- Bydd gennych berthnasoedd sy’n ‘breifat’: gyda’ch teulu a’ch ffrindiau a gydag oedolion eraill, a pherthnasoedd lle mae’r person arall yn darparu gwasanaeth cyhoeddus i chi
- Mae gennych hawliau i’ch diogelu os cewch eich cam-drin neu eich brifo mewn perthynas breifat
- Mae eich hawliau’n rhoi dyletswyddau ychwanegol i bobl sy’n darparu gwasanaethau cyhoeddus, fel yr heddlu a gweithwyr cymdeithasol, i’ch cynorthwyo os oes angen help arnoch
Er efallai nad fel hyn rydych chi’n gweld pethau, mae gennych berthnasoedd gyda llawer o bobl. Mae pob perthynas yn wahanol. Mae gennych berthynas gyda
- Eich rhieni, eich llys-rieni a’ch mam-gu a thad-cu
- Eich brodyr a’ch chwiorydd, a llys frodyr a chwiorydd
- Aelodau eraill o’ch teulu
- Eich ffrindiau
- Plant eraill rydych yn cwrdd â nhw
- Oedolion sy’n darparu gwasanaethau cyhoeddus fel athrawon, meddygon a gweithwyr ieuenctid
- Oedolion rydych yn cwrdd â nhw oherwydd eu bod yn ffrindiau neu am reswm arall
O dan y gyfraith, mae rhai perthnasoedd yn ‘breifat’ er enghraifft, y berthynas sydd gennych â’ch teulu a’ch ffrindiau. Rydych chi, eich teulu a’ch ffrindiau’n rhydd i reoli eich perthnasoedd fel y mynnwch, ar yr amod nad oes neb – gan gynnwys chi – yn cael eu trin yn wael yn un o’r perthnasoedd hynny.
Mae’r gyfraith yn rhoi dyletswydd ar gyrff cyhoeddus fel yr heddlu a gwasanaethau cymdeithasol i’ch helpu chi os ydych chi’n cael eich trin yn amhriodol mewn perthynas breifat. Mae gan y llywodraeth ddyletswydd i sicrhau bod gweithdrefnau ar waith i’ch diogelu chi.
Mewn perthynas ‘gyhoeddus’, lle mae rhywun yn gyfrifol am wasanaeth rydych yn ei dderbyn gan y llywodraeth neu gan sefydliad arall, mae’r gyfraith yn nodi sut y dylai’r bobl hyn ymddwyn tuag atoch.
Mae Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yn ymdrin â’ch hawliau o safbwynt y sefydliadau cyhoeddus hyn, a’r bobl sy’n gweithio iddynt. Mae’n rhaid i bobl fel athrawon, gweithwyr cymdeithasol, yr heddlu, meddygon a nyrsys, a gweithwyr ieuenctid eich trin ag urddas a pharch.
Yn y rhan hon o’r wefan rydym yn trafod eich perthnasoedd
Rydym hefyd yn trafod eich hawliau, a’r gyfraith ynghylch
- Rhyw a chydsynio
- Cael perthynas o ddifrif; a
- Beth i’w wneud os oes rhywun yn gwneud i chi wneud rhywbeth dydych chi ddim eisiau ei wneud
Rydym yn ddiolchgar iawn i gwmni Cyfreithwyr Irwin Mitchell am fod mor garedig â rhoi o’u hamser a’u harbenigedd i wirio cynnwys yr adran hon o’r wefan. Hydref 2018.