Fy nheulu

  • Mae eich bywyd teuluol a'r berthynas sydd gennych â’ch teulu yn bwysig iawn
  • Efallai na fyddwch bob amser yn gallu byw gyda’ch teulu, ond dyw hynny ddim yn golygu nad ydyn nhw’n bwysig
  • Os ydych yn byw gyda’ch teulu a bod rhywun yn eich brifo, mae gennych hawl i gael eich diogelu

Mae eich perthynas â’ch teulu, yn enwedig eich rhieni ond hefyd eich brodyr, chwiorydd, mam-gu a thad-cu a’r teulu ehangach, ymhlith y perthnasoedd cyntaf a’r pwysicaf yn eich bywyd. Mae eich bywyd teuluol wedi’i ddiogelu, hyd yn oed os na allwch fod gyda’ch teulu bob amser. Mae’r gyfraith yno i’ch diogelu os nad yw eich perthnasoedd teuluol yn gweithio. Mae'r gyfraith hefyd yn eich diogelu os oes rhywun yn eich teuly yn eich niweidio.

Perthnasoedd ‘preifat’ yw eich perthnasoedd teuluol, felly dyw eich hawliau, na’r gyfraith, ddim yn ymyrryd i ddweud wrthych beth gewch chi neu na chewch chi ei wneud. Ond mae’r gyfraith yn eich diogelu os oes rhywun yn eich teulu’n eich niweidio.

 

 

 

 

Rydym yn ddiolchgar iawn i gwmni Cyfreithwyr Irwin Mitchell am fod mor garedig â rhoi o’u hamser a’u harbenigedd i wirio cynnwys yr adran hon o’r wefan. Hydref 2018.