Oedolion eraill

  • Mae gan rai oedolion gyfrifoldeb i ymddwyn mewn ffordd benodol tuag atoch oherwydd eu bod yn darparu gwasanaeth cyhoeddus i chi
  • Mae eich hawliau’n golygu bod yn rhaid i’r bobl hyn barchu eich hawliau, eich trin ag urddas, a pheidio â’ch cam-drin na bod yn dreisgar tuag atoch
  • Fydd gan oedolion eraill rydych yn eu hadnabod ddim y dyletswyddau hyn, ond os ydyn nhw’n eich trin yn greulon neu’n eich cam-drin, fe allen nhw gael eu cosbi

Dyw’r gyfraith ddim yn dweud wrth bobl sut i ymddwyn yn eu ‘perthnasoedd preifat’ – ond bydd yn gallu camu i mewn i atal rhywun sy’n bod yn greulon, neu sy’n ymddwyn yn dreisgar neu’n cam-drin rhywun arall. Os oes oedolyn (sydd ddim yn rhiant i chi nac yn rhywun arall a ddylai fod yn gofalu amdanoch) yn ymddwyn fel hyn tuag atoch, fe allant gael eu cosbi. Gall gweithwyr cymdeithasol, ac efallai hyd yn oed yr heddlu, gamu i mewn i wneud yn siŵr eich bod yn cael eich diogelu a’ch trin yn iawn.

Bydd rhai oedolion y byddwch yn cwrdd â nhw wrth i chi dyfu i fyny’n gweithio yn y gwasanaethau cyhoeddus, mewn ysgol efallai, neu ysbyty neu lyfrgell. Maen nhw’n gwneud gwaith i lywodraeth Cymru neu i’r awdurdod lleol. Mae eich hawliau’n golygu bod gan yr oedolion hyn ddyletswyddau ychwanegol i’ch trin yn iawn ac i barchu eich hawliau. Efallai y bydd rhai o’r oedolion hyn mewn ‘safle o ymddiriedaeth’ tuag atoch. Mae hynny’n golygu bod gan yr oedolyn ryw fath o rym drosoch. Bydd y grym hwn yn gadarnhaol gan amlaf. Mae pobl sydd mewn safle o ymddiriedaeth yn cynnwys athrawon, gweithwyr cymdeithasol, meddygon a nyrsys, gweithwyr ieuenctid a’r heddlu. Mae’n rhaid iddyn nhw beidio ag ymddwyn mewn ffordd sy’n camddefnyddio’r ymddiriedaeth neu’r grym hwnnw.

 

 

 

 

Rydym yn ddiolchgar iawn i gwmni Cyfreithwyr Irwin Mitchell am fod mor garedig â rhoi o’u hamser a’u harbenigedd i wirio cynnwys yr adran hon o’r wefan. Hydref 2018.