Dyw’r ysgol ddim yn bodloni fy anghenion

  • Fe ddylai eich barn gael ei hystyried pan fydd penderfyniadau’n cael eu gwneud am ba fath o addysg sy’n iawn i chi – a dylai’r penderfyniadau bob amser fod yn seiliedig ar yr hyn sydd orau i chi
  • Os ydych yn byw gyda chyflwr neu anabledd sy’n ei gwneud yn anodd i chi i ddysgu, neu’n ei gwneud yn fwy anodd i chi i gymryd rhan ym mywyd yr ysgol, dylai eich addysg ystyried unrhyw gymorth neu gefnogaeth ychwanegol sydd eu hangen arnoch
  • Gall llawer o blant a phobl ifanc gael y math iawn o addysg mewn ysgol brif ffrwd – ac os nad yw hynny’n bosib, mae ysgolion arbennig i helpu plant sydd ag anghenion cymhleth

Dyw eich hawl i gael addysg ddim yn newid am eich bod yn ei chael yn fwy anodd dysgu na phlant neu bobl ifanc eraill. Mae pob plentyn yn dysgu’n wahanol, ac mae pob plentyn yn dysgu yn ôl ei gyflymder ei hun, felly mae’n rhaid i ysgolion ac athrawon ystyried hynny. Mae’n fwy anodd i rai plant a phobl ifanc gael y math iawn o addysg.

Efallai fod gennych anghenion dysgu ychwanegol sy’n golygu bod angen help ychwanegol arnoch i ddysgu’n effeithiol. Gallai hyn olygu bod gennych anabledd hefyd. Efallai nad ydych yn cael trafferth dysgu, ond bod gennych anabledd sy’n ei gwneud yn fwy anodd i chi gymryd rhan yn llawn ym mywyd yr ysgol. Os oes gennych anghenion dysgu ychwanegol a/neu anabledd, mae angen i’ch ysgol eich helpu er mwyn sicrhau nad ydych yn wynebu rhwystrau yn yr ysgol.