• A chithau’n blentyn/person ifanc yng Nghymru, mae eich hawliau’n cynnwys yr hawl i fod yn rhan o benderfyniadau sy’n cael eu gwneud amdanoch. Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi ymrwymo i wneud plant yn rhan ganolog o bopeth mae’n ei wneud
  • Mae gwahanol ffyrdd o sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed pan fydd penderfyniadau’n cael eu gwneud yng Nghymru. Mae’n dibynnu a ydych eisiau datrys rhywbeth i chi eich hun, neu a oes rhywbeth rydych eisiau ei newid sy’n effeithio ar bawb yng Nghymru.
  • Y man cychwyn er mwyn sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yw deall beth yw eich hawliau a gwybod am y cyfreithiau sy’n gallu eich helpu i sicrhau eich hawliau.

Mae llawer o adegau yn eich bywyd pan fydd oedolion yn gwneud penderfyniadau amdanoch. Efallai eich bod yn meddwl nad oes gennych lais, ond mewn gwirionedd mae eich bywyd yn llawn dewisiadau a phenderfyniadau sydd ar gael i chi.

I ddechrau, efallai y bydd y penderfyniadau y mae gennych reolaeth drostynt yn benderfyniadau am ‘bethau bach’ bywyd. Wrth i chi dyfu i fyny, cewch wneud mwy a mwy o benderfyniadau drosoch eich hun. Mae’r rhain yn cynnwys penderfyniadau ynghylch gyda phwy rydych yn byw, ac ymhle, ble rydych yn mynd i’r ysgol, ac unrhyw driniaeth feddygol sydd ei hangen arnoch.

Os oes raid i oedolyn wneud penderfyniad amdanoch, mae Erthygl 12 Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yn rhoi hawl i chi i sicrhau bod eich barn yn cael ei hystyried pan fydd penderfyniadau’n cael eu gwneud. Po hynaf ydych chi, po fwyaf o gyfle y dylech ei gael i gael eich clywed ac i wneud penderfyniadau.

BOD YN RHAN O BENDERFYNIADAU AMDANOCH CHI FEL UNIGOLYN

Os oes rhywbeth yn digwydd i chi – efallai eich bod yn ei chael yn anodd cael yr help sydd ei angen arnoch yn yr ysgol, neu efallai fod eich rhieni’n gwahanu a’ch bod yn teimlo eich bod yn cael eich gadael allan o’r penderfyniadau sy’n cael eu gwneud, neu efallai eich bod mewn trafferth gyda’r heddlu ond nad ydych yn cael eich trin yn iawn – fe ddylech allu sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed. Os nad ydych yn gwybod beth i’w wneud, gall hynny wneud i chi deimlo hyd yn oed yn waeth am yr hyn sy’n digwydd.

Mae eich hawl i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed ac i fod yn rhan o’r broses o wneud penderfyniadau’n berthnasol ym mhob sefyllfa sy’n ymwneud â sefydliad cyhoeddus – eich ysgol, y gwasanaethau cymdeithasol, y llysoedd, yr heddlu, neu bobl sy’n eich trin yn yr ysbyty, ymhlith eraill.

Rydym wedi llunio rhestr o benderfyniadau y byddwch efallai am fod yn rhan ohonynt, ac esboniad o sut i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed.

CYMRYD RHAN YN Y PENDERFYNIADAU MAWR!

Mae’n bwysig iawn sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y penderfyniadau sy’n effeithio ar eich bywyd bob dydd. Mae hefyd yn bwysig eich bod yn deall bod gennych lais yn y penderfyniadau mawr sy’n effeithio ar bawb yng Nghymru. Gall penderfyniadau yng Nghymru ddigwydd ar lefel y Deyrnas Unedig, oherwydd mae llawer o’r cyfreithiau sy’n berthnasol i Gymru’n dal i gael eu gwneud yn y Senedd yn San Steffan. Ond yn sgil datganoli mae mwy a mwy o benderfyniadau ynglŷn â bywyd yng Nghymru’n cael eu gwneud yng Nghaerdydd. Mae Llywodraeth Cymru’n gweithio gyda’r Cynulliad Cenedlaethol i wneud penderfyniadau ynglŷn â’r gyfraith yng Nghymru. Mae rhai penderfyniadau’n cael eu gwneud gan awdurdodau lleol hefyd.

CWYNO AM Y FFORDD RYDYCH WEDI CAEL EICH TRIN

AC OS NAD YW FY LLAIS YN CAEL EI GLYWED…

Os ydych yn ei chael yn anodd sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed er gwaetha’r gweithdrefnau sydd ar waith, neu os oes penderfyniad yn cael ei wneud amdanoch ac nad oes ffordd i chi gael dweud eich dweud, gallwch gysylltu â Chomisiynydd Plant Cymru.