Profiad gwaith ac interniaethau di-dâl

  • Gall profiad gwaith ac interniaethau fod yn rhai gyda thâl neu’n rhai di-dâl
  • Os ydych chi’n gwneud ‘gwaith’ yn hytrach nag yn dod i wybod mwy am swydd benodol, efallai y bydd gennych hawl i gael eich talu (hyd yn oed os nad yw’r sefydliad yn eich talu)
  • Os yw eich profiad gwaith neu eich interniaeth yn golygu eich bod yn ‘weithiwr’ bydd gennych rai hawliau cyflogaeth

Os yw’r swydd rydych chi ei heisiau’n gofyn am brofiad, sut mae cael y profiad sydd ei angen? Os nad ydych yn gwybod beth hoffech chi ei wneud pan fyddwch yn dechrau gweithio, sut mae cael gwybod hynny? Gall profiad gwaith ac interniaethau fod yn gyfle da i gael gwybod mwy am ddiwydiant penodol, neu swydd benodol, sydd o ddiddordeb i chi. Er nad ‘gwaith’ yw hynny, mae’n bwysig gwybod beth i’w ddisgwyl.