Os nad ydych yn yr ysgol

  • Fel plentyn neu berson ifanc o dan 18 oed, mae gennych chi hawl i gael addysg, ond does dim rhaid i chi fynd i’r ysgol
  • Eich rhieni sy’n gyfrifol am wneud yn siŵr eich bod yn cael addysg
  • Pan wneir unrhyw benderfyniadau ynglŷn â sut a lle dylech chi gael eich addysg, dylai’r oedolion cysylltiedig ystyried eich barn, a gwneud penderfyniadau sydd er eich budd gorau chi

Yng Nghymru, os ydych chi rhwng 5 ac 16 oed, fe ddylech chi fod mewn addysg lawn amser, ond does dim rhaid i chi dderbyn eich addysg yn yr ysgol. Eich rhieni sy’n gyfrifol am benderfyniadau ynglŷn â’r ffordd yr ydych chi’n cael eich addysgu. Mae mwyafrif y rhieni yng Nghymru yn dewis anfon eu plant i’r ysgol ond mae opsiynau eraill ar gael.

  • Gallai eich rhieni ddewis eich addysgu yn y cartref.
  • Gallech fynd i Uned Cyfeirio Disgyblion
  • Os ydych chi’n sâl am gyfnod hir, gallech gael rhywfaint o’ch addysg yn yr ysbyty neu yn rhywle arall
  • Os ydych chi yn y ddalfa ieuenctid, mewn sefydliad i Droseddwyr Ifanc, mewn Uned Hyfforddi Ddiogel neu Gartref Diogel i Blant, dylech barhau i gael addysg

Cyn belled â’ch bod yn cael addysg sy’n datblygu eich personoliaeth a’ch talentau, eich galluoedd meddyliol a chorfforol, addysg sy’n eich dysgu ynglŷn â bod yn rhan o’r gymdeithas ac sy’n eich annog i barchu eich diwylliant eich hun a diwylliannau eraill, does dim gwahaniaeth yn lle mae’r addysg honno’n digwydd.

Yn y rhan hon o’r wefan, rydym yn edrych ar rai o’r cwestiynau a allai fod gennych chi ynglŷn â pheidio â mynd i’r ysgol – addysg yn y cartref, unedau cyfeirio disgyblion, beth sy’n digwydd os ydych chi wedi eich carcharu neu’n rhy sâl i fynd i’r ysgol. Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau eraill ynglŷn â’ch hawliau a’r gyfraith gysylltiedig â mynd i’r ysgol, anfonwch e-bost atom ni: childrenslegalcentre@swansea.ac.uk