Mae’n siŵr bod mwy o bobl na fi yn caru unrhyw beth y mae Jacqueline Wilson yn ei sgwennu, ac mae gan Hetty Feather wastad le yn fy nghalon.

Fel un o lyfrau enwocaf Jacqueline Wilson, mae Hetty Feather yn dilyn bywyd merch sydd wedi’u gadael gan ei mam mewn ysbyty ‘foundling’. (Yn wreiddiol, sefydliad i blant a oedd wedi’u gadael oedd ysbyty ‘foundling’. Nid ysbyty meddygol ydoedd o reidrwydd, mwy fel cartref plant, a oedd yn cynnig lloches ac addysg.)

Yna mae Hetty yn cael ei hanfon i gartref maeth, lle cafodd blentyndod hapus, ond mae’n cael ei hanfon nôl i ysbyty ‘foundling’ i ddechrau ei haddysg. Mae Hetty yn cael ei thrin yn wael gan yr athrawon, ac ar drip ysgol, mae’n dianc er mwyn dod o hyd i’w mam go iawn. Mae Hetty yn dychwelyd i’r ysbyty, ond mae’n darganfod pwy yw ei mam go iawn, gan orffen gydag diweddglo hapus ym marn rhai!

 

Hawl i gael addysg

Yma yng Nghymru, mae gennym hawl i gael addysg, sef pam y mae Hetty yn mynd nôl i’r ysbyty. Mae’n ymddangos yn annheg ei bod wedi’i thynnu oddi wrth ei theulu newydd, ond mae cael addysg yn rhywbeth y dylai pob plentyn gael mynediad iddo. Yn y Gymru fodern, gall hyn fod naill ai drwy addysg gartref, ysgol gyhoeddus, neu ysgol breifat. Gallwch ddysgu mwy am eich hawliau i gael addysg fan hyn.

Mae’n RHAID i unrhyw le addysg barchu hawliau plant. Mae’n ddyletswydd ar Lywodraeth Cymru i fabwysiadu Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (UNCRC) o dan Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011 i wneud yn siŵr bod hyn yn digwydd, a phan nad oes rhywbeth yn iawn, i sicrhau bod y plentyn yn cael ei amddiffyn.

Mae Erthygl 28 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yn dweud bod gan bob plentyn yr hawl i gael addysg. Dylai addysg gynradd fod am ddim. Dylai addysg uwchradd ac uwch fod ar gael i bob plentyn.

 

Eich hawliau yn yr ysgol

Felly, beth yw eich hawliau yn yr ysgol? Mae’n bwysig bod athrawon a staff yn eich trin â pharch. Mae athrawon yn trin Hetty Feather yn wael yn yr ysgol, gan ei bod yn cael ei bwlio gan un o’r athrawon am sefyll ei thir. Mae’n ofynnol yn ôl y gyfraith i ysgolion yng Nghymru gael cyngor ysgol er mwyn cael llais torfol o dan Reoliadau Cynghorau Ysgol (Cymru) 2005. Dyma un ffordd y gall plant ddweud eu dweud am yr hyn sy’n digwydd yn yr ysgol.

Mae Erthygl 12 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yn ymwneud â hawliau plant a phobl ifanc i fynegi eu barn, eu teimladau a’u dymuniadau, ac i’w safbwyntiau gael eu hystyried a’u cymryd o ddifri.

Weithiau fel plant, gall fod yn anodd credu bod eich barn chi’n bwysig, ond mae gennych chi’r hawl i fynegi eich barn, yn enwedig pan fyddwch chi yn yr ysgol.

 

Ni ddylai trais fod yn rhan o fywyd plentyn

Fel y dywedais, mae Hetty Feather yn cael ei thrin yn ofnadwy yn yr ysbyty ‘foundling’, ond y peth gwaethaf sy’n digwydd iddi yno yw ei bod yn cael ei chloi mewn cwpwrdd tywyll drwy’r nos am herio athro. Does neb BYTH yn cael eich trin chi fel hyn. Ddim rhieni, athrawon, neu warcheidwaid, neb.

Mae Erthygl 19 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yn dweud bod rhaid i lywodraethau warchod plant rhag trais, camdriniaeth a chael eu hesgeuluso gan unrhyw un sy’n gofalu amdanyn nhw.

Bellach mae amddiffyniad ychwanegol i blant yn erbyn trais yng Nghymru, gan ei fod wedi ei wneud yn anghyfreithlon i rieni neu warcheidwaid daro plant fel ffordd o ddisgyblu. Gallwch ddarllen mwy am y ddeddfwriaeth nodedig hon fan hyn – Deddf Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) 2020.

 

Ysbyty a gofal ‘foundling’

Roedd ysbyty ‘foundling’ yn gartref i blant na allent fod gyda’u teuluoedd biolegol am resymau gwahanol, a chawsant eu cymryd i mewn a thybiwyd eu bod yn derbyn gofal ac yn cael addysg. Does dim ysbytai ‘foundling’ yng Nghymru erbyn hyn, na gweddill y Deyrnas Unedig, ond mae rhai plant yn dal i fod mewn sefyllfaoedd lle na allan nhw fod gyda’u teulu agos.

Mae Erthygl 20 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yn dweud y dylai plant y gofelir amdanynt gan y llywodraeth dderbyn gofal iawn a’u bod yn haeddu gofal a chymorth arbennig.

Yn anffodus, nid yw Hetty yn derbyn gofal iawn ac nid yw’n cael gweld ei theulu biolegol. Yn y Gymru fodern, dim ond llys all awdurdodi i blentyn gael ei wahanu oddi wrth ei deulu, a lle bo hyn yn digwydd, mae gan blentyn yr hawl i gysylltu â’i deulu oni bai bod llys yn penderfynu nad yw hynny er ‘lles pennaf’ y plentyn. Y prif gyfreithiau sy’n sicrhau cydymffurfiaeth yw’r Ddeddf Plant 1989 (Deddfwriaeth y DU) a Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Deddfwriaeth Cymru).

Ar ôl darllen y blog hwn, mae’n debyg eich bod wedi sylwi na chafodd Hetty y dechrau gorau mewn bywyd. Ond ers cyfnod Hetty, mae llawer o bethau wedi newid ac wedi gwella mewn nifer o ffyrdd i blant sy’n byw yng Nghymru. Mae rhai o’r rhain wedi’u hamlygu uchod ac yn cynnwys:

Gobeithio bod y newidiadau deddfwriaethol blaengar hyn yn golygu bod pobl fel Hetty, yn y Gymru fodern, yn cael eu hamddiffyn a’u cefnogi pe baen nhw yn yr un sefyllfa.

Gadewch sylwadau isod os allwch chi feddwl am ffyrdd eraill y mae llyfrau Jacqueline Wilson yn portreadu’r gyfraith!

 

Amdanaf i

Helo! Rhiannon Parry ydw i, ac rwy’n astudio Llenyddiaeth Saesneg ym Mhrifysgol Abertawe. Roedd llyfrau Jacqueline Wilson yn rhan enfawr o’m plentyndod, felly roedd yn hwyl ac yn ddiddorol cael ysgrifennu’r blog hwn am un o’i llyfrau. Mae’n dda gwybod bod gan blant mwy o hawliau erbyn hyn o’i gymharu â’r adeg pan gafodd y nofel hon ei gosod!