Gwneud penderfyniadau am ofal meddygol

  • Fe gewch gydsynio i gael triniaeth feddygol os ydych yn 16 neu’n hŷn, neu os ydych o dan 16 ond yn deall yr hyn sy’n digwydd
  • Os na allwch gydsynio, fe ddylai rhywun sydd â chyfrifoldeb rhiant amdanoch benderfynu a ddylech gael y driniaeth feddygol ai peidio
  • Weithiau, bydd meddygon yn cael eich trin heb gydsyniad

Mae'n bwysig iawn eich bod chi neu rywun sy'n gyfrifol amdanoch yn rhoi caniatâd cyn i feddyg neu nyrs eich archwilio neu eich trin chi. Rydym yn galw’r caniatâd hwn yn ‘gydsynio’. Weithiau, fydd neb yn gofyn yn benodol i chi a ydych yn cytuno i rywbeth ddigwydd. Ond os nad ydych eisiau cael archwiliad, neu driniaeth, fe gewch ddweud hynny. Hyd yn oed os nad ydych yn ddigon hen i gydsynio drosoch eich hun, fe ddylai’r meddyg a phwy bynnag a fydd yn cydsynio drosoch wrando ar yr hyn sydd gennych i’w ddweud.

Heblaw am achosion brys ac am rai rhesymau eraill penodol iawn, gallai meddyg sy’n eich trin heb i chi neu rywun sydd â chyfrifoldeb rhiant amdanoch gydsynio fod yn torri’r gyfraith.

 

 

 

 

Rydym yn ddiolchgar iawn i gwmni Cyfreithwyr Irwin Mitchell am fod mor garedig â rhoi o’u hamser a’u harbenigedd i wirio cynnwys yr adran hon o’r wefan. Hydref 2018.