- Os ydych chi’n ennill digon o arian, mae’n rhaid i chi dalu treth, faint bynnag yw eich oed
- Tra byddwch chi yn yr ysgol, go brin y byddwch yn agos at ennill digon o arian i dalu treth
- Ar ôl i chi adael yr ysgol a dechrau gweithio, mae’n debyg y bydd yn rhaid i chi dalu treth ac Yswiriant Gwladol
Os ydych chi’n ennill mwy na swm penodol o arian, mae’n rhaid i chi dalu treth. Does dim ots faint yw eich oed. Os ydych chi yn yr ysgol yn llawn amser, mae’n siŵr na fydd gennych ddigon o amser i ennill digon o arian i dalu treth. Ar ôl i chi adael yr ysgol a dechrau gweithio, mae’n debyg y bydd hynny’n newid.
Taliad gennych chi i’r Llywodraeth yw treth incwm, yn seiliedig ar faint o arian rydych yn ei ennill. Mae’n cael ei defnyddio i ariannu pethau fel ysbytai, ysgolion a thai cyhoeddus, ac i fuddsoddi mewn pethau mae pawb yn eu defnyddio fel ffyrdd.
Mae’n rhaid i chi dalu treth incwm ar ôl i chi ddechrau ennill swm penodol o arian. Does dim ots faint yw eich oed, ond os ydych chi yn yr ysgol go brin y byddwch yn gweithio digon o oriau nac yn ennill digon o arian i dalu treth incwm. Ar ôl i chi adael yr ysgol a dechrau gweithio, mae’n ddigon posib y byddwch yn ennill digon i dalu treth.
Os ydych chi’n 16 neu’n 17, £4.05 fydd eich isafswm tâl fesul awr. Os dyna faint rydych yn cael eich talu, mae’n debyg na fyddwch yn ennill digon i dalu treth. Mae angen i chi fod yn ennill tua £958 y mis (£987.50 o fis Ebrill 2018) cyn i chi orfod talu treth incwm.
Canran o’ch enillion yw treth incwm. Fyddwch chi ddim yn talu dim ar yr £11,500 cyntaf i chi ei ennill mewn blwyddyn (£11,850 o fis Ebrill 2018). Rydych yn talu 20% o bopeth a enillwch rhwng £11,501 a £45,000 (£46,350 o fis Ebrill 2018). Rydych yn talu 40% o bopeth a enillwch dros £45,000 ac o dan £150,000. Mae’r lefelau hyn yn newid bob blwyddyn. Cewch weld beth yw’r sefyllfa ar hyn o bryd yma.
Bydd eich cyflogwr yn tynnu treth incwm ac yswiriant gwladol o’ch cyflog ac yn talu’r swm hwnnw i’r llywodraeth cyn i chi gael eich tâl. Byddwch yn cael tâl ‘net’.
Os penderfynwch weithio i chi eich hun a gwneud gwaith ‘llawrydd’, bydd yn rhaid i chi dalu treth incwm o hyd ond bydd angen i chi gyfrifo faint mae’n rhaid i chi ei dalu a chyflwyno ffurflen dreth. Gelwir hyn yn ‘hunanasesiad’.
Mae Yswiriant Gwladol yn fath arall o daliad y mae’n rhaid i chi ei wneud i’r Llywodraeth ar ôl i chi ddechrau ennill swm penodol o arian. Drwy dalu Yswiriant Gwladol, rydych yn cronni eich hawl i gael budd-daliadau’r wladwriaeth fel tâl mamolaeth a phensiwn y wladwriaeth. Fyddwch chi ddim yn talu Yswiriant Gwladol tan i chi ddechrau ennill yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol.
Rydych yn talu Yswiriant Gwladol os ydych yn ennill mwy na £157 yr wythnos. Os ydych chi’n ennill dros £157 a hyd at (a gan gynnwys) £866 yr wythnos, rydych yn talu 12% o’ch enillion. Os ydych chi’n ennill dros £866 yr wythnos, rydych yn talu o’ch enillion ar bopeth dros y lefel honno.
Mae’r Llywodraeth yn defnyddio llawer o wahanol drethi i godi arian.
- Pan fyddwch yn prynu tŷ, mae’n rhaid i chi dalu rhywbeth o’r enw ‘Treth Stamp’ sy’n gysylltiedig â faint rydych yn ei dalu am y tŷ.
- Pan fydd rhywun yn marw, mae’n bosib y bydd yn rhaid talu ‘Treth Etifeddu’ ar yr arian maen nhw’n ei adael
- Os ydych yn berchen ar fwy nag un tŷ, ac yn gwerthu un ohonynt, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu rhywbeth o’r enw ‘Treth Enillion Cyfalaf’ ar y gwahaniaeth rhwng y pris y gwnaethoch chi ei dalu am y tŷ a’r pris gwerthu.
- Os oes gennych gwmni, bydd y cwmni’n talu treth gorfforaethol ar yr arian mae’r cwmni’n ei ennill.