- Fe ddylech gael gweld meddyg ar eich pen eich hun
- Os ydych o dan 16, efallai y bydd y meddyg yn gofyn pam nad ydych eisiau i oedolyn fod gyda chi, ac yn holi i wneud yn siŵr eich bod yn ddiogel
- Weithiau, gallwch gael cymorth a gwybodaeth am broblemau meddygol o rywle arall, nid dim ond gan y meddyg
Cewch weld meddyg ar eich pen eich hun faint bynnag yw eich oed – ond os hoffech i riant neu ofalwr fod gyda chi, mae hynny’n iawn hefyd. Hyd nes eich bod yn 16, efallai y bydd y meddyg neu’r nyrs yn poeni ynglŷn â pham nad ydych eisiau i riant neu ofalwr fod gyda chi, ond os ydych eisiau gweld y meddyg ar eich pen eich hun, fe ddylen nhw barchu hynny.
Heblaw mewn argyfwng neu, byddwch fel arfer yn mynd i weld eich meddyg teulu i gael help â phroblem feddygol. Meddygon yn y gymuned yw meddygon teulu, ac maen nhw’n gallu rhoi cyngor meddygol cyffredinol am amryw o wahanol broblemau. Maen nhw’n gallu rhoi presgripsiwn i chi os oes angen moddion arnoch. Maen nhw hefyd yn gallu eich anfon at feddyg mwy arbenigol, neu i glinig sy’n arbenigo ar broblemau penodol, os mai dyna sydd ei angen arnoch.
Os ydych yn 16 neu’n hŷn, cewch gofrestru gyda meddyg teulu drosoch eich hun. Os ydych o dan 16, fel arfer bydd eich rhieni neu ofalwr yn gwneud yn siŵr eich bod wedi’ch cofrestru gyda meddyg teulu. Does dim rhaid i chi fod wedi’ch cofrestru gyda'r un meddyg â’ch rhieni neu ofalwr. Os ydych eisiau cofrestru gyda meddyg teulu heb i’ch rhieni neu ofalwr wybod, fe ddylech allu gwneud hynny, ond efallai y bydd y meddyg eisiau gofyn mwy o gwestiynau i chi ynglŷn â pam rydych chi eisiau gwneud hyn, er mwyn gwneud yn siŵr eich bod yn ddiogel.
Mewn achosion brys, mae’n bosib y bydd angen i chi fynd i’r ysbyty i’r adran Damweiniau ac Achosion Brys (A&E). Os na allwch gyrraedd yr ysbyty eich hun, gallwch ffonio am ambiwlans i’ch helpu. Mewn achos brys – os ydych wedi brifo yn ddifrifol, neu os ydych chi gyda rhywun sy’n anymwybodol neu’n cael trafferth anadlu, gallwch ffonio 999 i gael cymorth brys.
Hyd yn oed os cewch eich cymryd i’r ysbyty ar frys, neu os yw eich meddyg teulu’n eich anfon i weld meddyg yn yr ysbyty, cewch ofyn am gael gweld y meddyg ar eich pen eich hun os mai dyna fyddai orau gennych.
Wedi i chi gofrestru gyda meddyg teulu, fel arfer bydd yn rhaid i chi wneud apwyntiad gydag ef neu hi i drafod yr hyn sy’n eich poeni. Gallwch wneud hyn drwy fynd i’r feddygfa, neu drwy ei ffonio. Mae rhai meddygon teulu’n gadael i chi wneud apwyntiad ar-lein hefyd, ond mae’n debyg y bydd angen i chi greu cyfrif ar-lein er mwyn gwneud hynny. Efallai y cewch weld y meddyg y diwrnod hwnnw, neu efallai y bydd yn rhaid i chi aros.
Hyd yn oed os ydych wedi’ch cofrestru gyda’r un meddyg â’ch rhieni neu ofalwr, ac os ydych o dan 16, fe gewch weld y meddyg ar eich pen eich hun. Efallai y bydd y meddyg (neu’r nyrs) eisiau gwybod pam nad ydych eisiau i’ch rhiant fod gyda chi, ond does dim rhaid i chi ddweud wrthynt.
Er eich bod yn cael gweld meddyg ar eich pen eich hun i drafod unrhyw broblem sydd gennych, efallai y bydd angen i’r meddyg ofyn i oedolyn gytuno i unrhyw archwiliad neu driniaeth angenrheidiol.
Mae’n rhaid i’r meddyg wneud yn siŵr eich bod yn deall yn iawn y cyngor mae’n ei roi i chi, beth mae’r driniaeth yn ei olygu a beth allai ddigwydd. Dyma rydym yn ei alw’n ‘alluedd’. Mae’n rhaid i bob meddyg ofalu bod gan bawb y mae’n eu trin alluedd – weithiau does gan oedolion ddim galluedd, felly nid dim ond mater o oedran yw hyn. Os oes gennych ‘alluedd’, byddwch yn gallu cytuno i gael triniaeth heb fod oedolyn yn bresennol. Os ydych chi'n cytunoi gael triniaeth, bydd hynny'n cael ei alw'n ‘gydsynio’.
Pan fyddwch yn 16, byddwch yn cael cydsynio drosoch eich hun. Yn dibynnu beth yw’r broblem feddygol a’r driniaeth sydd ei hangen arnoch, efallai y byddwch yn cael cydsynio drosoch eich hun os ydych o dan 16. Mae’n ddyletswydd ar y meddyg i wneud yn siŵr bod gennych alluedd i wneud penderfyniad ym mhob sefyllfa. Os oes angen triniaeth arnoch am rywbeth eithaf syml efallai y bydd gennych alluedd i gydsynio i’r driniaeth, ond efallai na fydd gennych chi alleud i wneud penderfyniad mewn sefyllfa sy'n fwy cymhleth.
Os ydych o dan 16 a bod gennych alluedd, ac os nad ydych eisiau cael triniaeth, efallai y bydd y meddyg yn penderfynu siarad â’ch rhieni beth bynnag, os yw’n meddwl mai’r peth gorau i chi fyddai cael y driniaeth. Cewch wybod mwy am hyn yma.
Mae eich gwybodaeth feddygol yn bersonol i chi, cewch ddweud wrth eich meddyg nad ydych eisiau i neb arall weld eich gwybodaeth feddygol. Os yw eich meddyg yn meddwl bod angen i rywun arall gydsynio i unrhyw driniaeth sydd ei hangen arnoch, bydd angen i’r person hwnnw gael gwybodaeth am y driniaeth sydd ei hangen arnoch. Dyw hynny ddim yn golygu y dylai pwy bynnag sy’n cydsynio gael gweld eich cofnodion meddygol – dim ond yr hyn y mae angen ei weld er mwyn gallu cydsynio. Cewch wybod mwy am hyn yma.
Nid meddygon yw fferyllwyr, ond weithiau maen nhw’n gallu helpu a rhoi cyngor i chi ynglŷn â rhai problemau meddygol. Gallwch brynu rhai meddyginiaethau gan y fferyllydd, ond efallai na fydd yn cael gwerthu rhai meddyginiaethau i chi oherwydd eich oed. Gallwch fynd at y fferyllydd hefyd os ydych yn meddwl y gallech fod yn feichiog a bod angen atal cenhedlu brys arnoch. Cewch wybod mwy am hyn yma.
Mae rhifau ffôn y gallwch gysylltu â nhw i gael cyngor am broblemau meddygol.
Galw Iechyd Cymru 0845 46 47 yw’r rhif ffôn i’w ffonio os nad ydych yn teimlo’n hwylus ond nad yw’n ‘achos brys’. Efallai y byddwch yn siarad â nyrs yn gyntaf ac wedyn efallai y bydd meddyg yn eich ffonio’n ôl. Bydd angen i chi roi manylion amdanoch eich hun. Cewch siarad â meddyg neu gael gwybodaeth yn Gymraeg neu yn Saesneg.
Os nad ydych yn meddwl bod angen i chi weld meddyg ond eich bod eisiau gwybod mwy am broblem feddygol, gallwch ddefnyddio adnodd ar-lein y mae’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn ei gynnig.
Mae llawer o wybodaeth ar gael ar-lein am broblemau iechyd, ond os nad yw rhywbeth yn teimlo’n iawn neu os ydych yn poeni am rywbeth dylech weld meddyg a fydd yn gallu rhoi archwiliad i chi a defnyddio’i wybodaeth a’i brofiad i’ch helpu.
Os yw’r meddyg yn meddwl bod angen meddyginiaeth benodol arnoch bydd yn rhoi presgripsiwn i chi, sef dogfen i’w chyflwyno yn y fferyllfa i gael y feddyginiaeth. Weithiau bydd y fferyllfa yn yr un lle â’r feddygfa, ac weithiau bydd yn rhywle arall. Yng Nghymru, does neb yn gorfod talu am bresgripsiwn. Felly os bydd meddyg yng Nghymru’n rhoi presgripsiwn i chi am feddyginiaeth, fydd dim rhaid i chi dalu am y feddyginiaeth os ydych yn ei chael o fferyllfa yng Nghymru.
Rydym yn ddiolchgar iawn i gwmni Cyfreithwyr Irwin Mitchell am fod mor garedig â rhoi o’u hamser a’u harbenigedd i wirio cynnwys yr adran hon o’r wefan. Hydref 2018.