At The Children’s Legal Centre, Wales, we carry out work to help promote legal education for young people. We share information about current events that are affecting children’s rights in Wales through our blogs.
5 Ways to Embed Children’s Rights in School will give you practical ways that you can teach children about their rights.
Wales has had its own Government, Senedd Cymru, since 1997. The Senedd is a devolved Government that can make decisions in some areas. Since its creation it has made changes to the law, many of which affect young people directly.
We have produced this infographic for young people which helps them to understand some of the laws that are different in Wales. If you would like a copy of this for your setting, please get in touch.
Article 13: I have the right to get information and share my views.
The child shall have the right to freedom of expression; this right shall include freedom to seek, receive and impart information and ideas of all kinds, regardless of frontiers, either orally, in writing or in print, in the form of art, or through any other media of the child’s choice
Pause, Play, Fast, forward: The Journey of Children in Wales
Pause, Play, Fast Forward: The Journey of Children in Wales tells the story of Children in Wales as they celebrated their 30th Anniversary. Written by Children in Wales’ young volunteers (lead author Arthur Templeman-Lilley), alongside Children in Wales team members, the book offers a unique way to reach children and young people directly, presenting children’s rights in their own words. It is a wonderfully presented book with relevant information set out in a child-friendly way. There are also activities for young people at the end of the book.
Article 4: Governments must protect and respect my rights
States Parties shall undertake all appropriate legislative, administrative, and other measures for the implementation of the rights recognized in the present Convention. With regard to economic, social and cultural rights, States Parties shall undertake such measures to the maximum extent of their available resources and, where needed, within the framework of international cooperation.
Monthly Matters
Each month The Children’s Commissioner for Wales team sets out a new Monthly Matter. This is great way to get young people talking about issues that are affecting them and to promote Article 12- your right to be listened to and taken seriously. A new topic is set each month with a range of resources provided for addressing these themes with young people as well as opportunities to feedback to The Children’s Commissioner for Wales.
Article 12: The Right to be listened to and taken seriously
Every child has the right to express their views, feelings and wishes in all matters affecting them, and to have their views considered and taken seriously. This right applies at all times, for example during immigration proceedings, housing decisions or the child’s day-to-day home life.
Travel Opportunities
Boys' and Girls' Clubs of Wales is a national voluntary youth work organisation offering young people new and attractive opportunities by providing a full and varied programme of educational, cultural, sporting and social activities. If you have a club that is looking for funding for a travel opportunity, more information can be found at Taith | BGC Wales Official
Article 15: You have the right to meet with friends and join groups.
States Parties recognize the rights of the child to freedom of association and to freedom of peaceful assembly.
The Information Commissioners Office
The Information Commissioners Office has produced a range of bilingual resources for both primary and secondary schools to help children understand their legal rights when online. There is a set of lesson plans specifically on the Children’s Code, this is a set of rules designed to make the internet a safer place for children to learn, explore and play. Each lesson plan is complete with background information for teachers as well as engaging activities for pupils. You can find the resources here School resources | ICO
Article 17: You have the right to honest information from the media that you can understand, as long as it’s safe.
States Parties recognize the important function performed by the mass media and shall ensure that the child has access to information and material from a diversity of national and international sources, especially those aimed at the promotion of his or her social, spiritual and moral well-being and physical and mental health
Staff Training on Children's Rights
In the Curriculum for Wales, children’s rights are a cross cutting theme. Staff training material that has been created by Welsh Gov is available on Hwb.
Throughout June and July, Children in Wales will be running training on Children’s Rights. There are a range of session from Childrens Rights in the Early Years to Children’s Rights for 11-25. Click on the picture for more information.
Article 3: Adults must do what’s best for me
The best interests of the child must be a top priority in all decisions and actions that affect children.
Supporting Change: School Uniform
All children have the right to an education, whether this is in a school, at home or another setting. In a survey carried out by Children in Wales many young people stated that those who could not afford the full, or correct uniform were more likely to be bullied and isolated as well as being more likely to be punished or sent home. Children in Wales have resources to help school implement changes to their unfirm. This includes a number of Case Studies which show how schools have worked to make changes to benefit students and families. For more information, follow the link, Children in Wales | School Uniform Resources Now Available for Schools
Article 28: I have the right to an education
Every child has the right to an education. Primary education must be free and different forms of secondary education must be available to every child. Discipline in schools must respect children’s dignity and their rights. Richer countries must help poorer countries achieve this.
We hope you have found this information useful, and we would welcome any information on upcoming events or resources that we can share with schools. For more information on the Law in Wales and how this affects young people please visit The Children’s Legal Centre Wales.
If you would like to read previous Newsletters please click here
Ffeithlun newydd ar gyfreithiau sy’n berthnasol i Gymru yn unig:‘Gwahanol yng Nghymru’
Yng Nghanolfan Gyfreithiol y Plant, Cymru rydym yn gwneud gwaith i helpu i hyrwyddo addysg gyfreithiol i bobl ifanc. Rydym yn rhannu gwybodaeth am ddigwyddiadau cyfredol sy'n effeithio ar hawliau plant yng Nghymru trwy ein blogiau.
Bydd 5 Ffordd o Ymgorffori Hawliau Plant yn yr Ysgol yn rhoi ffyrdd ymarferol i chi ddysgu plant am eu hawliau.
Mae gan Gymru ei Llywodraeth ei hun, Senedd Cymru, ers 1997. Llywodraeth ddatganoledig yw'r Senedd a all wneud penderfyniadau mewn rhai meysydd. Ers ei chreu mae wedi gwneud newidiadau i'r gyfraith, y mae llawer ohonynt yn effeithio'n uniongyrchol ar bobl ifanc.
Rydym wedi cynhyrchu'r ffeithlun hwn i bobl ifanc i’w helpu i ddeall rhai o'r deddfau sy'n wahanol yng Nghymru. Os hoffech gael copi o hwn ar gyfer eich lleoliad chi, cysylltwch â ni.
Erthygl 13: Mae gen i hawl i gael gwybodaeth a rhannu fy marn.
Bydd gan y plentyn yr hawl i ryddid mynegiant; bydd yr hawl hon yn cynnwys rhyddid i geisio, derbyn a rhannu gwybodaeth a syniadau o bob math, heb ystyried ffiniau, naill ai ar lafar, yn ysgrifenedig neu mewn print, ar ffurf celf, neu drwy unrhyw gyfryngau eraill o ddewis y plentyn.
Aros, Chwarae, Ymlaen yn Gyflym:Taith Plant yng Nghymru
Mae Aros, Chwarae, Ymlaen yn Gyflym:Taith Plant yng Nghymru yn adrodd hanes Plant yng Nghymru wrth iddynt ddathlu eu 30 mlwyddiant. Wedi'i ysgrifennu gan wirfoddolwyr ifanc Plant yng Nghymru (prif awdur Arthur Templeman-Lilley), ochr yn ochr ag aelodau tîm Plant yng Nghymru, mae'r llyfr yn cynnig ffordd unigryw o gyrraedd plant a phobl ifanc yn uniongyrchol, gan gyflwyno hawliau plant yn eu geiriau eu hunain. Mae'r llyfr wedi'i lunio’n fendigedig gyda gwybodaeth berthnasol wedi'i chyflwyno mewn ffordd sy'n addas i blant. Mae gweithgareddau hefyd ar gael i bobl ifanc ar ddiwedd y llyfr.
Erthygl 42: Dylai pawb wybod am hawliau plant.
Yn datgan bod Pleidiau’n ymrwymo i hyrwyddo egwyddorion a darpariaethau’r Confensiwn yn eang, drwy ddulliau priodol a gweithredol, i oedolion a phlant fel ei gilydd.
Siarad Am Ein Hawliau
Sefydlwyd Dysgu Proffesiynol Amrywiaeth a Gwrth-hiliaeth (DARPL) fel Cymuned Ymarfer yn 2021, a gyllidir gan Lywodraeth Cymru ac a sefydlwyd ym Mhrifysgol Fetropolitan Caerdydd. Mae DARPL yn casglu ynghyd tîm amrywiol o ddarparwyr sydd â phrofiad byw a phroffesiynol drwy ganolfan adnoddau a dysgu proffesiynol sydd â phersbectif Cymreig o ran codi ymwybyddiaeth o hiliaeth amlddisgyblaethol, sy’n gweithio gyda’i gilydd o fewn y Cwricwlwm Newydd i Gymru.
Mae DARPL wedi cynhyrchu canllawiau ar gyfer sefydliadau dysgu ac maen nhw ar gael yma;
Mae Dr Rhian Croke, sef Arweinydd Ymgyfreitha Strategol ac Eiriolaeth Polisi Canolfan Gyfreithiol y Plant, yn rhannu ei barn am hiliaeth a sut mae’n gysylltiedig ag achosion o wahardd o’r ysgol yma;
Erthygl 2: Mae gan bob plentyn yr hawliau hyn ni waeth beth yw ei wahaniaethau.
Mae’n rhaid i Bartïon barchu a sicrhau'r hawliau a nodir yn y Confensiwn presennol ar gyfer pob plentyn o fewn eu hawdurdodaeth heb wahaniaethu o unrhyw fath, waeth beth fo hil, lliw, rhyw, iaith, crefydd, barn wleidyddol neu farn arall, tarddiad cenedlaethol, ethnig neu gymdeithasol, eiddo, anabledd, genedigaeth neu statws arall y plentyn, ei riant neu warcheidwad cyfreithiol.
Cefnogi Hawliau Cysylltu:Clybiau Plant yng Nghymru
Ym mis Mehefin gwelwyd y Diwrnod Chwarae Rhyngwladol cyntaf. O dan Erthygl 15, mae gan blant yr hawl i gwrdd â ffrindiau ac ymuno â grwpiau. Mae Clybiau Bechgyn a Merched Cymru yn sefydliad gwaith ieuenctid gwirfoddol cenedlaethol sy'n cynnig cyfleoedd newydd a difyr i bobl ifanc trwy ddarparu rhaglen lawn ac amrywiol o weithgareddau addysgol, diwylliannol, chwaraeon a chymdeithasol.
Os ydych am ymuno ag unrhyw gyfle cyfnewid ieuenctid a ariennir yn rhannol neu’n llawn, mae rhagor o wybodaeth ar gael yn Taith | BGC Cymru Swyddogol
Erthygl 15: Mae gen i hawl i gwrdd â ffrindiau ac ymuno â grwpiau.
Yn datgan bod Pleidiau’n cydnabod hawliau’r plentyn i ryddid i gysylltu a’r rhyddid i ymgynnull yn heddychlon.
Ni ddylid rhoi unrhyw gyfyngiadau ar ymarfer yr hawliau hyn ac eithrio’r rhai a orfodir mewn cydymffurfiaeth â’r gyfraith ac sy’n angenrheidiol mewn cymdeithas ddemocrataidd er budd diogelwch cenedlaethol neu ddiogelwch y cyhoedd, trefn gyhoeddus, amddiffyn iechyd y cyhoedd neu foesau neu ddiogelu hawliau a rhyddidau pobl eraill.
Cadw Plant yn Ddiogel Ar-lein
Mae mwy o rieni nag erioed yn y DU yn teimlo bod defnydd plant o’r rhyngrwyd bellach yn dod â mwy o risgiau na manteision, yn ôl astudiaeth flynyddol ddiweddaraf Ofcom o fywydau plant ar y cyfryngau ac ar-lein.
Mae Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth wedi cynhyrchu ystod o adnoddau dwyieithog i ysgolion cynradd ac uwchradd eu defnyddio fel rhan o'u cwricwlwm i helpu plant i ddeall eu hawliau cyfreithiol pan fyddant ar-lein.
Mae'r Cod Plant yn god sy’n helpu datblygwyr apiau i wreiddio preifatrwydd mewn gwasanaethau ar-lein y mae plant yn debygol o'u defnyddio. Mae hyn wedi'i gynllunio i wneud y rhyngrwyd yn lle mwy diogel i blant ddysgu, archwilio a chwarae. Mae Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth wedi cynhyrchu ystod o gynlluniau gwersi, gyda gwybodaeth gefndirol i athrawon yn ogystal â gweithgareddau difyr i ddisgyblion. Gallwch ddod o hyd i'r adnoddau yma: Adnoddau Ysgol SCG.
Erthygl 17: Mae gen i hawl i dderbyn gwybodaeth mewn llawer o ffyrdd, tra bod hynny’n ddiogel.
Mae gan bob plentyn yr hawl i wybodaeth ddibynadwy o amrywiaeth o ffynonellau, a dylai llywodraethau annog y cyfryngau i ddarparu gwybodaeth y gall plant ei deall. Rhaid i lywodraethau helpu i amddiffyn plant rhag deunyddiau a allai eu niweidio.
Hyfforddiant Staff ar Hawliau Plant
Yn y Cwricwlwm i Gymru, mae hawliau plant yn thema drawsbynciol, sy'n golygu y dylai plant ddysgu am, trwy, ac ar gyfer Hawliau Dynol Plant. Mae gan Uwch Arweinwyr a Llywodraethwyr ddyletswydd gyfreithiol i hyrwyddo gwybodaeth a dealltwriaeth o'r CCUHP. Mae Llywodraeth Cymru wedi cynhyrchu deunydd hyfforddi staff y gallwch ei weld ar Hwb.
Drwy gydol mis Mehefin a mis Gorffennaf, bydd Plant yng Nghymru yn cynnal hyfforddiant ar Hawliau Plant. Mae yna amrywiaeth o sesiynau, o Hawliau Plant yn y Blynyddoedd Cynnar i Hawliau Plant 11-25. Cliciwch ar y llun am ragor o wybodaeth.
Erthygl 3: (budd pennaf y plentyn) Rhaid i oedolion wneud beth sydd orau i fi.
Rhaid i fudd pennaf y plentyn fod yn brif flaenoriaeth ym mhob penderfyniad a gweithred sy’n effeithio ar blant.
Erthygl 42: Dylai pawb wybod am hawliau plant
Yn datgan bod Pleidiau’n ymrwymo i hyrwyddo egwyddorion a darpariaethau’r Confensiwn yn eang, drwy ddulliau priodol a gweithredol, i oedolion a phlant fel ei gilydd.
Cefnogi Newid:Gwisg Ysgol
Mae gan bob plentyn yr hawl i gael addysg, boed hynny mewn ysgol, gartref neu mewn lleoliad arall. Mewn arolwg a gynhaliwyd gan Plant yng Nghymru dywedodd llawer o bobl ifanc fod y rhai na allai fforddio'r wisg lawn neu gywir yn fwy tebygol o gael eu bwlio a'u hallgáu yn ogystal â bod yn fwy tebygol o gael eu cosbi neu eu hanfon adref.
Mae gan Plant yng Nghymru adnoddau i helpu ysgolion i weithredu newidiadau i'w polisi gwisg ysgol. Mae hyn yn cynnwys sawl Astudiaeth Achos sy'n dangos sut mae ysgolion wedi gweithio i wneud newidiadau sydd o fudd i fyfyrwyr a theuluoedd. Am ragor o wybodaeth, dilynwch y dolen Plant yng Nghymru | Adnoddau Gwisg Ysgol Nawr Ar Gael i Ysgolion
Erthygl 28: Mae gen i hawl i gael addysg
Yn datgan bod Pleidiau’n cydnabod hawl y plentyn i addysg, gan anelu at gyflawni’r hawl hon yn flaengar ac ar sail cyfle cyfartal…
Gobeithio bod yr wybodaeth hon wedi bod yn ddefnyddiol i chi, a byddem yn croesawu unrhyw wybodaeth am ddigwyddiadau neu adnoddau sydd ar y gweill y gallwn eu rhannu ag ysgolion. Mae ein cylchlythyrau blaenorol ar gael yma: Hafan | Children's Legal Centre Wales (childrenslegalcentre.wales)
I gael rhagor o wybodaeth am y Gyfraith yng Nghymru a sut mae hyn yn effeithio ar bobl ifanc, ewch i Ganolfan Gyfreithiol y Plant Cymru.