich arestio, rhaid i swyddog y ddalfa ddweud wrthych fod gennych yr hawl i gyngor cyfreithiol am ddim.

 

Mae hyn yn golygu y gallwch gael cyfreithiwr gyda chi pan fydd yr heddlu’n gofyn cwestiynau i chi. Os nad ydych yn adnabod cyfreithiwr, gall yr heddlu drefnu i gyfreithiwr (y ‘cyfreithiwr ar ddyletswydd’) ddod i orsaf yr heddlu i fod gyda chi.

Nid ‘cyfreithiwr yr heddlu’ yw’r cyfreithiwr ar ddyletswydd. Mae ef neu hi’n annibynnol ar yr heddlu.

Ni fydd yn rhaid i chi dalu am y cyfreithiwr ar ddyletswydd.

Bydd y cyfreithiwr ar ddyletswydd yn cysylltu â’r orsaf heddlu i ddarganfod pryd y bydd eich cyfweliad yn cael ei gynnal. Fel rheol, bydd ef neu hi’n ceisio siarad â chi cyn gynted â phosibl ar ôl darganfod eich bod wedi cael eich arestio, hyd yn oed os na fyddwch chi’n cael eich cyfweld ar unwaith.

Cofiwch

– Gallwch wrthod cael eich cyfweld oni bai bod gennych gyfreithiwr.

– Eich cyfreithiwr chi yw’r cyfreithiwr ar ddyletswydd

– nid yw ef neu hi yn gyfreithiwr ‘heddlu’.

– Mae bob amser yn syniad da gofyn am gyfreithiwr os ydych chi wedi cael eich arestio.

– Ni fydd yn rhaid i chi dalu am y cyfreithiwr.

– Gallwch siarad â’ch cyfreithiwr ar eich pen eich hun

– i ffwrdd o’r heddlu ac i ffwrdd o’ch oedolyn priodol

– cyn i chi gael eich cyfweld gan yr heddlu.

Olion bysedd, ffotograffau a DNA

Os cewch eich arestio a’ch cludo i orsaf heddlu, gall yr heddlu gymryd eich olion bysedd hyd yn oed os nad ydych am eu rhoi, a gallant ddefnyddio grym rhesymol i’w cael.

Os ydych chi eisoes wedi rhoi eich olion bysedd i’r heddlu yn ystod yr ymchwiliad i’r drosedd cyn i chi gael eich arestio, does dim rhaid i chi eu rhoi eto oni bai nad oedd y set gyntaf o brintiau yn ddigon da.

Gall yr heddlu dynnu llun ohonoch heb eich caniatâd, a chymryd sampl DNA, er enghraifft o swab ceg neu’ch gwallt, heb eich caniatâd.

Ni all yr heddlu gymryd sampl o’ch gwaed na’ch wrin (yr hyn a elwir yn sampl ‘personol’) heb eich caniatâd a chydsyniad eich rhieni. Os ydych chi o dan 14 oed, gall eich rhieni gydsynio i hyn hyd yn oed os nad ydych chi’n cytuno iddo.

Os bydd yr heddlu’n gofyn i chi am sampl personol, a’ch bod chi’n gwrthod, gellir dwyn hyn yn eich erbyn yn y llys (os yw’ch achos yn mynd i’r llys). Gellir gwneud yr hyn a elwir yn ‘gasgliad anffafriol’ neu ‘sylw anffafriol’ i’r llys. Bydd yr erlyniad yn dweud eich bod wedi gwrthod rhoi’r sampl oherwydd y byddai’n cefnogi’r achos yn eich erbyn.

Eiddo personol

Pan gyrhaeddwch yr orsaf heddlu bydd y swyddog dalfa yn gofyn am weld pa eiddo personol sydd gennych gyda chi. Pethau fel eich waled a’ch allweddi ac unrhyw beth arall sydd yn eich meddiant. Mae swyddog y ddalfa yn gyfrifol am sicrhau bod eich eiddo personol yn cael ei gadw’n ddiogel, a’ch bod chi’n ddiogel hefyd. Efallai y bydd swyddog y ddalfa yn cadw’ch eiddo personol tra’ch bod chi yng ngorsaf yr heddlu. Bydd ef neu hi yn cadw unrhyw beth y gallech eu defnyddio i niweidio eich hun neu eraill, neu y gallech eu defnyddio i ddifrodi eiddo neu i geisio dianc.

Cyfweliad

Ar ôl i’r heddlu eich arestio, byddant am ofyn cwestiynau i chi am yr hyn sydd wedi digwydd. Os ydych wedi gofyn am gael cyngor cyfreithiol, fel rheol ni all yr heddlu ddechrau gofyn cwestiynau i chi nes bod eich cyfreithiwr wedi cyrraedd.

Gallwch wrthod cael eich cyfweld oni bai bod eich cyfreithiwr yno.

Rhaid bod oedolyn priodol yno hefyd, i’ch cefnogi chi yn ystod y cyfweliad.

Bydd yr heddlu’n recordio eu cyfweliad â chi.

Cyn i’r heddlu ofyn cwestiynau i chi, byddant yn egluro:

• nad oes rhaid i chi ateb y cwestiynau maen nhw’n eu gofyn, na dweud unrhyw beth yn y cyfweliad.

• ond os na fyddwch chi’n ateb y cwestiynau neu’n dweud unrhyw beth, ac yna rydych chi’n penderfynu dweud rhywbeth am yr hyn a ddigwyddodd yn nes ymlaen, er enghraifft pan fyddwch chi yn y llys, efallai y bydd rhywun yn gofyn pam na wnaethoch chi ddweud unrhyw beth amdano wrth yr heddlu.

• gellir defnyddio unrhyw beth a ddywedwch fel tystiolaeth.

Gelwir hyn yn ‘rhybudd yr heddlu’. Y geiriau y mae’r heddlu’n eu defnyddio yw:

Nid oes rhaid i chi ddweud unrhyw beth, ond gallai niweidio’ch amddiffyniad os na soniwch wrth gael eich holi am rywbeth y gallwch ddibynnu arno yn y llys yn ddiweddarach. Gellir rhoi unrhyw beth a ddywedwch mewn tystiolaeth. ”

 

Pa mor hir y gall yr heddlu fy nghadw yng ngorsaf yr heddlu?

Oni bai bod yr heddlu’n meddwl eich bod wedi gwneud rhywbeth difrifol iawn, neu eich bod wedi bod yn rhan o derfysgaeth, ni allwch gael eich cadw yng ngorsaf yr heddlu yn hwy na 24 awr.

Os cawsoch eich arestio am drosedd ddifrifol, fel llofruddiaeth, gellir eich cadw yng ngorsaf yr heddlu am hyd at 36 neu hyd yn oed 96 awr.

Os cewch eich arestio o dan y Ddeddf Terfysgaeth gallwch gael eich cadw yng ngorsaf yr heddlu am hyd at 14 diwrnod.

Cael bwyd a dŵr a mynd i’r toiled

Tra’ch bod chi yng ngorsaf yr heddlu, rhaid iddynt roi bwyd a rhywbeth i’w yfed i chi. Caniateir i chi hefyd fynd i’r toiled. Os na fydd yr heddlu’n gwneud hyn, dylech chi neu’ch oedolyn priodol fynnu eich bod chi’n cael eich trin yn iawn.

Cael seibiannau

Dylai’r heddlu sicrhau eich bod yn cael seibiannau adeg eich cyfweld. Gallwch chi neu’ch oedolyn priodol ofyn am seibiant os ydych chi’n blino neu’n cynhyrfu.

Cael ymwelwyr

Fel rheol ni chaniateir ymwelwyr tra’ch bod yn cael eich cadw yng ngorsaf yr heddlu ar ôl i chi gael eich arestio, ond gallwch gael oedolyn priodol gyda chi yng ngorsaf yr heddlu i sicrhau eich bod yn cael eich trin yn iawn.

Cael eich cadw dros nos

Os ydych chi o dan 18 oed, ni chewch eich cadw mewn gorsaf heddlu dros nos fel rheol, er bod y rheolau yn dweud y gellir eich cadw am hyd at o leiaf 24 awr. Ond bydd hyn yn dibynnu ar yr hyn y cawsoch eich arestio amdano a beth efallai y bydd angen i’r heddlu wneud yn eu hymchwiliadau. Os bydd yr heddlu yn eich arestio yn y nos, efallai y byddant yn rhoi ‘mechnïaeth’ i chi ac yn gofyn i chi ddod yn ôl i orsaf yr heddlu i gael eich cyfweld ar amser gwell.

Ar ôl i chi gael eich cyfweld

Cofiwch nad yw’r ffaith i chi gael eich arestio yn golygu y cewch eich cyhuddo o drosedd. Hyd yn oed os cewch eich cyhuddo, nid yw hyn yn golygu y cewch eich dyfarnu’n euog – bydd yn rhaid i’r llys fod yn fodlon â’r dystiolaeth eich bod yn euog cyn y gellir eich dyfarnu’n euog. Ar ôl i’r heddlu eich cyfweld, mae ganddyn nhw wahanol opsiynau ar gael.

1. Dim camau pellach

2. Mechnïaeth

3. Cael eich cyhuddo

4. Dewisiadau eraill heblaw am gyhuddo

Dim camau pellach

Os bydd yr heddlu’n penderfynu nad ydych chi wedi gwneud yr hyn y gwnaethon nhw eich arestio amdano, neu os nad oes tystiolaeth, gallant eich rhyddhau a chymryd ‘dim camau pellach’. Cewch eich rhyddhau, ac ni fydd dim byd arall yn digwydd. Ni fydd gennych chi gofnod troseddol.

Mechnïaeth

Os yw’r heddlu am gynnal mwy o ymchwiliadau cyn penderfynu beth i’w wneud, gallant roi mechnïaeth i chi, neu eich rhyddhau dan ymchwiliad.

Os rhoddir ‘mechnïaeth’ i chi gallwch adael gorsaf yr heddlu ond rhaid i chi gytuno i ddod yn ôl ar ddyddiad ac amser penodol.

Weithiau rhoddir ‘Mechnïaeth Amodol’ i chi lle bydd yn rhaid i chi gytuno i wneud neu i beidio â gwneud rhai pethau. Mae’n rhoi mwy o amser i’r heddlu ymchwilio ac mae’n golygu na chewch eich cadw yng ngorsaf yr heddlu yn ystod yr amser hwnnw.

Gallai’r math o amodau y gallai fod yn rhaid i chi gytuno iddynt ar gyfer mechnïaeth amodol gynnwys mynd yn ôl i orsaf yr heddlu unwaith yr wythnos, neu ddilyn cyrffyw yn cyfyngu pryd y gallwch adael eich tŷ a ble y gallwch fynd.

Nid oes rhaid i chi dalu arian i gael mechnïaeth.

Rhyddhau dan ymchwiliad: Os cewch eich’ rhyddhau dan ymchwiliad ‘, mae’n golygu bod yr heddlu yn dal yn ystyried beth i’w wneud – p’un ai i beidio â chymryd unrhyw gamau pellach neu eich cyhuddo, ond nid yw mor ffurfiol â ‘mechnïaeth ‘. Ni fydd yn rhaid i chi ddod yn ôl i orsaf yr heddlu ar ddyddiad neu amser penodol.Os bydd yr heddlu’n penderfynu eich cyhuddo, byddwch yn derbyn ‘gwŷs’ yn dweud wrthych pryd y bydd yn rhaid i chi fynd i’r llys.

Os bydd yr heddlu, ar ôl y cyfweliad ac unrhyw ymchwiliadau eraill, yn credu eich bod wedi gwneud yr hyn y gwnaethon nhw eich arestio amdano, gallant eich cyhuddo o’r drosedd.

Cael eich cyhuddo

Os yw’r heddlu’n credu bod ganddyn nhw ddigon o dystiolaeth i ddangos eich bod chi wedi gwneud yr hyn maen nhw’n ei feddwl wnaethoch chi, gallant eich ‘cyhuddo’ o’r drosedd.

Ar ôl i chi gael eich ‘cyhuddo’ o drosedd, byddwch yn aml yn cael ‘mechnïaeth’, felly gallwch fynd adref. Os na ellir rhoi mechnïaeth i chi am ryw reswm, bydd trefniadau’n cael eu gwneud i chi gael eich rhoi mewn llety awdurdod lleol.

Os cewch eich cyhuddo o drosedd, mae’n golygu byddwch ar ryw adeg yn y dyfodol yn gorfod mynd i’r llys er mwyn ystyried eich achos yn fwy manwl.

Dewisiadau eraill heblaw am gyhuddo

Hyd yn oed os yw’r heddlu’n credu eich bod wedi cyflawni trosedd, efallai na fyddwch bob amser yn cael eich ‘cyhuddo’. Mae yna opsiynau eraill ar gael i’r heddlu.

Rhybudd Ieuenctid
Mae hwn yn ‘rhybudd’ y gall yr heddlu roi i chi pan fyddant yn meddwl eich bod wedi cyflawni trosedd, ond nad ydynt am i chi fynd i’r llys. Mae’r heddlu yn aml yn rhoi Rhybuddion Ieuenctid i bobl os mai dyma’r tro cyntaf iddyn nhw fod mewn trafferth gyda’r heddlu, ac nad yw’n drosedd ddifrifol iawn. Fe’ch cyfeirir at y Tîm Troseddu Ieuenctid. Bydd y Rhybudd Ieuenctid ar eich cofnod troseddol.

Rhybudd Amodol Ieuenctid
Mae hyn fel rhybudd ieuenctid, ac eithrio bod amodau ynghlwm wrth y rhybudd. Efallai bod gennych chi gyrffyw, sy’n cyfyngu pryd y gallwch fod y tu allan i’ch cartref, a ble y gallwch chi fynd. Efallai y cewch Rybudd Amodol Ieuenctid os yw’r drosedd rydych wedi’i chyflawni ychydig yn fwy difrifol. Fel y Rhybudd Ieuenctid, cewch eich cyfeirio at y Tîm Troseddu Ieuenctid a bydd y Rhybudd Amodol Ieuenctid ar eich cofnod troseddol.

Brysbennu
Mae’r rhaglen hon yn golygu eich bod yn cael eich tynnu allan o’r system ffurfiol ac yn cael cyfle i ddweud sori wrth ddioddefwr y drosedd. Bydd yn rhaid i chi gynnal gweithgareddau i ‘wneud iawn’ i’r gymuned am yr hyn rydych chi wedi’i wneud. Byddwch yn cael eich monitro wrth i chi gymryd rhan yn hyn, ond os byddwch chi’n cwblhau’ch rhaglen yn llwyddiannus, ni fydd yn rhaid i chi gael eich cyhuddo, ac ni fydd yn ymddangos ar eich cofnod troseddol. Mewn sawl ardal yng Nghymru, yr enw ar hyn yw’r Biwro

Mynd i orsaf yr heddlu i ateb cwestiynau pan nad ydych chi wedi cael eich arestio

Efallai y bydd yr heddlu’n gofyn i chi fynd i orsaf yr heddlu i ateb cwestiynau am rywbeth sydd wedi digwydd. Efallai y byddan nhw’n gwneud hyn oherwydd eu bod nhw’n meddwl eich bod chi’n rhan o’r hyn sydd wedi digwydd, neu efallai eich bod chi’n gwybod am bobl eraill a oedd yn gysylltiedig. Dylai’r heddlu ddweud wrthych a ydyn nhw am i chi fynd i orsaf yr heddlu oherwydd eu bod nhw’n meddwl mai chi yw’r person sydd wedi cyflawni’r drosedd, neu dim ond oherwydd eu bod nhw’n meddwl eich bod chi’n dyst. Nid oes rhaid i chi fynd, ond os yw’r heddlu am ofyn cwestiynau i geisio sefydlu ai chi gyflawnodd y drosedd (yn hytrach na’ch holi fel tyst), gallent eich arestio os penderfynwch beidio â mynd yn wirfoddol.

Os oeddech chi’n rhan o’r hyn sydd wedi digwydd, gallwch ddewis dweud hynny wrth yr heddlu ai peidio. Cofiwch rybudd yr heddlu (a nodwyd yn gynharach) sy’n dweud wrthych nad oes rhaid i chi ateb cwestiynau. Os dywedwch wrthynt am yr hyn a wnaethoch, gall yr heddlu eich arestio a gallech gael eich rhybuddio, eich cyhuddo neu gallant ddelio â chi mewn ffordd arall (fel yr eglurwyd uchod). Hyd yn oed os na fyddwch chi’n dweud wrth yr heddlu beth ddigwyddodd neu beth roeddech chi’n ymwneud ag ef, fe all yr heddlu eich arestio os yw’r atebion rydych chi wedi’u rhoi yn gwneud iddyn nhw feddwl eich bod chi’n gysylltiedig, neu os oes ganddyn nhw resymau, neu dystiolaeth arall, i feddwl eich bod chi wedi cymryd rhan. Os na chewch eich arestio, dylech allu gadael gorsaf yr heddlu ar unrhyw adeg.

Beth am fy ‘hawliau’?

Mae’ch hawliau pan fyddwch chi yng ngorsaf yr heddlu yn deillio o gyfreithiau’r DU. Mae’r hawliau hyn yn cynnwys pethau fel cael gwybod y gallwch gael cyngor cyfreithiol am ddim ac oedolyn priodol. Mae gennych hefyd hawliau yng Nghymru o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (UNCRC). Os ydych chi o dan 18 oed yng Nghymru, mae gennych chi’r holl hawliau i blant sydd wedi’u cynnwys yn yr UNCRC.

Nid yw’r UNCRC yn siarad yn benodol am ‘bwerau’r heddlu’ ond mae’n siarad am hawliau plant a phobl ifanc, a sut y dylid eu trin. Rhaid i’r heddlu yng Nghymru barchu eich hawliau ‘fel plentyn’ o hyd, hyd yn oed os ydyn nhw’n credu eich bod chi wedi torri’r gyfraith. Nid yw hyn yn golygu na fyddwch yn cael eich stopio na’ch chwilio, na’ch arestio, ond mae’n golygu y dylid eich trin ‘fel plentyn’ gan yr heddlu ac y dylid eich trin yn unol â’ch hawliau UNCRC.

Mae’r UNCRC yn dweud – Na ddylid eich trin yn greulon, – Os ydych chi’n torri’r gyfraith, ni ddylech gael eich cadw mewn carchar gydag oedolion, – Fe ddylech chi allu cael cyswllt â’ch teulu, – Os cewch eich cyhuddo o dorri’r gyfraith, dylid eich trin fel pe na baech wedi torri’r gyfraith nes ei bod yn amlwg eich bod wedi torri’r gyfraith, – Os cewch eich cyhuddo, dylid dweud wrthych am hyn yn gyflym ac yn uniongyrchol, – Dylid parchu eich preifatrwydd bob amser.

Gallai’r rheolau y mae’r heddlu’n eu dilyn ynglŷn â sut y dylent eich trin olygu nad ydych yn cael eich trin yn unol â’r UNCRC. Os credwch nad yw’r heddlu wedi parchu’ch hawliau UNCRC yn y ffordd y maent wedi’ch trin, dylech siarad â’ch cyfreithiwr.

Os credwch eich bod wedi cael eich trin yn wael gan yr heddlu, gallwch wneud cwyn. Gallwch gwyno’n uniongyrchol i’r heddlu sy’n gysylltiedig. Bydd angen i chi wybod heddlu pa ardal sydd wedi eich trin yn wael:

Heddlu Gogledd Cymru

Heddlu De Cymru

Heddlu Gwent, neu

Heddlu Dyfed-Powys

Os byddai’n well gennych beidio â chwyno’n uniongyrchol i’r heddlu, gallwch gwyno trwy wefan y Swyddfa Annibynnol ar Ymddygiad yr Heddlu (IOPC) Os oes angen i chi ddarllen y wefan mewn unrhyw iaith arall, gallwch newid yr iaith gan ddefnyddio’r gwymplen yng nghornel chwith isaf y sgrin. Os ydych chi’n defnyddio’r wefan IOPC i wneud eich cwyn, mae’n debyg y bydd yr heddlu’n parhau i edrych arno i ddechrau. Bydd yr IOPC yn ymchwilio i rai mathau o gwynion.

Nid oes terfyn amser ar gyfer gwneud cwyn, ond os byddwch yn ei gadael yn hwy na 12 mis, bydd angen i chi egluro pam na wnaethoch gŵyn yn gynt. Bydd yn ei gwneud yn anoddach i’r heddlu ymchwilio i’ch cwyn po hiraf y byddwch yn ei gadael.

Cafodd y daflen ffeithiau hon ei pharatoi ym mis Mai 2020 i roi syniad i chi o beth allai ddigwydd a beth yw eich hawliau yn ystod stopio a darparu manylion, stopio a chwilio, ac arestio. Er bod pob ymdrech wedi’i gwneud i sicrhau cywirdeb y wybodaeth, mae’n bosib y bydd y gyfraith ac ymarfer yn newid. Ni ddylai cynnwys y ddogfen hon gymryd lle cyngor cyfreithiol, gan fod pob sefyllfa’n wahanol. Os ydych chi wedi cael eich stopio a’ch chwilio, neu eich arestio, dylech geisio cyngor cyfreithiol gan eich cynrychiolydd cyfreithiol chi.

Last updated on: August 4, 2020