Atal cenhedlu a beichiogrwydd

  • Ddylai eich meddyg neu nyrs ddim dweud wrth neb os ewch chi i siarad â nhw am rywbeth yn ymwneud â rhyw, heblaw eu bod yn poeni bod rhywun yn camfanteisio arnoch neu’n eich cam-drin
  • Fe ddylech allu cael darpariaeth atal cenhedlu, a chymorth a chefnogaeth os ydych yn feichiog
  • Mae eich hawliau plentyn yno i’ch diogelu rhag gorfod cael rhyw os nad ydych eisiau – ond hefyd i’ch cadw’n ddiogel os ydych chi eisiau cael rhyw

Mae cael gwybod am ryw ac atal cenhedlu’n rhan o’ch datblygiad ac fe ddylech allu cael gwybodaeth gywir er mwyn i chi allu gwneud y dewisiadau iawn. Efallai na fyddwch eisiau trafod hyn â’ch rhieni neu ofalwr, ond mae meddygon a nyrsys ar gael i siarad â chi a rhoi unrhyw help sydd ei angen arnoch, heb ddweud wrth eich rhieni os nad ydych eisiau iddynt wybod.

Bydd dulliau atal cenhedlu’n eich atal rhag mynd yn feichiog os ydych yn cael rhyw. Mae gwahanol ddulliau atal cenhedlu ar gael, gan gynnwys tabledi i’w cymryd bob dydd, patsys hormonau i’w gwisgo ar eich croen fel plaster, neu fewnblaniadau, neu ddulliau ‘rhwystrol’ fel condomau.

Os ydych dros 16, cewch siarad â meddyg neu nyrs am ddulliau atal cenhedlu a rhyw a chael presgripsiwn atal cenhedlu heb i oedolyn arall wybod. Yr unig adeg y gallai hynny beidio â digwydd yw os yw’r meddyg yn poeni nad ydych yn deall yn iawn yr hyn y mae’n ei olygu.

Os ydych o dan 16, gallwch siarad â meddyg neu nyrs ar eich pen eich hun a dylent gadw popeth yn gyfrinachol. Os yw’r meddyg yn hapus eich bod yn deall goblygiadau dulliau atal cenhedlu, beth mae hynny’n ei olygu, ac unrhyw beryglon, gall roi dull atal cenhedlu i chi heb i’ch rhieni wybod.

Os yw’r meddyg neu nyrs yn poeni bod perygl i chi gael niwed, fel rhywun yn camfanteisio arnoch neu eich cam-drin yn rhywiol, efallai y bydd y meddyg neu nyrs yn dweud wrth rhywun ac yn rhoi gwybodaeth i’r unigolyn hwnnw a fydd yn eich cadw chi’n ddiogel ac yn iach. Gall y meddyg neu nyrs wneud hyn hyd yn oed os ydych chi wedi dweud wrthynt nad ydych chi am i neb arall wybod, ond dim ond yr wybodaeth sy’n ymwneud â’ch diogelwch y bydd modd iddynt ei rhannu. Gall y meddyg neu nyrs wneud hyn os ydych chi’n 16 neu hŷn hefyd.

Os ydych chi'n fenyw ac wedi cael rhyw heb ddefnyddio dull atal cenhedlu, fe allech fod yn feichiog. Os nad ydych eisiau hynny, gallwch gael dulliau atal cenhedlu brys a fydd yn lleihau’r risg o feichiogi. Fe ddylai eich meddyg neu glinig iechyd rhywiol allu rhoi presgripsiwn i chi ar gyfer atal cenhedlu brys, hyd yn oed os ydych o dan 16, os ydyn nhw’n hapus eich bod yn deall beth yw’r goblygiadau. Yng Nghymru, mae rhai fferyllfeydd yn gallu rhoi dulliau atal cenhedlu brys yn rhad ac am ddim heb bresgripsiwn.

Os ydych chi’n wryw ac wedi cael rhyw diamddiffyn gyda phartner sy’n fenyw, gall hi feichiogi. Gallwch drafod yr opsiynau sydd ar gael gyda’ch partner, gan gynnwys defnyddio dull atal cenhedlu brys, os ydych chi’n dau am osgoi beichiogrwydd.

Mae’n rhaid i chi neu eich partner sy'n fenyw ddefnyddio dull atal cenhedlu brys yn fuan iawn ar ôl i chi gael rhyw heb ddiogelwch er mwyn iddo weithio. Os oes un ohonoch y poeni am fod yn feichiog, ewch i weld eich meddyg neu glinig cynllunio teulu cyn gynted â phosib.

Er bod yn rhaid i’ch meddyg gadw eich trafodaethau’n gyfrinachol, efallai y bydd yn ceisio eich perswadio i siarad â’ch rhieni neu ofalwr ynglŷn â’r hyn sy’n digwydd, i wneud yn siŵr eich bod yn cael y math iawn o gefnogaeth.

Os ydych chi’n cael rhyw diamddiffyn, gallwch fod mewn perygl o ddal haint a drosglwyddir yn rhywiol (STI) gan eich partner. Gall dynion a merched ddatblygu STIs, a gall hyn ddigwydd i chi os ydych chi’n cael rhyw heb ddefnyddio dull atal cenhedlu boed eich partner yn fenyw neu’n wryw. Gall STIs arwain at ganlyniadau difrifol felly, os ydych chi wedi cael rhyw diamddiffyn, efallai y byddai’n syniad da i chi fynd i weld meddyg neu glinig iechyd rhywiol i gael profion. Os oes gennych chi STI, gallwch gael triniaeth a chymorth. Yn yr un modd â thrafodaethau am ddulliau atal cenhedlu a beichiogrwydd, mae gennych hawl i gael trafod yn gyfrinachol ac ni ddylai gwybodaeth gael ei rhannu oni bai fod y meddyg neu weithiwr iechyd proffesiynol yn poeni eich bod chi mewn perygl.

Os ydych yn meddwl y gallech fod yn feichiog, gall eich meddyg neu glinig iechyd rhywiol roi prawf beichiogrwydd yn rhad ac am ddim i chi, neu gallwch brynu prawf beichiogrwydd yn y rhan fwyaf o fferyllfeydd, ac weithiau mewn archfarchnadoedd. Os ydych yn feichiog bydd yn rhaid i chi wneud llawer o benderfyniadau. Fe ddylech gael digon o wybodaeth i allu gwneud y penderfyniadau hynny.

Os ewch chi i weld eich meddyg i gael prawf beichiogrwydd, fe ddylai’r meddyg gadw hyn yn gyfrinachol a pheidio â dweud wrth neb, gan gynnwys eich rhieni, os dyna rydych chi ei eisiau. Yn union fel unrhyw drafodaethau eraill rhyngoch a’ch meddyg, fydd ef neu hi ddim ond yn dweud wrth rywun arall heb eich caniatâd os yw’n poeni eich bod mewn perygl, neu y gallech gael niwed.

Gall beichiogrwydd achosi pryder i fechgyn a dynion hefyd. Os ydych chi’n poeni y gall eich partner fod yn feichiog, gallech ystyried siarad â hi ynghylch myned i weld meddyg neu wneud prawf beichiogrwydd – mae’r rhain ar gael i’w prynu mewn fferyllfeydd a rhai archfarchnadoedd heb bresgripsiwn.

 

 

 

Rydym yn ddiolchgar iawn i gwmni Cyfreithwyr Irwin Mitchell am fod mor garedig â rhoi o’u hamser a’u harbenigedd i wirio cynnwys yr adran hon o’r wefan. Hydref 2018