- Os cewch ddamwain, neu os byddwch chi’n sâl iawn, neu’n gorfod cael llawdriniaeth, efallai y bydd yn rhaid i chi aros yn yr ysbyty i gael y gofal gorau
- Dyw eich hawliau ddim yn dod i ben am fod yn rhaid i chi aros yn yr ysbyty
- Tra byddwch chi yn yr ysbyty, bydd gennych eich holl hawliau plentyn – ac fe allai rhai hawliau nad ydych efallai wedi meddwl amdanynt fod yn bwysicach nag arfer
Gall aros yn yr ysbyty fod yn brofiad brawychus i bobl o bob oed. Rydych oddi cartref, mae popeth yn wahanol, ac ar ben hynny, rydych wedi brifo neu’n sâl neu ar fin cael llawdriniaeth. Mwy fyth o reswm felly pam ei bod yn bwysig i chi gael eich trin yn unol â’ch hawliau.
Bydd hynny’n dibynnu ar pam rydych chi yn yr ysbyty, pa adnoddau sydd gan yr ysbyty, a phwy arall sydd yn yr ysbyty ar yr un pryd â chi. Hyd yn oed os na fydd gennych ystafell i chi eich hun, mae gennych hawl i breifatrwydd. Fe ddylech hefyd gael eich trin â pharch. Mae hynny’n golygu y dylech gael preifatrwydd hyd yn oed os nad ydych yn eich ystafell eich hun.
Fe ddylech gael eich diogelu rhag trais neu gamdriniaeth gan rywun sy’n gofalu amdanoch. Os ydych yn poeni am rywbeth sydd wedi digwydd i chi yn yr ysbyty, neu am y ffordd mae rhywun wedi eich trin yn yr ysbyty, dylech ddweud wrth rywun yn syth. Does dim ots beth sydd wedi digwydd na phryd. Efallai iddo ddigwydd pan oeddech yn cael triniaeth, neu pan oeddech yn cysgu neu yn eich gwely. Fe ddylech deimlo’n ddiogel yn yr ysbyty, a theimlo’n sicr fod pawb yn gwneud yr hyn sydd orau i chi.
Dylech bob amser gael eich cynnwys cyhyd â phosib yn yr hyn sy’n digwydd i chi. Dylai pwy bynnag sy’n gofalu amdanoch roi cymaint o wybodaeth â phosib i chi er mwyn i chi allu deall yr hyn sy’n digwydd i chi. Fe ddylent hefyd siarad â chi am yr hyn sy’n digwydd a gofyn beth yw eich barn. Efallai nad chi fydd yn gwneud penderfyniadau am eich triniaeth. Os na allwch wneud hynny, fe ddylai pwy bynnag sy’n gwneud y penderfyniadau wrando ar eich barn, a’i hystyried.
Mae gan y rhan fwyaf o ysbytai ward plant lle bydd rhywun yn cael aros gyda chi – rhiant neu ofalwr fel arfer. Fel arfer bydd eich ffrindiau ac aelodu eraill o'ch teulu yn gallu dod i'ch gweld tra byddwchm yn yr ysbyty.
Os oes raid i chi aros yn yr ysbyty am gyfnod hir, ac nad ydych yn gallu mynd i’r ysgol, fe ddylai’r awdurdod lleol weithio gyda chi i wneud trefniadau i chi gael parhau â’ch addysg. Weithiau efallai na fyddwch yn teimlo’n ddigon da i wneud gwaith ysgol, ond pan fyddwch yn teimlo’n ddigon da, fe ddylech allu dal ati â’ch gwaith ysgol. Cewch wybod mwy am eich hawliau i gael addysg yma.
Rydym yn ddiolchgar iawn i gwmni Cyfreithwyr Irwin Mitchell am fod mor garedig â rhoi o’u hamser a’u harbenigedd i wirio cynnwys yr adran hon o’r wefan. Hydref 2018.