- Mae gennych hawl i gael gofal iechyd da, yn ogstal â hawl i wneud yn siŵr eich bod yn gallu tyu datblygu'n iach i wneud yn siŵr eich bod yn gallu tyfu a datblygu’n iach
- Mae’n rhaid i feddygon a staff meddygol eraill bob amser wneud yr hyn sydd orau i chi
- Ddylech chi ddim cael eich trin yn annheg am unrhyw reswm wrth gael gofal meddygol
Does dim gwahaniaeth pam mae arnoch angen gofal meddygol, beth bynnag fo’r rheswm, mae gennych hawliau sy’n eich gwarchod chi. Mae eich hawliau’n diogelu eich preifatrwydd, yn rhoi llais i chi wrth wneud penderfyniadau am y triniaethau y byddwch chi’n eu cael, ac yn sicrhau bod gennych chi ddigon o wybodaeth i wneud y penderfyniadau cywir. Mae eich hawliau hefyd yn sicrhau, hyd yn oed os byddwch yn wael am gyfnod hir, bod eich hawliau eraill, fel eich hawliau i addysg, yn cael eu gwarchod.
Mae Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yn cyfeirio’n benodol at eich hawl i gael gofal iechyd da. Mae’n cynnwys eich iechyd corfforol a meddyliol.
Fe ddylai pob penderfyniad sy’n cael ei wneud am eich triniaeth feddygol gael ei wneud ar sail yr hyn sydd orau i chi. Ddylech chi ddim cael eich trin yn wahanol – nac yn annheg – am unrhyw reswm. Pan fydd yn rhaid gwneud penderfyniadau pwysig – ac anodd weithiau – dylid gwrando ar eich safbwynt chi. Efallai y byddwch chi’n cael gwneud y penderfyniadau pwysig ynglŷn â pha driniaeth i’w chael – neu a ddylech gael triniaeth o gwbl. Fe ddylech gael digon o wybodaeth i allu gwneud y penderfyniadau hyn gan wybod y ffeithiau i gyd.
Mae gennych hawl hefyd i gael eich diogelu rhag trais neu gamdriniaeth gan rywun sy’n gofalu amdanoch. Gallai hyn fod yn bwysig yn enwedig os oes raid i chi aros yn yr ysbyty neu yn rhywle arall lle rydych yn cael gofal.
Dyw eich hawl i gael addysg ddim yn dod i ben oherwydd eich bod yn sâl. Weithiau, efallai na fyddwch yn teimlo’n ddigon da i ddysgu, ond pan fyddwch yn teimlo’n ddigon da, fe ddylech allu parhau â’ch addysg, hyd yn oed os na allwch fynd i’r ysgol.
Yn y rhan hon o’r wefan rydym yn trafod rhai o’r materion y gallech fod eisiau eu gofyn ynglŷn â mynd at y meddyg, ac ynglŷn â gofal meddygol:
- Gwneud penderfyniadau am ofal meddygol
- Beth os ydych yn anghytuno â’r meddygon neu eich rhieni/gofalwyr
- Dal ati â’ch gwaith ysgol
- Aros yn yr ysbyty
- Cadw eich cofnodion meddygol yn breifat
- Pigiadau a’r nyrs ysgol
- Atal cenhedlu
- Beth i’w wneud os nad yw meddyg, nyrs neu rywun arall yn gofalu amdanoch yn iawn
Rydym yn ddiolchgar iawn i gwmni Cyfreithwyr Irwin Mitchell am fod mor garedig â rhoi o’u hamser a’u harbenigedd i wirio cynnwys yr adran hon o’r wefan. Hydref 2018.