Mynd i’r ysgol

  • Yng Nghymru, mae’n rhaid i chi gael addysg rhwng 5 ac 16 oed – ond cewch aros ymlaen yn yr ysgol tan eich bod yn 18, os ydych chi am wneud hynny
  • Mae’r rhan fwyaf o blant yng Nghymru’n mynd i’r ysgol. Does dim rhaid i chi fynd i’r ysgol ond mae’n rhaid i chi gael addysg
  • Mae’n rhaid i’ch rhieni ddewis ble maen nhw eisiau i chi fynd i’r ysgol, neu a ydyn nhw am wneud trefniadau i chi gael eich addysg yn rhywle arall, neu efallai y byddan nhw am eich dysgu eu hunain

Ble bynnag rydych yn byw yng Nghymru, cewch fynd i’r ysgol rhwng 5 ac 16 oed. Eich rhieni fydd yn penderfynu i ba ysgol y dylech fynd. Wrth i chi fynd yn hŷn, efallai y bydd gennych farn ynglŷn â pa ysgol y dylech fynd iddi, felly siaradwch â’ch rhieni neu pwy bynnag sy’n gyfrifol am wneud penderfyniadau fel hyn, ynglŷn â’r hyn rydych chi ei eisiau. Fe ddylech allu mynd i weld yr ysgolion yn eich ardal er mwyn i chi a’ch rhieni gael gwneud penderfyniadau addas ynghylch pa ysgol fydd yn iawn i chi.

Rydych yn dysgu drwy’r amser, p’un a ydych chi yn yr ysgol ai peidio, ond yn yr ysgol y mae’r rhan fwyaf o blant a phobl ifanc yng Nghymru’n cael cyfran fawr o’u haddysg. Os yw eich rhieni wedi dewis ysgol i chi a’ch bod wedi’ch cofrestru yno, fe ddylent wneud yn siŵr eich bod yn mynd i’r ysgol yn rheolaidd. Wrth i chi fynd yn hŷn, ac yn fwy annibynnol, efallai na fyddwch eisiau mynd i’r ysgol, ond tan eich bod yn 16, mae’n rhaid i’ch rhieni wneud yn siŵr eich bod yn mynd i’r ysgol. Os na ewch chi i’r ysgol, efallai y cewch eich gwahardd ac efallai y bydd trefniadau eraill yn cael eu gwneud i chi i ddysgu yn rhywle arall.

Weithiau, nid yr ysgol yw’r lle iawn i chi i ddysgu, neu efallai na fyddwch yn gallu mynd i’r ysgol. Bydd yr Awdurdod Lleol yn gallu siarad â chi am y lleoedd eraill y gallwch fynd i gael addysg. Mae rhai rhieni yn dewis dysgu eu plant gartref, ac maen nhw’n cael gwneud hynny ar yr amod eich bod yn cael addysg. Cewch wybod mwy am gael eich addysg gartref neu yn rhywle arall yma.

Cewch adael yr ysgol ar y dydd Gwener olaf ym mis Mehefin yn y flwyddyn ysgol pan fyddwch yn 16. Os fyddwch chi’n 16 cyn diwedd gwyliau’r haf y flwyddyn honno, cewch adael yr ysgol.

Yng Nghymru, nid oes gofyniad i aros yn yr ysgol unwaith yr ydych yn 16, ond yn ogystal, cewch aros mewn addysg os ydych chi eisiau. Efallai y byddwch eisiau aros yn yr ysgol tan eich bod yn 18, yn enwedig os ydych chi eisiau mynd i brifysgol. Fe ddylech gael aros yn yr ysgol tan eich bod yn 18, neu cewch adael yr ysgol a pharhau â’ch addysg mewn Coleg Chweched Dosbarth.

Yn dibynnu ble rydych yn byw yng Nghymru, mae’n bosib y cewch ddewis a ydych am fynd i ysgol cyfrwng Cymraeg, cyfrwng Saesneg neu ddwyieithog. Mae mwy a mwy o ysgolion yn dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg, a byddwch yn dysgu Cymraeg pa bynnag fath o ysgol rydych yn mynd iddi. Cewch wybod mwy am y Gymraeg a’r Saesneg yn yr ysgol yma.

Efallai fod ysgolion ‘ffydd’ yn eich ardal. Mae gan ysgol ‘ffydd’ gymeriad crefyddol penodol – gallai fod yn Gatholig, yn Iddewig, yn Fwslimaidd neu ryw ffydd arall.

Yn ogystal ag ysgolion gwladol, sy’n cael eu hariannu a’u trefnu gan yr awdurdod lleol, mae yna ysgolion annibynnol hefyd. Fel arfer mae’n rhaid i chi dalu i fynd i ysgol annibynnol.

Fe ddylech gael llais yn y penderfyniadau sy’n effeithio arnoch – ac mae pa ysgol maen nhw’n mynd iddi’n un o’r penderfyniadau mwyaf sy’n effeithio ar y rhan fwyaf o blant. Os ydych yn wirioneddol anhapus â phenderfyniad eich rhieni, a’ch bod wedi ceisio trafod y mater â nhw, efallai y gallech siarad â rhywun yn yr ysgol.

Os oes rhywbeth yn digwydd yn yr ysgol sy’n eich gwneud yn anhapus, fel bwlio gan ddisgyblion eraill neu gan athro neu athrawes, dylech geisio siarad â rhywun am y peth er mwyn i rywun allu gwneud rhywbeth i’ch helpu. Dylai’r penderfyniadau sy’n cael eu gwneud amdanoch bob amser fod yn seiliedig ar yr hyn sydd orau i chi – ac weithiau gall hynny olygu symud i ysgol arall.

Os na ewch chi i’r ysgol lle rydych wedi’ch cofrestru, fe allech fod mewn trafferth. Cewch wybod mwy am beth allai ddigwydd os na ewch chi i’r ysgol lle rydych wedi’ch cofrestru yma.

Os ydych wedi’ch cofrestru mewn ysgol mae disgwyl i chi fynd i’r ysgol honno bob dydd heblaw bod rheswm da dros beidio â gwneud hynny. Os ydych chi’n sâl, fyddwch chi ddim yn gallu mynd i’r ysgol. Efallai fod gennych apwyntiad yn yr ysbyty, neu efallai fod rheswm arall pam na allwch fynd i’r ysgol. Bydd angen i chi ddweud wrth yr ysgol beth sy’n digwydd, neu bydd yr absenoldeb yn un ‘heb ganiatâd’.

Os yw’r rheswm pam na allwch fynd i’r ysgol yn debygol o bara am beth amser – er enghraifft, os oes salwch arnoch sy’n mynd i bara’n hir, neu os ydych wedi cael eich gwahardd o’r ysgol – bydd trefniadau eraill yn cael eu gwneud i chi er mwyn i chi barhau i gael addysg.

Yng Nghymru, os ydych yn mynd i ‘ysgol a gynhelir’, mae gan eich rhieni neu eich gofalwyr hawl i ofyn i’r ysgol am hyd at 10 diwrnod i ffwrdd er mwyn i chi gael mynd ar eich gwyliau. Os yw’r pennaeth yn cytuno, cewch fynd ar eich gwyliau yn lle mynd i’r ysgol, a bydd yr ysgol yn rhoi caniatâd i chi i wneud hynny. Mae’r rhaid i’r pennaeth ystyried yr holl ffactorau – gan gynnwys pryd fydd y gwyliau, am faint rydych yn mynd, a beth fyddwch chi’n ei wneud, beth fydd yr effaith ar eich dysgu, eich amgylchiadau teuluol a dymuniadau eich rhieni neu eich gofalwyr, a sut mae eich presenoldeb yn gyffredinol.

Weithiau, yn dibynnu ar y sefyllfa, efallai y cewch fynd am fwy na 10 diwrnod.

Weithiau does dim digon o le i bob plentyn sydd eisiau mynd i ysgol benodol. Os felly, bydd gan yr ysgol bolisi sy’n dweud pa blant fydd yn cael cynnig lle. Mae’n rhaid i’r polisi hwn fod yn deg. Does gan ysgol cyfrwng Cymraeg ddim hawl i wrthod rhoi lle i chi am nad ydych yn siarad Cymraeg. Does gan yr ysgol ddim hawl i ystyried eich ymddygiad (heblaw eich bod eisoes wedi cael eich gwahardd o 2 ysgol neu fwy yn y gorffennol), nac unrhyw anghenion dysgu ychwanegol sydd gennych. Does gan yr ysgol ddim hawl i wneud penderfyniadau ynglŷn ag a oes lle i chi ai peidio yn seiliedig ar eich rhieni, nac yn seiliedig ar ymddygiad brawd neu chwaer i chi yn yr ysgol.

Os oes digon o le i bawb sydd wedi gwneud cais, fe ddylai pob plentyn gael lle. Os nad oes digon o le, does gan yr ysgol ddim hawl i’ch gwrthod oherwydd bod gennych anabledd, neu oherwydd eich crefydd, heblaw bod yr ysgol yn ysgol ‘ffydd’, neu oherwydd eich bod wedi cael eich gwahardd am byth o ysgol arall.

Os nad oes digon o le, bydd gan yr ysgol bolisi sy’n esbonio pwy fydd yn cael y lleoedd sydd ar gael. Mae’n rhaid defnyddio’r polisi hwn ar gyfer pob plentyn sydd eisiau lle. Bydd plant sy’n ‘derbyn gofal’ neu sydd wedi derbyn gofal yn y gorffennol yn cael blaenoriaeth. Mae’r ffactorau eraill y gellid eu hystyried yn cynnwys:

  • A oes gennych frawd neu chwaer yn yr ysgol yn barod
  • Ydych chi’n un o efeilliaid, neu dripledi ayyb.
  • A oes gennych angen meddygol sy’n ei gwneud yn bwysicach i chi fynd i ysgol benodol – efallai oherwydd ei bod yn agosach i’r ysbyty
  • Pa mor bell o’r ysgol rydych yn byw
  • Os yw’r ysgol yn seiliedig ar grefydd neu ffydd penodol, mae’n cael rhoi blaenoriaeth i blant o’r un grefydd neu ffydd

Mae’n rhaid i’r ysgol esbonio’i pholisi mewn ffordd sy’n hawdd ei deall.

Mae ysgolion yn cael rhoi lle i ddisgyblion yn y chweched dosbarth (blynyddoedd 12 a 13) yn seiliedig ar ‘allu’. Mae’n bosib y bydd yr ysgol yn dweud bod yn rhaid i chi gael isafswm penodol o gymwysterau TGAU ar radd benodol e.e. 5 TGAU gradd C neu uwch. Hyd yn oed os nad oes raid i chi gael isafswm penodol o gymwysterau TGAU i fynd i’r chweched dosbarth, gall yr ysgol ddefnyddio hynny os oes gormod o bobl yn gwneud cais i fynd i’r chweched.

Os na chewch chi le yn yr ysgol gynradd neu’r ysgol uwchradd rydych chi eisiau mynd iddi, mae gan eich rhieni hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad.

Os na chewch chi le yn y chweched dosbarth rydych eisiau mynd iddo, cewch chi a’ch rhieni apelio.

Bydd yr Awdurdod Lleol yn anfon manylion atoch ynglŷn â sut i apelio wrth roi gwybod i chi i ba ysgol y cewch fynd. Bydd Panel Apeliadau Annibynnol yn gwrando ar eich apêl. Fydd y bobl sy’n penderfynu ynglŷn â’ch apêl ddim yn bobl sy’n cael eu cyflogi gan yr ysgol na’r Awdurdod Lleol. Dim ond unwaith y cewch chi apelio mewn blwyddyn ysgol.

Os oes gennych ddatganiad Anghenion Addysgol Arbennig, bydd Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru’n ystyried eich apêl ynglŷn â ble y dylech fynd i’r ysgol.

Does dim byd i’ch rhwystro chi a’ch rhieni rhag gwneud cais i chi gael symud i ysgol arall. Efallai eich bod yn cael trafferth â bwlio yn yr ysgol yr aethoch iddi yn y lle cyntaf, neu efallai eich bod yn symud tŷ ac eisiau mynd i ysgol sy’n nes at eich cartref newydd. Gallai hyn ddigwydd hefyd os ydych wedi cael eich gwahardd am byth o un ysgol, neu os na allwch fyw gyda’ch rhieni mwyach a’ch bod yn symud i fyw yn rhywle arall – gyda pherthynas arall efallai, neu rieni maeth.

Hyd yn oed os nad ydych yn siŵr pa mor hir y byddwch yn aros yn rhywle, fe gewch fynd i’r ysgol yno – ac os oes lle yn yr ysgol rydych eisiau mynd iddi, fe ddylech allu cofrestru yno.

Gallwch gysylltu â’r Awdurdod Lleol neu â’r ysgol ei hun i gael gwybod mwy am yr ysgol a sut i wneud cais. Os oes digon o le i chi yn yr ysgol, fe ddylech gael mynd yno.

Yng Nghymru, mae gan bob plentyn hawl i gael addysg. Does dim ots o ble rydych chi wedi dod. Os ydych chi rhwng 5 ac 16, mae’n rhaid i chi fynd i’r ysgol yng Nghymru. Os ydych chi eisiau aros yn yr ysgol ac astudio ar gyfer arholiadau Safon Uwch neu gymhwyster arall fe ddylai hynny fod yn bosib waeth beth yw eich statws ymfudo, tan eich bod yn 18.